YouVersion Logo
Search Icon

Daniel 10

10
1Yn y drydedd flwyddyn i Cyrus brenin Persia, y datguddiwyd peth i Daniel, yr hwn y gelwid ei enw Beltesassar; a’r peth oedd wir, ond yr amser nodedig oedd hir; ac efe a ddeallodd y peth, ac a gafodd wybod y weledigaeth. 2Yn y dyddiau hynny y galerais i Daniel dair wythnos o ddyddiau. 3Ni fwyteais fara blasus, ac ni ddaeth cig na gwin yn fy ngenau; gan ymiro hefyd nid ymirais, nes cyflawni tair wythnos o ddyddiau. 4Ac yn y pedwerydd dydd ar hugain o’r mis cyntaf, fel yr oeddwn i wrth ymyl yr afon fawr, honno yw Hidecel; 5Yna y cyfodais fy llygaid, ac yr edrychais, ac wele ryw ŵr wedi ei wisgo â lliain, a’i lwynau wedi eu gwregysu ag aur coeth o Uffas: 6A’i gorff oedd fel maen beryl, a’i wyneb fel gwelediad mellten, a’i lygaid fel lampau tân, a’i freichiau a’i draed fel lliw pres gloyw, a sain ei eiriau fel sain tyrfa. 7A mi Daniel yn unig a welais y weledigaeth; canys y dynion y rhai oedd gyda mi ni welsant y weledigaeth; eithr syrthiodd arnynt ddychryn mawr, fel y ffoesant i ymguddio. 8A mi a adawyd fy hunan, ac a welais y weledigaeth fawr hon, ac ni thrigodd nerth ynof: canys fy ngwedd a drodd ynof yn llygredigaeth, ac nid ateliais nerth. 9Eto mi a glywais sain ei eiriau ef: a phan glywais sain ei eiriau ef, yna yr oeddwn mewn trymgwsg ar fy wyneb, a’m hwyneb tua’r ddaear.
10Ac wele, llaw a gyffyrddodd â mi, ac a’m gosododd ar fy ngliniau, ac ar gledr fy nwylo. 11Ac efe a ddywedodd wrthyf, Daniel, ŵr annwyl, deall y geiriau a lefaraf wrthyt, a saf yn dy sefyll: canys atat ti y’m hanfonwyd yr awr hon. Ac wedi iddo ddywedyd y gair hwn, sefais gan grynu. 12Yna efe a ddywedodd wrthyf, Nac ofna, Daniel: oherwydd er y dydd cyntaf y rhoddaist dy galon i ddeall, ac i ymgystuddio gerbron dy Dduw, y gwrandawyd dy eiriau; ac oherwydd dy eiriau di y deuthum i. 13Ond tywysog teyrnas Persia a safodd yn fy erbyn un diwrnod ar hugain: ond wele Michael, un o’r tywysogion pennaf, a ddaeth i’m cynorthwyo; a mi a arhosais yno gyda brenhinoedd Persia. 14A mi a ddeuthum i beri i ti ddeall yr hyn a ddigwydd i’th bobl yn y dyddiau diwethaf: oherwydd y mae y weledigaeth eto dros ddyddiau lawer. 15Ac wedi iddo lefaru wrthyf y geiriau hyn, gosodais fy wyneb tua’r ddaear, ac a euthum yn fud. 16Ac wele, tebyg i ddyn a gyffyrddodd â’m gwefusau: yna yr agorais fy safn, ac y lleferais, ac y dywedais wrth yr hwn oedd yn sefyll ar fy nghyfer, O fy arglwydd, fy ngofidiau a droesant arnaf gan y weledigaeth, ac nid ateliais nerth. 17A pha fodd y dichon gwasanaethwr fy arglwydd yma lefaru wrth fy arglwydd yma? a minnau yna ni safodd nerth ynof, ac nid arhodd ffun ynof. 18Yna y cyffyrddodd eilwaith â mi fel dull dyn, ac a’m cryfhaodd i, 19Ac a ddywedodd, Nac ofna, ŵr annwyl; heddwch i ti, ymnertha, ie, ymnertha. A phan lefarasai efe wrthyf, ymnerthais, a dywedais, Llefared fy arglwydd; oherwydd cryfheaist fi. 20Ac efe a ddywedodd, a wyddost ti paham y deuthum atat? ac yn awr dychwelaf i ryfela â thywysog Persia: ac wedi i mi fyned allan, wele, tywysog tir Groeg a ddaw. 21Eithr mynegaf i ti yr hyn a hysbyswyd yn ysgrythur y gwirionedd; ac nid oes un yn ymegnïo gyda mi yn hyn, ond Michael eich tywysog chwi.

Currently Selected:

Daniel 10: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy