YouVersion Logo
Search Icon

Hosea 4

4
1Meibion Israel, gwrandewch air yr Arglwydd: canys y mae cwyn rhwng yr Arglwydd a thrigolion y wlad, am nad oes na gwirionedd, na thrugaredd na gwybodaeth o Dduw, yn y wlad. 2Trwy dyngu, a dywedyd celwydd, a lladd celain, a lladrata, a thorri priodas, y maent yn torri allan, a gwaed a gyffwrdd â gwaed. 3Am hynny y galara y wlad, ac y llesgâ oll sydd yn trigo ynddi, ynghyd â bwystfilod y maes, ac ehediaid y nefoedd; pysgod y môr hefyd a ddarfyddant. 4Er hynny nac ymrysoned, ac na cherydded neb ei gilydd: canys dy bobl sydd megis rhai yn ymryson â’r offeiriad. 5Am hynny ti a syrthi y dydd, a’r proffwyd hefyd a syrth gyda thi y nos, a mi a ddifethaf dy fam.
6Fy mhobl a ddifethir o eisiau gwybodaeth: am i ti ddiystyru gwybodaeth, minnau a’th ddiystyraf dithau, fel na byddych offeiriad i mi; ac am i ti anghofio cyfraith dy Dduw, minnau a anghofiaf dy blant dithau hefyd. 7Fel yr amlhasant, felly y pechasant i’m herbyn: am hynny eu gogoniant a newidiaf yn warth. 8Bwyta y maent bechod fy mhobl, ac at eu hanwiredd hwynt y maent yn dyrchafu eu calon. 9A bydd yr un fath, bobl ac offeiriad: ac ymwelaf â hwynt am eu ffyrdd, a thalaf iddynt eu gweithredoedd. 10Bwytânt, ac nis diwellir; puteiniant, ac nid amlhânt; am iddynt beidio â disgwyl wrth yr Arglwydd. 11Godineb, a gwin, a gwin newydd, a ddwg y galon ymaith.
12Fy mhobl a ofynnant gyngor i’w cyffion, a’u ffon a ddengys iddynt: canys ysbryd godineb a’u cyfeiliornodd hwynt, a phuteiniasant oddi wrth eu Duw. 13Ar bennau y mynyddoedd yr aberthant, ac ar y bryniau y llosgant arogl-darth, dan y dderwen, a’r boplysen, a’r llwyfen, am fod yn dda eu cysgod: am hynny y puteinia eich merched chwi, a’ch gwragedd a dorrant briodas. 14Nid ymwelaf â’ch merched pan buteiniont, nac â’ch gwragedd pan dorront briodas: am fod y rhai hyn yn ymddidoli gyda phuteiniaid, ac aberthasant gyda dihirogod; a’r bobl ni ddeallant, a dramgwyddant.
15Er i ti, Israel, buteinio, eto na pheched Jwda: nac ewch i Gilgal, nac ewch i fyny i Beth-afen; ac na thyngwch, Byw yw yr Arglwydd. 16Fel anner anhywaith yr anhyweithiodd Israel: yr Arglwydd yr awr hon a’u portha hwynt fel oen mewn ehangder. 17Effraim a ymgysylltodd ag eilunod: gad iddo. 18Surodd eu diod hwy; gan buteinio y puteiniasant: hoff yw, Moeswch, trwy gywilydd gan ei llywodraethwyr hi. 19Y gwynt a’i rhwymodd hi yn ei hadenydd, a bydd arnynt gywilydd oherwydd eu haberthau.

Currently Selected:

Hosea 4: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy