YouVersion Logo
Search Icon

2 Brenhinoedd 25

25
1Ac yn y nawfed flwyddyn o’i deyrnasiad ef, yn y degfed mis, ar y degfed dydd o’r mis, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon, efe a’i holl lu, yn erbyn Jerwsalem, ac a wersyllodd yn ei herbyn hi, a hwy a adeiladasant yn ei herbyn hi wrthglawdd o’i hamgylch hi. 2A bu y ddinas yng ngwarchae hyd yr unfed flwyddyn ar ddeg i’r brenin Sedeceia. 3Ac ar y nawfed dydd o’r pedwerydd mis y trymhaodd y newyn yn y ddinas, ac nid oedd bara i bobl y wlad.
4A’r ddinas a dorrwyd, a’r holl ryfelwyr a ffoesant liw nos ar hyd ffordd y porth, rhwng y ddau fur, y rhai sydd wrth ardd y brenin, (a’r Caldeaid oedd wrth y ddinas o amgylch;) a’r brenin a aeth y ffordd tua’r rhos. 5A llu’r Caldeaid a erlidiasant ar ôl y brenin, ac a’i daliasant ef yn rhosydd Jericho: a’i holl lu ef a wasgarasid oddi wrtho. 6Felly hwy a ddaliasant y brenin, ac a’i dygasant ef i fyny at frenin Babilon i Ribla; ac a roddasant farn yn ei erbyn ef. 7Lladdasant feibion Sedeceia hefyd o flaen ei lygaid, ac a dynasant lygaid Sedeceia, ac a’i rhwymasant ef mewn gefynnau pres, ac a’i dygasant ef i Babilon.
8Ac yn y pumed mis, ar y seithfed dydd o’r mis, honno oedd y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i’r brenin Nebuchodonosor brenin Babilon, y daeth Nebusaradan y distain, gwas brenin Babilon, i Jerwsalem. 9Ac efe a losgodd dŷ yr Arglwydd, a thŷ y brenin, a holl dai Jerwsalem, a phob tŷ mawr a losgodd efe â thân. 10A holl lu’r Caldeaid, y rhai oedd gyda’r distain, a dorasant i lawr furiau Jerwsalem oddi amgylch. 11A Nebusaradan y distain a ddug ymaith y rhan arall o’r bobl a adawsid yn y ddinas, a’r ffoaduriaid a giliasant at frenin Babilon, gyda gweddill y dyrfa. 12Ac o dlodion y wlad y gadawodd y distain rai, yn winllanwyr, ac yn arddwyr. 13Y colofnau pres hefyd, y rhai oedd yn nhŷ yr Arglwydd, a’r ystolion, a’r môr pres, yr hwn oedd yn nhŷ yr Arglwydd, a ddrylliodd y Caldeaid, a hwy a ddygasant eu pres hwynt i Babilon. 14Y crochanau hefyd, a’r rhawiau, a’r saltringau, y llwyau, a’r holl lestri pres, y rhai yr oeddid yn gwasanaethu â hwynt, a ddygasant hwy ymaith. 15Y pedyll tân hefyd, a’r cawgiau, y rhai oedd o aur yn aur, a’r rhai oedd o arian yn arian, a ddug y distain ymaith. 16Y ddwy golofn, yr un môr, a’r ystolion a wnaethai Solomon i dŷ yr Arglwydd; nid oedd bwys ar bres yr holl lestri hyn. 17Tri chufydd ar bymtheg oedd uchder y naill golofn, a chnap pres oedd arni; ac uchder y cnap oedd dri chufydd; plethwaith hefyd a phomgranadau oedd ar y cnap o amgylch, yn bres i gyd: ac felly yr oedd yr ail golofn, â phlethwaith.
18A’r distain a gymerth Seraia yr offeiriad pennaf, a Seffaneia, yr ail offeiriad, a’r tri oedd yn cadw y drws. 19Ac o’r ddinas efe a gymerth ystafellydd, yr hwn oedd ar y rhyfelwyr, a phumwr o’r rhai oedd yn gweled wyneb y brenin, y rhai a gafwyd yn y ddinas, ac ysgrifennydd tywysog y llu, yr hwn oedd yn byddino pobl y wlad; a thrigeinwr o bobl y wlad, y rhai a gafwyd yn y ddinas. 20A Nebusaradan y distain a gymerth y rhai hyn, ac a’u dug at frenin Babilon, i Ribla. 21A brenin Babilon a’u trawodd hwynt, ac a’u lladdodd hwynt, yn Ribla, yng ngwlad Hamath. Felly y caethgludwyd Jwda o’i wlad ei hun.
22Ac am y bobl a adawsid yng ngwlad Jwda, y rhai a adawsai Nebuchodonosor brenin Babilon, efe a wnaeth yn swyddog arnynt hwy, Gedaleia mab Ahicam, mab Saffan. 23A phan glybu holl dywysogion y lluoedd, hwynt-hwy a’u gwŷr, wneuthur o frenin Babilon Gedaleia yn swyddog, hwy a ddaethant at Gedaleia i Mispa, sef Ismael mab Nethaneia, a Johanan mab Carea, a Seraia mab Tanhumeth y Netoffathiad, a Jaasaneia mab Maachathiad, hwynt a’u gwŷr. 24A Gedaleia a dyngodd wrthynt hwy, ac wrth eu gwŷr, ac a ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch fod yn weision i’r Caldeaid: trigwch yn y tir, a gwasanaethwch frenin Babilon, a bydd da i chwi. 25Ac yn y seithfed mis y daeth Ismael mab Nethaneia, mab Elisama, o’r had brenhinol, a dengwr gydag ef, a hwy a drawsant Gedaleia, fel y bu efe farw: trawsant hefyd yr Iddewon a’r Caldeaid oedd gydag ef ym Mispa. 26A’r holl bobl o fychan hyd fawr, a thywysogion y lluoedd, a gyfodasant ac a ddaethant i’r Aifft: canys yr oeddynt yn ofni’r Caldeaid.
27Ac yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain o gaethiwed Joachin brenin Jwda, yn y deuddegfed mis, ar y seithfed dydd ar hugain o’r mis, Efilmerodach brenin Babilon, yn y flwyddyn yr aeth efe yn frenin, a ddyrchafodd ben Joachin brenin Jwda o’r carchardy. 28Ac efe a ddywedodd yn deg wrtho, ac a osododd ei gadair ef goruwch cadeiriau y brenhinoedd oedd gydag ef yn Babilon. 29Ac efe a newidiodd ei garcharwisg ef: ac efe a fwytaodd fwyd yn wastadol ger ei fron ef holl ddyddiau ei einioes. 30A’i ran ef oedd ran feunyddiol, a roddid iddo gan y brenin, dogn dydd yn ei ddydd, holl ddyddiau ei einioes ef.

Currently Selected:

2 Brenhinoedd 25: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy