YouVersion Logo
Search Icon

Haggai 2

2
1Yn y seithfed mis, ar yr unfed dydd ar hugain o’r mis, y daeth gair yr Arglwydd trwy law y proffwyd Haggai, gan ddywedyd, 2Dywed yn awr wrth Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda, ac wrth Josua mab Josedec yr archoffeiriad, ac wrth weddill y bobl, gan ddywedyd, 3Pwy yn eich plith a adawyd, yr hwn a welodd y tŷ hwn yn ei ogoniant cyntaf? a pha fodd y gwelwch chwi ef yr awr hon? onid yw wrth hwnnw yn eich golwg fel peth heb ddim? 4Eto yn awr ymgryfha, Sorobabel, medd yr Arglwydd; ac ymgryfha, Josua mab Josedec yr archoffeiriad; ac ymgryfhewch, holl bobl y tir, medd yr Arglwydd, a gweithiwch: canys yr ydwyf fi gyda chwi, medd Arglwydd y lluoedd: 5Yn ôl y gair a amodais â chwi pan ddaethoch allan o’r Aifft, felly yr erys fy ysbryd yn eich mysg: nac ofnwch. 6Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Unwaith eto, ennyd fechan yw, a mi a ysgydwaf y nefoedd, a’r ddaear, a’r môr, a’r sychdir; 7Ysgydwaf hefyd yr holl genhedloedd, a dymuniant yr holl genhedloedd a ddaw: llanwaf hefyd y tŷ hwn â gogoniant, medd Arglwydd y lluoedd. 8Eiddof fi yr arian, ac eiddof fi yr aur, medd Arglwydd y lluoedd. 9Bydd mwy gogoniant y tŷ diwethaf hwn na’r cyntaf, medd Arglwydd y lluoedd: ac yn y lle hwn y rhoddaf dangnefedd, medd Arglwydd y lluoedd.
10Ar y pedwerydd dydd ar hugain o’r nawfed mis, yn yr ail flwyddyn i Dareius, y daeth gair yr Arglwydd trwy law Haggai y proffwyd, gan ddywedyd, 11Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Gofyn yr awr hon i’r offeiriaid y gyfraith, gan ddywedyd, 12Os dwg un gig sanctaidd yng nghwr ei wisg, ac â’i gwr a gyffwrdd â’r bara, neu â’r cawl, neu â’r gwin, neu â’r olew, neu â dim o’r bwyd, a fyddant hwy sanctaidd? A’r offeiriaid a atebasant ac a ddywedasant, Na fyddant. 13A Haggai a ddywedodd, Os un a fo aflan gan gorff marw a gyffwrdd â dim o’r rhai hyn, a fyddant hwy aflan? A’r offeiriaid a atebasant ac a ddywedasant, Byddant aflan. 14Yna yr atebodd Haggai, ac a ddywedodd, Felly y mae y bobl hyn, ac felly y mae y genhedlaeth hon ger fy mron, medd yr Arglwydd; ac felly y mae holl waith eu dwylo, a’r hyn a aberthant yno, yn aflan. 15Ac yr awr hon meddyliwch, atolwg, o’r diwrnod hwn allan a chynt, cyn gosod carreg ar garreg yn nheml yr Arglwydd; 16Er pan oedd y dyddiau hynny pan ddelid at dwr o ugain llestraid, deg fyddai; pan ddelid at y gwinwryf i dynnu deg llestraid a deugain o’r cafn, ugain a fyddai yno. 17Trewais chwi â diflaniad, ac â mallter, ac â chenllysg, yn holl waith eich dwylo; a chwithau ni throesoch ataf fi, medd yr Arglwydd. 18Ystyriwch yr awr hon o’r dydd hwn ac er cynt, o’r pedwerydd dydd ar hugain o’r nawfed mis, ac ystyriwch o’r dydd y sylfaenwyd teml yr Arglwydd. 19A yw yr had eto yn yr ysgubor? y winwydden hefyd, y ffigysbren, a’r pomgranad, a’r pren olewydd, ni ffrwythasant: o’r dydd hwn allan y bendithiaf chwi.
20A gair yr Arglwydd a ddaeth eilwaith at Haggai, ar y pedwerydd dydd ar hugain o’r mis, gan ddywedyd, 21Llefara wrth Sorobabel tywysog Jwda, gan ddywedyd, Myfi a ysgydwaf y nefoedd a’r ddaear; 22A mi a ymchwelaf deyrngadair teyrnasoedd, ac a ddinistriaf gryfder breniniaethau y cenhedloedd; ymchwelaf hefyd y cerbydau, a’r rhai a eisteddant ynddynt; a’r meirch a’u marchogion a syrthiant, bob un gan gleddyf ei frawd. 23Y diwrnod hwnnw, medd Arglwydd y lluoedd, y’th gymeraf di, fy ngwas Sorobabel, mab Salathiel, medd yr Arglwydd, ac y’th wnaf fel sêl: canys mi a’th ddewisais di, medd Arglwydd y lluoedd.

Currently Selected:

Haggai 2: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy