YouVersion Logo
Search Icon

Jeremeia 51

51
1Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele, myfi a godaf wynt dinistriol yn erbyn Babilon, ac yn erbyn y rhai sydd yn trigo yng nghanol y rhai a godant yn fy erbyn i; 2A mi a anfonaf i Babilon nithwyr, a hwy a’i nithiant hi, ac a wacânt ei thir hi; oherwydd hwy a fyddant yn ei herbyn hi o amgylch ar ddydd blinder. 3Yn erbyn yr hwn a anelo, aneled y saethydd ei fwa, ac yn erbyn yr hwn sydd yn ymddyrchafu yn ei lurig; nac arbedwch ei gwŷr ieuainc, difrodwch ei holl lu hi. 4Felly y rhai lladdedig a syrthiant yng ngwlad y Caldeaid, a’r rhai a drywanwyd yn ei heolydd hi. 5Canys Israel ni adawyd, na Jwda, gan ei Dduw, gan Arglwydd y lluoedd: er bod eu gwlad hwynt yn llawn o gamwedd yn erbyn Sanct yr Israel. 6Ffowch o ganol Babilon, ac achubwch bawb ei enaid ei hun: na adewch eich difetha yn ei hanwiredd hi: oblegid amser dial yw hwn i’r Arglwydd; efe a dâl y pwyth iddi hi. 7Ffiol aur oedd Babilon yn llaw yr Arglwydd, yn meddwi pob gwlad: yr holl genhedloedd a yfasant o’i gwin hi; am hynny y cenhedloedd a ynfydasant. 8Yn ddisymwth y syrthiodd Babilon, ac y drylliwyd hi: udwch drosti, cymerwch driagl i’w dolur hi, i edrych a iachâ hi. 9Nyni a iachasom Babilon, ond nid aeth hi yn iach: gadewch hi, ac awn bawb i’w wlad: canys ei barn a gyrraedd i’r nefoedd, ac a ddyrchafwyd hyd yr wybrau. 10Yr Arglwydd a ddug allan ein cyfiawnder ni: deuwch, a thraethwn yn Seion waith yr Arglwydd ein Duw. 11Gloywch y saethau; cesglwch y tarianau: yr Arglwydd a gyfododd ysbryd brenhinoedd Media: oblegid y mae ei fwriad ef yn erbyn Babilon, i’w dinistrio hi; canys dial yr Arglwydd yw hyn, dial ei deml ef. 12Dyrchefwch faner ar furiau Babilon; cadarnhewch yr wyliadwriaeth; gosodwch i fyny y gwylwyr; darperwch y cynllwynwyr; canys yr Arglwydd a fwriadodd, ac efe a wnaeth hefyd yr hyn a lefarodd yn erbyn trigolion Babilon. 13Tydi yr hon ydwyt yn aros ar ddyfroedd lawer, yn aml dy drysorau, dy ddiwedd di a ddaeth, sef mesur dy gybydd-dod. 14Arglwydd y lluoedd a dyngodd iddo ei hun, gan ddywedyd, Diau y’th lanwaf â dynion megis â lindys; a hwy a ganant floddest i’th erbyn. 15Efe a wnaeth y ddaear trwy ei nerth, ac a sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb, ac a daenodd y nefoedd trwy ei ddeall. 16Pan roddo efe ei lef, y mae twrf dyfroedd yn y nefoedd, ac y mae efe yn codi y niwloedd o eithaf y ddaear: ac efe sydd yn gwneuthur y mellt gyda’r glaw, ac yn dwyn y gwynt allan o’i drysorau. 17Ynfyd yw pob dyn o wybodaeth; gwaradwyddwyd pob toddydd gan y ddelw gerfiedig: canys celwyddog yw ei ddelw dawdd, ac nid oes chwythad ynddynt. 18Oferedd ydynt, gwaith cyfeiliorni: yn amser eu hymweliad y difethir hwynt. 19Nid fel y rhai hyn, eithr Lluniwr y cwbl oll, yw rhan Jacob; ac Israel yw gwialen ei etifeddiaeth ef: Arglwydd y lluoedd yw ei enw ef. 20Ti wyt forthwyl i mi, ac arfau rhyfel: canys â thi y drylliaf y cenhedloedd, ac â thi y dinistriaf deyrnasoedd; 21A thi hefyd y gwasgaraf y march a’r marchwr; ac â thi y drylliaf y cerbyd a’i farchog; 22A thi y drylliaf fi ŵr a gwraig; ac â thi y drylliaf hen ac ieuanc; ac â thi y drylliaf y gŵr ieuanc a’r forwyn; 23A thi hefyd y drylliaf fi y bugail a’i braidd; ac â thi y drylliaf yr arddwr a’i iau ychen; ac â thi y drylliaf y tywysogion a’r penaethiaid. 24A mi a dalaf i Babilon, ac i holl breswylwyr Caldea, eu holl ddrwg a wnaethant yn Seion, yn eich golwg chwi, medd yr Arglwydd. 25Wele fi i’th erbyn di, O fynydd dinistriol, yr hwn wyt yn dinistrio yr holl ddaear, medd yr Arglwydd; a myfi a estynnaf fy llaw arnat, ac a’th dreiglaf di i lawr o’r creigiau, ac a’th wnaf di yn fynydd llosg. 26Ac ni chymerant ohonot faen congl, na sylfaen; ond diffeithwch tragwyddol a fyddi di, medd yr Arglwydd. 27Dyrchefwch faner yn y tir; lleisiwch utgorn ymysg y cenhedloedd; darperwch y cenhedloedd yn ei herbyn hi; gelwch ynghyd deyrnasoedd Ararat, Minni, ac Aschenas, yn ei herbyn hi; gosodwch dywysog yn ei herbyn hi; gwnewch i feirch ddyfod i fyny cyn amled â’r lindys blewog. 28Darperwch y cenhedloedd yn ei herbyn hi, gyda brenhinoedd Media, a’i thywysogion, a’i holl benaethiaid, a holl wlad ei lywodraeth ef. 29Y ddaear hefyd a gryna ac a ofidia; oblegid fe gyflawnir bwriadau yr Arglwydd yn erbyn Babilon, i wneuthur gwlad Babilon yn anghyfannedd heb drigiannol ynddi. 30Cedyrn Babilon a beidiasant ag ymladd, ac y maent hwy yn aros o fewn eu hamddiffynfeydd: pallodd eu nerth hwynt; aethant yn wrageddos: ei hanheddau hi a losgwyd, a’i barrau a dorrwyd. 31Rhedegwr a red i gyfarfod â rhedegwr, a chennad i gyfarfod â chennad, i fynegi i frenin Babilon oresgyn ei ddinas ef o’i chwr, 32Ac ennill y rhydau, a llosgi ohonynt y cyrs â thân, a synnu ar y rhyfelwyr. 33Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Merch Babilon sydd fel llawr dyrnu; amser ei dyrnu hi a ddaeth: ac ar fyrder y daw amser cynhaeaf iddi. 34Nebuchodonosor brenin Babilon a’m hysodd, ac a’m hysigodd i; efe a’m gwnaeth fel llestr gwag; efe a’m llyncodd fel draig, ac a lanwodd ei fol o’m danteithion; efe a’m bwriodd i allan. 35Y cam a wnaed i mi ac i’m cnawd, a ddelo ar Babilon, medd preswylferch Seion; a’m gwaed i ar drigolion Caldea, medd Jerwsalem. 36Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele, myfi a ddadleuaf dy ddadl di, ac a ddialaf drosot ti; a mi a ddihysbyddaf ei môr hi, ac a sychaf ei ffynhonnau hi. 37A bydd Babilon yn garneddau, yn drigfa dreigiau, yn syndra, ac yn chwibaniad, heb breswylydd. 38Cydruant fel llewod; bloeddiant fel cenawon llewod. 39Yn eu gwres hwynt y gosodaf wleddoedd iddynt, a mi a’u meddwaf hwynt, fel y llawenychont, ac y cysgont hun dragwyddol, ac na ddeffrônt, medd yr Arglwydd. 40Myfi a’u dygaf hwynt i waered fel ŵyn i’r lladdfa, fel hyrddod a bychod. 41Pa fodd y goresgynnwyd Sesach! pa fodd yr enillwyd gogoniant yr holl ddaear! pa fodd yr aeth Babilon yn syndod ymysg y cenhedloedd! 42Y môr a ddaeth i fyny ar Babilon: hi a orchuddiwyd ag amlder ei donnau ef. 43Ei dinasoedd hi a aethant yn anghyfannedd, yn grastir, ac yn ddiffeithwch; gwlad ni thrig un gŵr ynddi, ac ni thramwya mab dyn trwyddi. 44A mi a ymwelaf â Bel yn Babilon, a mi a dynnaf o’i safn ef yr hyn a lyncodd; a’r cenhedloedd ni ddylifant ato mwyach; ie, mur Babilon a syrth. 45Deuwch allan o’i chanol, O fy mhobl, ac achubwch bob un ei enaid rhag llid digofaint yr Arglwydd, 46A rhag llwfrhau eich calonnau, ac ofni rhag y chwedl a glywir yn y wlad: a’r naill flwyddyn y daw chwedl newydd, ac ar ôl hynny chwedl newydd y flwyddyn arall; a thrais yn y wlad, llywodraethwr yn erbyn llywodraethwr. 47Am hynny wele y dyddiau yn dyfod yr ymwelwyf â delwau Babilon; a’i holl wlad hi a waradwyddir, a’i holl rai lladdedig hi a syrthiant yn ei chanol. 48Yna y nefoedd a’r ddaear, a’r hyn oll sydd ynddynt, a ganant oherwydd Babilon: oblegid o’r gogledd y daw yr anrheithwyr ati, medd yr Arglwydd. 49Fel y gwnaeth Babilon i’r rhai lladdedig o Israel syrthio, felly yn Babilon y syrth lladdedigion yr holl ddaear. 50Y rhai a ddianghasoch gan y cleddyf, ewch ymaith; na sefwch: cofiwch yr Arglwydd o bell, a deued Jerwsalem yn eich cof chwi. 51Gwaradwyddwyd ni, am i ni glywed cabledd: gwarth a orchuddiodd ein hwynebau; canys daeth estroniaid i gysegroedd tŷ yr Arglwydd. 52Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pan ymwelwyf fi â’i delwau hi; a thrwy ei holl wlad hi yr archolledig a riddfan. 53Er i Babilon ddyrchafu i’r nefoedd, ac er iddi gadarnhau ei hamddiffynfa yn uchel; eto anrheithwyr a ddaw ati oddi wrthyf fi, medd yr Arglwydd. 54Sain gwaedd a glywir o Babilon, a dinistr mawr o wlad y Caldeaid. 55Oherwydd yr Arglwydd a anrheithiodd Babilon, ac a ddinistriodd y mawrair allan ohoni hi, er rhuo o’i thonnau fel dyfroedd lawer, a rhoddi twrf eu llef hwynt. 56Canys yr anrheithiwr a ddaeth yn ei herbyn hi, sef yn erbyn Babilon, a’i chedyrn hi a ddaliwyd; eu bwa a dorrwyd: canys Arglwydd Dduw y gwobr a obrwya yn sicr. 57A myfi a feddwaf ei thywysogion hi, a’i doethion, ei phenaethiaid, a’i swyddogion, a’i chedyrn: a hwy a gysgant hun dragwyddol, ac ni ddeffroant, medd y Brenin, enw yr hwn yw Arglwydd y lluoedd. 58Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Gan ddryllio y dryllir llydain furiau Babilon, a’i huchel byrth a losgir â thân; a’r bobl a ymboenant mewn oferedd, a’r cenhedloedd mewn tân, a hwy a ddiffygiant.
59Y gair yr hwn a orchmynnodd Jeremeia y proffwyd i Seraia mab Nereia, mab Maaseia, pan oedd efe yn myned gyda Sedeceia brenin Jwda i Babilon, yn y bedwaredd flwyddyn o’i deyrnasiad ef. A Seraia oedd dywysog llonydd. 60Felly Jeremeia a ysgrifennodd yr holl aflwydd oedd ar ddyfod yn erbyn Babilon, mewn un llyfr; sef yr holl eiriau a ysgrifennwyd yn erbyn Babilon. 61A Jeremeia a ddywedodd wrth Seraia, Pan ddelych i Babilon, a gweled, a darllen yr holl eiriau hyn; 62Yna dywed, O Arglwydd, ti a leferaist yn erbyn y lle hwn, am ei ddinistrio, fel na byddai ynddo breswylydd, na dyn nac anifail, eithr ei fod yn anghyfannedd tragwyddol. 63A phan ddarfyddo i ti ddarllen y llyfr hwn, rhwym faen wrtho, a bwrw ef i ganol Ewffrates: 64A dywed, Fel hyn y soddir Babilon, ac ni chyfyd hi, gan y drwg a ddygaf fi arni: a hwy a ddiffygiant. Hyd hyn y mae geiriau Jeremeia.

Currently Selected:

Jeremeia 51: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy