YouVersion Logo
Search Icon

Eseia 66

66
1Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Y nef yw fy ngorseddfainc, a’r ddaear yw lleithig fy nhraed: mae y tŷ a adeiledwch i mi? ac mae y fan y gorffwysaf? 2Canys y pethau hyn oll a wnaeth fy llaw, a thrwof fi y mae hyn oll, medd yr Arglwydd: ond ar hwn yr edrychaf, sef ar y truan a’r cystuddiedig o ysbryd, ac sydd yn crynu wrth fy ngair. 3Yr hwn a laddo ych, sydd fel yr hwn a laddo ŵr; yr hwn a abertho oen, sydd fel yr hwn a dorfynyglo gi; yr hwn a offrymo offrwm, sydd fel ped offrymai waed moch; yr hwn a arogldartho thus, sydd fel pe bendigai eilun: ie, hwy a ddewisasant eu ffyrdd eu hun, a’u henaid a ymhyfrydodd yn eu ffieidd-dra. 4Minnau a ddewisaf eu dychmygion hwynt, ac a ddygaf arnynt yr hyn a ofnant: am alw ohonof, ac nid oedd a atebai; lleferais, ac ni wrandawsant: eithr gwnaethant yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg, a’r hyn nid oedd dda gennyf a ddewisasant.
5Gwrandewch air yr Arglwydd, y rhai a grynwch wrth ei air ef; Eich brodyr y rhai a’ch casasant, ac a’ch gyrasant ar encil er mwyn fy enw i, a ddywedasant, Gogonedder yr Arglwydd: eto i’ch llawenydd chwi y gwelir ef, a hwynt a waradwyddir. 6Llef soniarus o’r ddinas, llef o’r deml, llef yr Arglwydd yn talu y pwyth i’w elynion. 7Cyn ei chlafychu, yr esgorodd; cyn dyfod gwewyr arni, y rhyddhawyd hi ar fab. 8Pwy a glybu y fath beth â hyn? pwy a welodd y fath bethau â hyn? A wneir i’r ddaear dyfu mewn un dydd? a enir cenedl ar unwaith? Pan glafychodd Seion, yr esgorodd hefyd ar ei meibion. 9A ddygaf fi i’r enedigaeth, ac oni pharaf esgor? medd yr Arglwydd: a baraf fi esgor, ac a luddiaf? medd dy Dduw. 10Llawenhewch gyda Jerwsalem, a byddwch hyfryd gyda hi, y rhai oll a’i cerwch hi: llawenhewch gyda hi yn llawen, y rhai oll a alerwch o’i phlegid hi: 11Fel y sugnoch, ac y’ch diwaller â bronnau ei diddanwch hi; fel y godroch, ac y byddoch hyfryd gan helaethrwydd ei gogoniant hi. 12Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele, mi a estynnaf iddi heddwch fel afon, a gogoniant y cenhedloedd fel ffrwd lifeiriol: yna y sugnwch, ar ei hystlys hi y’ch dygir, ac ar ei gliniau y’ch diddenir. 13Fel un yr hwn y diddana ei fam ef, felly y diddanaf fi chwi; ac yn Jerwsalem y’ch diddenir. 14A phan weloch hyn, y llawenycha eich calon; eich esgyrn hefyd a flodeuant fel llysieuyn: ac fe adwaenir llaw yr Arglwydd tuag at ei weision, a’i lidiowgrwydd wrth ei elynion. 15Canys, wele, yr Arglwydd a ddaw â thân, ac â’i gerbydau fel trowynt, i dalu ei ddicter â llidiowgrwydd, a’i gerydd â fflamau tân. 16Canys yr Arglwydd a ymddadlau â thân ac â’i gleddyf yn erbyn pob cnawd; a lladdedigion yr Arglwydd fyddant aml. 17Y rhai a ymsancteiddiant, ac a ymlanhânt yn y gerddi, yn ôl ei gilydd, yn y canol, gan fwyta cig moch, a ffieidd-dra, a llygod, a gyd-ddiweddir, medd yr Arglwydd. 18Canys mi a adwaen eu gweithredoedd hwynt a’u meddyliau: y mae yr amser yn dyfod, i gasglu yr holl genhedloedd a’r ieithoedd; a hwy a ddeuant, ac a welant fy ngogoniant. 19A gosodaf yn eu mysg arwydd, ac anfonaf y rhai dihangol ohonynt at y cenhedloedd, i Tarsis, Affrica, a Lydia, y rhai a dynnant mewn bwa, i Italia, a Groeg, i’r ynysoedd pell, y rhai ni chlywsant sôn amdanaf, ac ni welsant fy ngogoniant; a mynegant fy ngogoniant ymysg y cenhedloedd. 20A hwy a ddygant eich holl frodyr o blith yr holl genhedloedd, yn offrwm i’r Arglwydd, ar feirch, ac ar gerbydau, ac ar elorau meirch, ac ar fulod, ac ar anifeiliaid buain, i’m mynydd sanctaidd Jerwsalem, medd yr Arglwydd, megis y dwg meibion Israel offrwm mewn llestr glân i dŷ yr Arglwydd. 21Ac ohonynt hwy y cymeraf rai yn offeiriaid ac yn Lefiaid, medd yr Arglwydd. 22Canys megis y saif ger fy mron y nefoedd newydd a’r ddaear newydd, y rhai a wnaf fi, medd yr Arglwydd, felly y saif eich had chwi, a’ch enw chwi. 23Bydd hefyd o newyddloer i newyddloer, ac o Saboth i Saboth, i bob cnawd ddyfod i addoli ger fy mron i, medd yr Arglwydd. 24A hwy a ânt allan, ac a edrychant ar gelanedd y rhai a wnaethant gamwedd i’m herbyn: canys eu pryf ni bydd marw, a’u tân ni ddiffydd; a byddant yn ffieidd-dra gan bob cnawd.

Currently Selected:

Eseia 66: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy