YouVersion Logo
Search Icon

Jeremeia 2

2
1A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf fi, gan ddywedyd, 2Cerdda, a llefa yng nghlustiau Jerwsalem, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd. Cofiais di, caredigrwydd dy ieuenctid, a serch dy ddyweddi, pan y’m canlynaist yn y diffeithwch, mewn tir ni heuwyd. 3Israel ydoedd sancteiddrwydd i’r Arglwydd, a blaenffrwyth ei gnwd ef: pawb oll a’r a’i bwytao, a bechant; drwg a ddigwydd iddynt, medd yr Arglwydd. 4Gwrandewch air yr Arglwydd, tŷ Jacob, a holl deuluoedd tŷ Israel. 5Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Pa anwiredd a gafodd eich tadau chwi ynof fi, gan iddynt ymbellhau oddi wrthyf, a rhodio ar ôl oferedd, a myned yn ofer? 6Ac ni ddywedant, Pa le y mae yr Arglwydd a’n dug ni i fyny o dir yr Aifft; a’n harweiniodd trwy yr anialwch; trwy dir diffaith, a phyllau; trwy dir sychder, a chysgod angau; trwy dir nid aeth gŵr trwyddo, ac ni thrigodd dyn ynddo? 7Dygais chwi hefyd i wlad gnydfawr, i fwyta ei ffrwyth a’i daioni: eithr pan ddaethoch i mewn, halogasoch fy nhir i, a gwnaethoch fy etifeddiaeth i yn ffieidd-dra. 8Yr offeiriaid ni ddywedasant, Pa le y mae yr Arglwydd? a’r rhai sydd yn trin y gyfraith nid adnabuant fi: y bugeiliaid hefyd a droseddasant i’m herbyn, a’r proffwydi a broffwydasant yn enw Baal, ac a aethant ar ôl y pethau ni wnaent lesâd.
9Oblegid hyn, mi a ddadleuaf â chwi eto, medd yr Arglwydd; ie, dadleuaf â meibion eich meibion chwi. 10Canys ewch dros ynysoedd Chittim, ac edrychwch; a danfonwch i Cedar, ac ystyriwch yn ddiwyd, ac edrychwch a fu y cyfryw beth. 11A newidiodd un genedl eu duwiau, a hwy heb fod yn dduwiau? eithr fy mhobl i a newidiodd eu gogoniant am yr hyn ni wna lesâd. 12O chwi nefoedd, synnwch wrth hyn, ac ofnwch yn aruthrol, a byddwch anghyfannedd iawn, medd yr Arglwydd. 13Canys dau ddrwg a wnaeth fy mhobl; hwy a’m gadawsant i, ffynnon y dyfroedd byw, ac a gloddiasant iddynt eu hunain bydewau, ie, pydewau wedi eu torri, ni ddaliant ddwfr.
14Ai gwas ydyw Israel? ai gwas a anwyd yn tŷ yw efe? paham yr ysbeiliwyd ef? 15Y llewod ieuainc a ruasant arno, ac a leisiasant; a’i dir ef a osodasant yn anrhaith, a’i ddinasoedd a losgwyd heb drigiannydd. 16Meibion Noff hefyd a Thahapanes a dorasant dy gorun di. 17Onid tydi a beraist hyn i ti dy hun, am wrthod ohonot yr Arglwydd dy Dduw, pan ydoedd efe yn dy arwain ar hyd y ffordd? 18A’r awr hon, beth sydd i ti a wnelych yn ffordd yr Aifft, i yfed dwfr Nilus? a pheth sydd i ti yn ffordd Asyria, i yfed dwfr yr afon? 19Dy ddrygioni dy hun a’th gosba di, a’th wrthdro a’th gerydda: gwybydd dithau a gwêl, mai drwg a chwerw ydyw gwrthod ohonot yr Arglwydd dy Dduw, ac nad ydyw fy ofn i ynot ti, medd Arglwydd Dduw y lluoedd.
20Oblegid er ys talm mi a dorrais dy iau di, ac a ddrylliais dy rwymau; a thi a ddywedaist, Ni throseddaf; er hynny ti a wibiaist, gan buteinio ar bob bryn uchel, a than bob pren deiliog. 21Eto myfi a’th blanaswn yn bêr winwydden, o’r iawn had oll: pa fodd gan hynny y’th drowyd i mi yn blanhigyn afrywiog gwinwydden ddieithr? 22Canys pe byddai i ti ymolchi â nitr, a chymryd i ti lawer o sebon; eto nodwyd dy anwiredd ger fy mron i, medd yr Arglwydd Dduw. 23Pa fodd y dywedi, Ni halogwyd fi, ac nid euthum ar ôl Baalim? Edrych dy ffordd yn y glyn, gwybydd beth a wnaethost; camel buan ydwyt yn amgylchu ei ffyrdd. 24Asen wyllt wedi ei chynefino â’r anialwch, wrth ddymuniad ei chalon yn yfed gwynt, wrth ei hachlysur pwy a’i try ymaith? pawb a’r a’i ceisiant hi, nid ymflinant; yn ei mis y cânt hi. 25Cadw dy droed rhag noethni, a’th geg rhag syched. Tithau a ddywedaist, Nid oes obaith. Nac oes: canys cerais ddieithriaid, ac ar eu hôl hwynt yr af fi. 26Megis y cywilyddia lleidr pan ddalier ef, felly y cywilyddia tŷ Israel; hwynt-hwy, eu brenhinoedd, eu tywysogion, a’u hoffeiriaid, a’u proffwydi; 27Y rhai a ddywedant wrth bren, Tydi yw fy nhad; ac wrth garreg, Ti a’m cenhedlaist. Canys hwy a droesant ataf fi wegil, ac nid wyneb: ond yn amser eu hadfyd y dywedant, Cyfod, a chadw ni. 28Eithr pa le y mae dy dduwiau, y rhai a wnaethost i ti? codant, os gallant dy gadw yn amser dy adfyd: canys wrth rifedi dy ddinasoedd y mae dy dduwiau di, O Jwda. 29Paham yr ymddadleuwch â mi? chwi oll a droseddasoch i’m herbyn, medd yr Arglwydd. 30Yn ofer y trewais eich plant chwi, ni dderbyniasant gerydd: eich cleddyf eich hun a ddifaodd eich proffwydi, megis llew yn distrywio.
31O genhedlaeth, gwelwch air yr Arglwydd: A fûm i yn anialwch i Israel? yn dir tywyllwch? paham y dywed fy mhobl, Arglwyddi ydym ni, ni ddeuwn ni mwy atat ti? 32A anghofia morwyn ei harddwisg? neu y briodasferch ei thlysau? eto fy mhobl i a’m hanghofiasant ddyddiau aneirif. 33Paham yr wyt ti yn cyweirio dy ffordd i geisio cariad? am hynny hefyd y dysgaist dy ffyrdd i rai drygionus. 34Hefyd yn dy odre di y cafwyd gwaed eneidiau y tlodion diniwed; nid wrth chwilio y cefais hyn, eithr ar y rhai hyn oll. 35Eto ti a ddywedi, Am fy mod yn ddiniwed, yn ddiau y try ei lid ef oddi wrthyf. Wele, dadleuaf â thi, am ddywedyd ohonot, Ni phechais. 36Paham y gwibi di gymaint i newidio dy ffordd? canys ti a waradwyddir oherwydd yr Aifft, fel y’th waradwyddwyd oherwydd Asyria. 37Hefyd ti a ddeui allan oddi wrtho, a’th ddwylo ar dy ben: oblegid yr Arglwydd a wrthododd dy hyder di, ac ni lwyddi ynddynt.

Currently Selected:

Jeremeia 2: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy