YouVersion Logo
Search Icon

Nehemeia 2

2
1Ac ym mis Nisan, yn yr ugeinfed flwyddyn i Artacsercses y brenin, yr oedd gwin o’i flaen ef: a mi a gymerais y gwin, ac a’i rhoddais i’r brenin. Ond ni byddwn arferol o fod yn drist ger ei fron ef. 2Am hynny y brenin a ddywedodd wrthyf, Paham y mae dy wynepryd yn drist, a thithau heb fod yn glaf? nid yw hyn ond tristwch calon. Yna yr ofnais yn ddirfawr: 3A dywedais wrth y brenin, Byw fyddo’r brenin yn dragywydd: paham na thristâi fy wyneb, pan fyddai y ddinas, tŷ beddrod fy nhadau, wedi ei dinistrio, a’i phyrth wedi eu hysu â thân? 4A’r brenin a ddywedodd wrthyf, Pa beth yr wyt ti yn ei ddymuno? Yna y gweddïais ar Dduw y nefoedd. 5A mi a ddywedais wrth y brenin, O rhynga bodd i’r brenin, ac od yw dy was yn gymeradwy ger dy fron di, ar i ti fy anfon i Jwda, i ddinas beddrod fy nhadau, fel yr adeiladwyf hi. 6A’r brenin a ddywedodd wrthyf, a’i wraig yn eistedd yn ei ymyl ef, Pa hyd y bydd dy daith di, a pha bryd y dychweli? A gwelodd y brenin yn dda fy anfon i, a minnau a nodais iddo amser. 7Yna y dywedais wrth y brenin, O rhynga bodd i’r brenin, rhodder i mi lythyrau at y tywysogion o’r tu hwnt i’r afon, fel y trosglwyddont fi nes fy nyfod i Jwda; 8A llythyr at Asaff, ceidwad coedwig y brenin, fel y rhoddo efe i mi goed i wneuthur trawstiau i byrth y palas y rhai a berthyn i’r tŷ, ac i fur y ddinas, ac i’r tŷ yr elwyf iddo. A’r brenin a roddodd i mi, fel yr oedd daionus law fy Nuw arnaf fi.
9Yna y deuthum at y tywysogion o’r tu hwnt i’r afon, ac a roddais iddynt lythyrau y brenin. A’r brenin a anfonasai dywysogion y llu, a marchogion gyda mi. 10Pan glybu Sanbalat yr Horoniad, a Thobeia y gwas, yr Ammoniad, y peth hyn, bu ddrwg iawn ganddynt, am ddyfod dyn i geisio daioni i feibion Israel. 11Felly mi a ddeuthum i Jerwsalem, ac a fûm yno dridiau.
12A chyfodais liw nos, myfi ac ychydig wŷr gyda mi; ac ni fynegais i neb beth a roddasai fy Nuw yn fy nghalon ei wneuthur yn Jerwsalem: ac anifail nid oedd gennyf, ond yr anifail yr oeddwn yn marchogaeth arno. 13A mi a euthum allan liw nos, trwy borth y glyn, ar gyfer ffynnon y ddraig, ac at borth y dom; a deliais sylw ar furiau Jerwsalem y rhai oedd wedi eu dryllio, a’i phyrth y rhai oedd wedi eu hysu â thân. 14Yna y tramwyais i borth y ffynnon, ac at bysgodlyn y brenin: ac nid oedd le i’r anifail oedd danaf i fyned heibio. 15A mi a euthum i fyny gan lan yr afon liw nos, ac a ddeliais sylw ar y mur, ac a ddychwelais, ac a ddeuthum trwy borth y glyn, ac felly y troais yn ôl. 16A’r penaethiaid ni wyddent i ba le yr aethwn i, na pheth yr oeddwn yn ei wneuthur; a hyd yn hyn ni fynegaswn ddim i’r Iddewon, nac i’r offeiriaid, nac i’r pendefigion, nac i’r penaethiaid, nac i’r rhan arall oedd yn gwneuthur y gwaith.
17Yna y dywedais wrthynt, Yr ydych yn gweled yr adfyd yr ydym ynddo, fod Jerwsalem wedi ei dinistrio, a’i phyrth wedi eu llosgi â thân: deuwch, ac adeiladwn fur Jerwsalem, fel na byddom mwyach yn waradwydd. 18Yna y mynegais iddynt fod llaw fy Nuw yn ddaionus tuag ataf; a geiriau y brenin hefyd y rhai a ddywedasai efe wrthyf. A hwy a ddywedasant, Cyfodwn, ac adeiladwn. Felly y cryfhasant eu dwylo i ddaioni. 19Ond pan glybu Sanbalat yr Horoniad, a Thobeia y gwas, yr Ammoniad, a Gesem yr Arabiad, hyn, hwy a’n gwatwarasant ni, ac a’n dirmygasant, ac a ddywedasant, Pa beth yw hyn yr ydych chwi yn ei wneuthur? a wrthryfelwch chwi yn erbyn y brenin? 20Yna yr atebais hwynt, ac y dywedais wrthynt, Duw y nefoedd, efe a’n llwydda ni; a ninnau ei weision ef a gyfodwn, ac a adeiladwn: ond nid oes i chwi ran, na chyfiawnder, na choffadwriaeth yn Jerwsalem.

Currently Selected:

Nehemeia 2: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy