YouVersion Logo
Search Icon

Daniel 12

12
1Ac yn yr amser hwnnw y saif Michael y tywysog mawr, yr hwn sydd yn sefyll dros feibion dy bobl: yna y bydd amser blinder, y cyfryw ni bu er pan yw cenedl hyd yr amser hwnnw: ac yn yr amser hwnnw y gwaredir dy holl bobl, y rhai a gaffer yn ysgrifenedig yn y llyfr. 2A llawer o’r rhai sydd yn cysgu yn llwch y ddaear a ddeffroant, rhai i fywyd tragwyddol, a rhai i warth a dirmyg tragwyddol. 3A’r doethion a ddisgleiriant fel disgleirdeb y ffurfafen; a’r rhai a droant lawer i gyfiawnder, a fyddant fel y sêr byth yn dragywydd. 4Tithau, Daniel, cae ar y geiriau, a selia y llyfr hyd amser y diwedd: llawer a gyniweirant, a gwybodaeth a amlheir.
5Yna myfi Daniel a edrychais, ac wele ddau eraill yn sefyll, un o’r tu yma ar fin yr afon, ac un arall o’r tu arall ar fin yr afon. 6Ac un a ddywedodd wrth yr hwn a wisgasid â lliain, yr hwn ydoedd ar ddyfroedd yr afon, Pa hyd fydd hyd ddiwedd y rhyfeddodau hyn? 7Clywais hefyd y gŵr, a wisgasid â lliain, yr hwn ydoedd ar ddyfroedd yr afon, pan ddyrchafodd efe ei law ddeau a’i aswy tua’r nefoedd, ac y tyngodd i’r hwn sydd yn byw yn dragywydd, y bydd dros amser, amserau, a hanner: ac wedi darfod gwasgaru nerth y bobl sanctaidd, y gorffennir hyn oll. 8Yna y clywais, ond ni ddeellais: eithr dywedais, O fy arglwydd, beth fydd diwedd y pethau hyn? 9Ac efe a ddywedodd, Dos, Daniel: canys caewyd a seliwyd y geiriau hyd amser y diwedd. 10Llawer a burir, ac a gennir, ac a brofir; eithr y rhai drygionus a wnânt ddrygioni: ac ni ddeall yr un o’r rhai drygionus; ond y rhai doethion a ddeallant. 11Ac o’r amser y tynner ymaith y gwastadol aberth, ac y gosoder i fyny y ffieidd-dra anrheithiol, y bydd mil dau cant a deg a phedwar ugain o ddyddiau. 12Gwyn ei fyd a ddisgwylio, ac a ddêl hyd y mil tri chant a phymtheg ar hugain o ddyddiau. 13Dos dithau hyd y diwedd: canys gorffwysi, a sefi yn dy ran yn niwedd y dyddiau.

Currently Selected:

Daniel 12: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy