YouVersion Logo
Search Icon

Galarnad 3

3
1Myfi yw y gŵr a welodd flinder gan wialen ei ddigofaint ef. 2I dywyllwch, ac nid i oleuni, yr arweiniodd ac y tywysodd efe fi. 3Yn fy erbyn i yn ddiau y trodd efe, ac y mae efe yn troi ei law ar hyd y dydd. 4Efe a wnaeth fy nghnawd a’m croen yn hen; efe a ddrylliodd fy esgyrn. 5Efe a adeiladodd i’m herbyn, ac a’m hamgylchodd â bustl ac â blinder. 6Efe a’m gosododd mewn tywyll leoedd, fel y rhai sydd wedi marw er ys talm. 7Efe a gaeodd o’m hamgylch, fel nad elwyf allan: efe a wnaeth fy llyffethair i yn drom. 8Pan lefwyf, a phan floeddiwyf, efe a gae allan fy ngweddi. 9Efe a gaeodd fy ffyrdd â cherrig nadd; efe a wyrodd fy llwybrau. 10Yr oedd efe i mi fel arth yn cynllwyn, neu lew mewn llochesau. 11Efe a wyrodd fy ffyrdd, ac a’m drylliodd; yn anrheithiedig y gwnaeth fi. 12Efe a anelodd ei fwa, ac a’m gosododd fel nod i saeth. 13Efe a wnaeth i saethau ei gawell fyned i’m harennau. 14Gwatwargerdd oeddwn i’m holl bobl, a’u cân ar hyd y dydd. 15Efe a’m llanwodd â chwerwder; efe a’m meddwodd i â’r wermod. 16Efe a dorrodd fy nannedd â cherrig, ac a’m trybaeddodd yn y llwch. 17A phellheaist fy enaid oddi wrth heddwch; anghofiais ddaioni. 18A mi a ddywedais, Darfu am fy nerth a’m gobaith oddi wrth yr Arglwydd. 19Cofia fy mlinder a’m gofid, y wermod a’r bustl. 20Fy enaid gan gofio a gofia, ac a ddarostyngwyd ynof fi. 21Hyn yr ydwyf yn ei atgofio; am hynny y gobeithiaf.
22Trugareddau yr Arglwydd yw na ddarfu amdanom ni: oherwydd ni phalla ei dosturiaethau ef. 23Bob bore y deuant o newydd: mawr yw dy ffyddlondeb. 24Yr Arglwydd yw fy rhan i, medd fy enaid; am hynny y gobeithiaf ynddo. 25Daionus yw yr Arglwydd i’r rhai a ddisgwyliant wrtho, ac i’r enaid a’i ceisio. 26Da yw gobeithio a disgwyl yn ddistaw am iachawdwriaeth yr Arglwydd. 27Da yw i ŵr ddwyn yr iau yn ei ieuenctid. 28Efe a eistedd ei hunan, ac a dau â sôn; am iddo ei dwyn hi arno. 29Efe a ddyry ei enau yn y llwch, i edrych a oes obaith. 30Efe a ddyry ei gern i’r hwn a’i trawo: efe a lenwir â gwaradwydd. 31Oblegid nid yn dragywydd y gwrthyd yr Arglwydd: 32Ond er iddo gystuddio, eto efe a dosturia, yn ôl amlder ei drugareddau. 33Canys nid o’i fodd y blina efe, nac y cystuddia blant dynion. 34I fathru holl garcharorion y ddaear dan ei draed, 35I wyro barn gŵr o flaen wyneb y Goruchaf, 36Nid yw yr Arglwydd yn gweled yn dda wneuthur cam â gŵr yn ei fater.
37Pwy a ddywed y bydd dim, heb i’r Arglwydd ei orchymyn? 38Oni ddaw o enau y Goruchaf ddrwg a da? 39Paham y grwgnach dyn byw, gŵr am gosbedigaeth ei bechod? 40Ceisiwn a chwiliwn ein ffyrdd, a dychwelwn at yr Arglwydd. 41Dyrchafwn ein calonnau a’n dwylo at Dduw yn y nefoedd. 42Nyni a wnaethom gamwedd, ac a fuom anufudd; tithau nid arbedaist. 43Gorchuddiaist ni â soriant, ac erlidiaist ni: lleddaist, nid arbedaist. 44Ti a’th guddiaist dy hun â chwmwl, fel na ddeuai ein gweddi trwodd. 45Ti a’n gwnaethost yn sorod ac yn ysgubion yng nghanol y bobl. 46Ein holl elynion a ledasant eu safnau yn ein herbyn. 47Dychryn a magl a ddaeth arnom, anrhaith a dinistr. 48Fy llygad a ddiferodd ffrydiau o ddwfr, oherwydd dinistr merch fy mhobl. 49Fy llygad a ddiferodd, ac ni pheidiodd, am nad oes gorffwystra; 50Hyd oni edrycho, ac oni ystyrio yr Arglwydd o’r nefoedd. 51Y mae fy llygad yn blino fy enaid, oherwydd holl ferched fy ninas. 52Fy ngelynion gan hela a’m heliasant yn ddiachos, fel aderyn. 53Torasant ymaith fy einioes yn y pwll, a bwriasant gerrig arnaf. 54Y dyfroedd a lifasant dros fy mhen: dywedais, Torrwyd fi ymaith.
55Gelwais ar dy enw di, O Arglwydd, o’r pwll isaf. 56Ti a glywaist fy llef: na chudd dy glust rhag fy uchenaid a’m gwaedd. 57Ti a ddaethost yn nes y dydd y gelwais arnat: dywedaist, Nac ofna. 58Ti, O Arglwydd, a ddadleuaist gyda’m henaid: gwaredaist fy einioes. 59Ti, O Arglwydd, a welaist fy ngham: barn di fy marn i. 60Ti a welaist eu holl ddial hwynt, a’u holl amcanion i’m herbyn i. 61Clywaist eu gwaradwydd, O Arglwydd, a’u holl fwriadau i’m herbyn; 62Gwefusau y rhai a godant i’m herbyn, a’u myfyrdod i’m herbyn ar hyd y dydd. 63Edrych ar eu heisteddiad a’u cyfodiad; myfi yw eu cân hwynt.
64Tâl y pwyth iddynt, O Arglwydd, yn ôl gweithred eu dwylo. 65Dod iddynt ofid calon, dy felltith iddynt. 66Erlid hwynt â digofaint, a difetha hwy oddi tan nefoedd yr Arglwydd.

Currently Selected:

Galarnad 3: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy