YouVersion Logo
Search Icon

Iago 5

5
1Iddo yn awr, chwi gyfoethogion, wylwch ac udwch am eich trueni sydd yn dyfod arnoch. 2Eich cyfoeth a bydrodd, a’ch gwisgoedd a fwytawyd gan bryfed. 3Eich aur a’ch arian a rydodd; a’u rhwd hwynt a fydd yn dystiolaeth yn eich erbyn chwi, ac a fwyty eich cnawd chwi fel tân. Chwi a gasglasoch drysor yn y dyddiau diwethaf. 4Wele, y mae cyflog y gweithwyr, a fedasant eich meysydd chwi, yr hwn a gamataliwyd gennych, yn llefain: a llefain y rhai a fedasant a ddaeth i mewn i glustiau Arglwydd y lluoedd. 5Moethus fuoch ar y ddaear, a thrythyll; meithrin eich calonnau a wnaethoch, megis mewn dydd lladdedigaeth. 6Condemniasoch a lladdasoch y cyfiawn: ac yntau heb sefyll i’ch erbyn. 7Byddwch gan hynny yn ymarhous, frodyr, hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Wele, y mae’r llafurwr yn disgwyl am werthfawr ffrwyth y ddaear, yn dda ei amynedd amdano, nes iddo dderbyn y glaw cynnar a diweddar. 8Byddwch chwithau hefyd dda eich amynedd; cadarnhewch eich calonnau: oblegid dyfodiad yr Arglwydd a nesaodd. 9Na rwgnechwch yn erbyn eich gilydd, frodyr, fel na’ch condemnier: wele, y mae’r Barnwr yn sefyll wrth y drws. 10Cymerwch, fy mrodyr, y proffwydi, y rhai a lefarasant yn enw yr Arglwydd, yn siampl o ddioddef blinder, ac o hirymaros. 11Wele, dedwydd yr ydym yn gadael y rhai sydd ddioddefus. Chwi a glywsoch am amynedd Job, ac a welsoch ddiwedd yr Arglwydd: oblegid tosturiol iawn yw’r Arglwydd, a thrugarog. 12Eithr o flaen pob peth, fy mrodyr, na thyngwch, nac i’r nef, nac i’r ddaear, nac un llw arall: eithr bydded eich ie chwi yn ie, a’ch nage yn nage; fel na syrthioch i farnedigaeth. 13A oes neb yn eich plith mewn adfyd? gweddïed. A oes neb yn esmwyth arno? caned salmau. 14A oes neb yn eich plith yn glaf? galwed ato henuriaid yr eglwys; a gweddïant hwy drosto, gan ei eneinio ef ag olew yn enw’r Arglwydd: 15A gweddi’r ffydd a iachâ’r claf, a’r Arglwydd a’i cyfyd ef i fyny; ac os bydd wedi gwneuthur pechodau, hwy a faddeuir iddo. 16Cyffeswch eich camweddau bawb i’ch gilydd, a gweddïwch dros eich gilydd, fel y’ch iachaer. Llawer a ddichon taer weddi’r cyfiawn. 17Eleias oedd ddyn yn rhaid iddo ddioddef fel ninnau, ac mewn gweddi efe a weddïodd na byddai law: ac ni bu glaw ar y ddaear dair blynedd a chwe mis. 18Ac efe a weddïodd drachefn; a’r nef a roddes law, a’r ddaear a ddug ei ffrwyth. 19Fy mrodyr, od aeth neb ohonoch ar gyfeiliorn oddi wrth y gwirionedd, a throi o ryw un ef; 20Gwybydded, y bydd i’r hwn a drodd bechadur oddi wrth gyfeiliorni ei ffordd, gadw enaid rhag angau, a chuddio lliaws o bechodau.

Currently Selected:

Iago 5: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy