YouVersion Logo
Search Icon

Nehemeia 12

12
1Dyma hefyd yr offeiriaid a’r Lefiaid, y rhai a ddaethant i fyny gyda Sorobabel mab Salathiel, a Jesua: sef Seraia, Jeremeia, Esra, 2Amareia, Maluch, Hattus, 3Sechaneia, Rehum, Meremoth, 4Ido, Ginnetho, Abeia, 5Miamin, Maadia, Bilga, 6Semaia, a Joiarib, Jedaia, 7Salu, Amoc, Hilceia, Jedaia: dyma benaethiaid yr offeiriaid a’u brodyr yn nyddiau Jesua. 8A’r Lefiaid: Jesua, Binnui, Cadmiel, Serebeia, Jwda; a Mataneia oedd ar y gerdd, efe a’i frodyr. 9Bacbuceia hefyd ac Unni, eu brodyr hwynt, oedd ar eu cyfer yn y gwyliadwriaethau.
10A Jesua a genhedlodd Joiacim, a Joiacim a genhedlodd Eliasib, ac Eliasib a genhedlodd Joiada, 11A Joiada a genhedlodd Jonathan, a Jonathan a genhedlodd Jadua. 12Ac yn nyddiau Joiacim, yr offeiriaid hyn oedd bennau-cenedl: o Seraia, Meraia; o Jeremeia, Hananei; 13O Esra, Mesulam; o Amareia Jehohanan; 14O Melichu, Jonathan; o Sebaneia, Joseff; 15O Harim, Adna; o Meraioth, Helcai; 16O Ido, Sechareia; o Ginnethon, Mesulam; 17O Abeia, Sichri; o Miniamin, o Moadeia, Piltai; 18O Bilga, Sammua; o Semaia, Jehonathan; 19Ac o Joiarib, Matenai; o Jedaia, Ussi; 20O Salai, Calai; o Amoc, Eber; 21O Hilceia, Hasabeia: o Jedaia, Nethaneel.
22Y Lefiaid yn nyddiau Eliasib, Joiada, a Johanan, a Jadua, oedd wedi eu hysgrifennu yn bennau-cenedl: a’r offeiriaid, hyd deyrnasiad Dareius y Persiad. 23Meibion Lefi, y pennau-cenedl, wedi eu hysgrifennu yn llyfr y croniclau, hyd ddyddiau Johanan mab Eliasib. 24A phenaethiaid y Lefiaid, oedd Hasabeia, Serebeia, a Jesua mab Cadmiel, a’u brodyr ar eu cyfer, i ogoneddu ac i foliannu, yn ôl gorchymyn Dafydd gŵr Duw, gwyliadwriaeth ar gyfer gwyliadwriaeth. 25Mataneia, a Bacbuceia, Obadeia, Mesulam, Talmon, Accub, oedd borthorion, yn cadw gwyliadwriaeth wrth drothwyau y pyrth. 26Y rhai hyn oedd yn nyddiau Joiacim mab Jesua, fab Josadac, ac yn nyddiau Nehemeia y tywysog, ac Esra yr offeiriad a’r ysgrifennydd.
27Ac yng nghysegriad mur Jerwsalem y ceisiasant y Lefiaid o’u holl leoedd, i’w dwyn i Jerwsalem, i wneuthur y cysegriad â gorfoledd, mewn diolchgarwch, ac mewn cân, â symbalau, nablau, ac â thelynau. 28A meibion y cantorion a ymgynullasant o’r gwastadedd o amgylch i Jerwsalem, ac o drefydd Netoffathi, 29Ac o dŷ Gilgal, ac o feysydd Geba ac Asmafeth: canys y cantorion a adeiladasent bentrefi iddynt o amgylch Jerwsalem. 30Yr offeiriaid hefyd a’r Lefiaid a ymlanhasant; glanhasant hefyd y bobl, a’r pyrth, a’r mur. 31A mi a berais i dywysogion Jwda ddringo ar y mur; a gosodais ddwy fintai fawr o rai yn moliannu; a mynediad y naill oedd ar y llaw ddeau ar y mur tua phorth y dom: 32Ac ar eu hôl hwynt yr aeth Hosaia, a hanner tywysogion Jwda, 33Asareia hefyd, Esra, a Mesulam, 34Jwda, a Benjamin, a Semaia, a Jeremeia, 35Ac o feibion yr offeiriaid ag utgyrn, Sechareia mab Jonathan, fab Semaia, fab Mataneia, fab Michaia, fab Saccur, fab Asaff; 36A’i frodyr ef, Semaia, ac Asarael, Milalai, Gilalai, Maai, Nethaneel, a Jwda, Hanani, ag offer cerdd Dafydd gŵr Duw, ac Esra yr ysgrifennydd o’u blaen hwynt. 37Ac wrth borth y ffynnon, yr hon oedd ar eu cyfer hwynt, y dringasant ar risiau dinas Dafydd yn nringfa y mur, oddi ar dŷ Dafydd, hyd borth y dwfr tua’r dwyrain. 38A’r ail fintai o’r rhai oedd yn moliannu, oedd yn myned ar eu cyfer hwynt, a minnau ar eu hôl; a hanner y bobl oedd ar y mur, oddi ar dŵr y ffyrnau, hyd y mur llydan; 39Ac oddi ar borth Effraim, ac oddi ar yr hen borth, ac oddi ar borth y pysgod, a thŵr Hananeel, a thŵr Mea, hyd borth y defaid; a hwy a safasant ym mhorth yr wyliadwriaeth. 40Felly y ddwy fintai, y rhai oedd yn moliannu, a safasant yn nhŷ Dduw, a minnau, a hanner y swyddogion gyda mi: 41Yr offeiriaid hefyd; Eliacim, Maaseia, Miniamin, Michaia, Elioenai, Sechareia, Hananeia, ag utgyrn: 42Maaseia hefyd, a Semaia, ac Eleasar, ac Ussi, a Jehohanan, a Malcheia, ac Elam, ac Esra. A’r cantorion a ganasant yn groch, a Jasraheia eu blaenor. 43A’r diwrnod hwnnw yr aberthasant ebyrth mawrion, ac y llawenhasant: canys Duw a’u llawenychasai hwynt â llawenydd mawr: y gwragedd hefyd a’r plant a orfoleddasant: fel y clybuwyd llawenydd Jerwsalem hyd ymhell.
44A’r dwthwn hwnnw y gosodwyd gwŷr ar gelloedd y trysorau, ar yr offrymau, ar y blaenffrwyth, ac ar y degymau, i gasglu iddynt hwy o feysydd y dinasoedd y rhannau cyfreithlon i’r offeiriaid a’r Lefiaid: canys llawenydd Jwda oedd ar yr offeiriaid ac ar y Lefiaid y rhai oedd yn sefyll yno. 45Y cantorion hefyd a’r porthorion a gadwasant wyliadwriaeth eu Duw, a gwyliadwriaeth y glanhad, yn ôl gorchymyn Dafydd, a Solomon ei fab. 46Canys gynt, yn nyddiau Dafydd ac Asaff, yr oedd y pen-cantorion, a chaniadau canmoliaeth a moliant i Dduw. 47Ac yn nyddiau Sorobabel, ac yn nyddiau Nehemeia, holl Israel oedd yn rhoddi rhannau i’r cantorion, a’r porthorion, dogn dydd yn ei ddydd: a hwy a gysegrasant bethau sanctaidd i’r Lefiaid; a’r Lefiaid a’u cysegrasant i feibion Aaron.

Currently Selected:

Nehemeia 12: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy