YouVersion Logo
Search Icon

Galarnad 2

2
1Pa fodd y dug yr Arglwydd gwmwl ar ferch Seion yn ei soriant, ac y bwriodd degwch Israel i lawr o’r nefoedd, ac na chofiodd leithig ei draed yn nydd ei ddigofaint! 2Yr Arglwydd a lyncodd, heb arbed, holl anheddau Jacob; efe a ddifrododd yn ei ddicter amddiffynfeydd merch Jwda; efe a’u tynnodd hwynt i lawr, ac a ddifwynodd y deyrnas a’i thywysogion. 3Mewn soriant dicllon y torrodd efe holl gorn Israel: efe a dynnodd ei ddeheulaw yn ei hôl oddi wrth y gelyn; ac yn erbyn Jacob y cyneuodd megis fflam danllyd, yr hon a ddifa o amgylch. 4Efe a anelodd ei fwa fel gelyn; safodd â’i ddeheulaw fel gwrthwynebwr, ac a laddodd bob dim hyfryd i’r golwg ym mhabell merch Seion: fel tân y tywalltodd efe ei ddigofaint. 5Yr Arglwydd sydd megis gelyn: efe a lyncodd Israel, efe a lyncodd ei holl balasau hi: efe a ddifwynodd ei hamddiffynfeydd, ac a wnaeth gwynfan a galar yn aml ym merch Jwda. 6Efe a anrheithiodd ei babell fel gardd; efe a ddinistriodd leoedd ei gymanfa: yr Arglwydd a wnaeth anghofio yn Seion yr uchel ŵyl a’r Saboth, ac yn llidiowgrwydd ei soriant y dirmygodd efe y brenin a’r offeiriad. 7Yr Arglwydd a wrthododd ei allor, a ffieiddiodd ei gysegr; rhoddodd gaerau ei phalasau hi yn llaw y gelyn: rhoddasant floedd yn nhŷ yr Arglwydd, megis ar ddydd uchel ŵyl. 8Yr Arglwydd a fwriadodd ddifwyno mur merch Seion; efe a estynnodd linyn, ac nid ataliodd ei law rhag difetha: am hynny y gwnaeth efe i’r rhagfur ac i’r mur alaru; cydlesgasant. 9Ei phyrth a soddasant i’r ddaear; efe a ddifethodd ac a ddrylliodd ei barrau hi: ei brenin a’i thywysogion ydynt ymysg y cenhedloedd: heb gyfraith y mae; a’i phroffwydi heb gael gweledigaeth gan yr Arglwydd. 10Henuriaid merch Seion a eisteddant ar lawr, a dawant â sôn; gosodasant lwch ar eu pennau; ymwregysasant â sachliain: gwyryfon Jerwsalem a ostyngasant eu pennau i lawr. 11Fy llygaid sydd yn pallu gan ddagrau, fy ymysgaroedd a gyffroesant, fy afu a dywalltwyd ar y ddaear; oherwydd dinistr merch fy mhobl, pan lewygodd y plant a’r rhai yn sugno yn heolydd y ddinas. 12Hwy a ddywedant wrth eu mamau, Pa le y mae ŷd a gwin? pan lewygent fel yr archolledig yn heolydd y ddinas, pan dywalltent eu heneidiau ym mynwes eu mamau. 13Pa beth a gymeraf yn dyst i ti? beth a gyffelybaf i ti, O ferch Jerwsalem? beth a gystadlaf â thi, fel y’th ddiddanwyf, O forwyn, merch Seion? canys y mae dy ddinistr yn fawr fel y môr; pwy a’th iachâ di? 14Dy broffwydi a welsant i ti gelwydd a diflasrwydd; ac ni ddatguddiasant dy anwiredd, i droi ymaith dy gaethiwed: eithr hwy a welsant i ti feichiau celwyddog, ac achosion deol. 15Y rhai oll a dramwyent y ffordd, a gurent eu dwylo arnat ti; chwibanent, ac ysgydwent eu pennau ar ferch Jerwsalem, gan ddywedyd, Ai dyma y ddinas a alwent yn berffeithrwydd tegwch, yn llawenydd yr holl ddaear? 16Dy holl elynion a ledasant eu safnau arnat ti; a chwibanasant, ac a ysgyrnygasant ddannedd, ac a ddywedasant, Llyncasom hi: yn ddiau dyma y dydd a ddisgwyliasom ni; ni a’i cawsom, ni a’i gwelsom. 17Yr Arglwydd a wnaeth yr hyn a ddychmygodd; ac a gyflawnodd ei air yr hwn a orchmynnodd efe er y dyddiau gynt: efe a ddifrododd, ac nid arbedodd; efe a wnaeth i’r gelyn lawenychu yn dy erbyn di; efe a ddyrchafodd gorn dy wrthwynebwyr di. 18Eu calon hwynt a waeddodd ar yr Arglwydd, O fur merch Seion, tywallt ddagrau ddydd a nos fel afon; na orffwys, ac na pheidied cannwyll dy lygad. 19Cyfod, cyhoedda liw nos; yn nechrau yr wyliadwriaeth tywallt dy galon fel dwfr gerbron yr Arglwydd: dyrchafa dy ddwylo ato ef am einioes dy blant, y rhai sydd yn llewygu o newyn ym mhen pob heol.
20Edrych, Arglwydd, a gwêl i bwy y gwnaethost fel hyn: a fwyty y gwragedd eu ffrwyth eu hun, plant o rychwant o hyd? a leddir yr offeiriad a’r proffwyd yng nghysegr yr Arglwydd? 21Ieuanc a hen sydd yn gorwedd ar lawr yn yr heolydd: fy morynion a’m gwŷr ieuainc a syrthiasant trwy y cleddyf: ti a’u lleddaist hwynt yn nydd dy soriant, lleddaist hwy heb arbed. 22Gelwaist, megis ar ddydd uchel ŵyl, fy nychryn o amgylch, fel na ddihangodd ac na adawyd neb yn nydd soriant yr Arglwydd: y gelyn a ddifethodd y rhai a faethais ac a fegais i.

Currently Selected:

Galarnad 2: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy