YouVersion Logo
Search Icon

Ioan 17

17
1Y pethau hyn a lefarodd yr Iesu, ac efe a gododd ei lygaid i’r nef, ac a ddywedodd, Y Tad, daeth yr awr; gogonedda dy Fab, fel y gogoneddo dy Fab dithau: 2Megis y rhoddaist iddo awdurdod ar bob cnawd, fel am y cwbl a roddaist iddo, y rhoddai efe iddynt fywyd tragwyddol. 3A hyn yw’r bywyd tragwyddol; iddynt dy adnabod di yr unig wir Dduw, a’r hwn a anfonaist ti, Iesu Grist. 4Mi a’th ogoneddais di ar y ddaear; mi a gwblheais y gwaith a roddaist i mi i’w wneuthur. 5Ac yr awron, O Dad, gogonedda di fyfi gyda thi dy hun, â’r gogoniant oedd i mi gyda thi cyn bod y byd. 6Mi a eglurais dy enw i’r dynion a roddaist i mi allan o’r byd: eiddot ti oeddynt, a thi a’u rhoddaist hwynt i mi; a hwy a gadwasant dy air di. 7Yr awron y gwybuant mai oddi wrthyt ti y mae’r holl bethau a roddaist i mi: 8Canys y geiriau a roddaist i mi, a roddais iddynt hwy; a hwy a’u derbyniasant, ac a wybuant yn wir mai oddi wrthyt ti y deuthum i allan, ac a gredasant mai tydi a’m hanfonaist i. 9Drostynt hwy yr wyf fi yn gweddïo: nid dros y byd yr wyf yn gweddïo, ond dros y rhai a roddaist i mi; canys eiddot ti ydynt. 10A’r eiddof fi oll sydd eiddot ti, a’r eiddot ti sydd eiddof fi: a mi a ogoneddwyd ynddynt. 11Ac nid wyf mwyach yn y byd, ond y rhai hyn sydd yn y byd, a myfi sydd yn dyfod atat ti. Y Tad sancteiddiol, cadw hwynt trwy dy enw, y rhai a roddaist i mi; fel y byddont un, megis ninnau. 12Tra fûm gyda hwynt yn y byd, mi a’u cedwais yn dy enw: y rhai a roddaist i mi, a gedwais, ac ni chollwyd ohonynt ond mab y golledigaeth; fel y cyflawnid yr ysgrythur. 13Ac yr awron yr wyf yn dyfod atat: a’r pethau hyn yr wyf yn eu llefaru yn y byd, fel y caffont fy llawenydd i yn gyflawn ynddynt eu hunain. 14Myfi a roddais iddynt hwy dy air di: a’r byd a’u casaodd hwynt, oblegid nad ydynt o’r byd, megis nad ydwyf finnau o’r byd. 15Nid wyf yn gweddïo ar i ti eu cymryd hwynt allan o’r byd, eithr ar i ti eu cadw hwynt rhag y drwg. 16O’r byd nid ydynt, megis nad wyf finnau o’r byd. 17Sancteiddia hwynt yn dy wirionedd: dy air sydd wirionedd. 18Fel yr anfonaist fi i’r byd, felly yr anfonais innau hwythau i’r byd. 19Ac er eu mwyn hwy yr wyf yn fy sancteiddio fy hun, fel y byddont hwythau wedi eu sancteiddio yn y gwirionedd. 20Ac nid wyf yn gweddïo dros y rhai hyn yn unig, eithr dros y rhai hefyd a gredant ynof fi trwy eu hymadrodd hwynt: 21Fel y byddont oll yn un; megis yr wyt ti, y Tad, ynof fi, a minnau ynot ti; fel y byddont hwythau un ynom ni: fel y credo’r byd mai tydi a’m hanfonaist i. 22A’r gogoniant a roddaist i mi, a roddais iddynt hwy: fel y byddont un, megis yr ydym ni yn un: 23Myfi ynddynt hwy, a thithau ynof fi; fel y byddont wedi eu perffeithio yn un, ac fel y gwypo’r byd mai tydi a’m hanfonaist i, a charu ohonot hwynt, megis y ceraist fi. 24Y Tad, y rhai a roddaist i mi, yr wyf yn ewyllysio, lle yr wyf fi, fod ohonynt hwythau hefyd gyda myfi; fel y gwelont fy ngogoniant a roddaist i mi: oblegid ti a’m ceraist cyn seiliad y byd. 25Y Tad cyfiawn, nid adnabu’r byd dydi: eithr mi a’th adnabûm, a’r rhai hyn a wybu mai tydi a’m hanfonaist i. 26Ac mi a hysbysais iddynt dy enw, ac a’i hysbysaf: fel y byddo ynddynt hwy y cariad â’r hwn y ceraist fi, a minnau ynddynt hwy.

Currently Selected:

Ioan 17: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy