YouVersion Logo
Search Icon

1 Cronicl 1

1
1Adda, Seth, Enos, 2Cenan, Mahalaleel, Jered, 3Enoch, Methusela, Lamech, 4Noa, Sem, Cham, a Jaffeth.
5Meibion Jaffeth; Gomer, a Magog, a Madai, a Jafan, a Thubal, a Mesech, a Thiras. 6A meibion Gomer; Aschenas, a Riffath, a Thogarma. 7A meibion Jafan; Elisa, a Tharsis, Cittim, a Dodanim.
8Meibion Cham; Cus, a Misraim, Put, a Chanaan. 9A meibion Cus; Seba, a Hafila, a Sabta, a Raama, a Sabtecha: a Seba, a Dedan, meibion Raama. 10A Chus a genhedlodd Nimrod: hwn a ddechreuodd fod yn gadarn ar y ddaear. 11A Misraim a genhedlodd Ludim, ac Anamim, a Lehabim, a Nafftuhim, 12Pathrusim hefyd, a Chasluhim, (y rhai y daeth y Philistiaid allan ohonynt,) a Chafftorim. 13A Chanaan a genhedlodd Sidon ei gyntaf-anedig, a Heth, 14Y Jebusiad hefyd, a’r Amoriad, a’r Girgasiad, 15A’r Hefiad, a’r Arciad, a’r Siniad, 16A’r Arfadiad, a’r Semariad, a’r Hamathiad.
17Meibion Sem; Elam, ac Assur, ac Arffacsad, a Lud, ac Aram, ac Us, a Hul, a Gether, a Mesech. 18Ac Arffacsad a genhedlodd Sela, a Sela a genhedlodd Eber. 19Ac i Eber y ganwyd dau o feibion: enw y naill ydoedd Peleg; oherwydd mai yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaear: ac enw ei frawd oedd Joctan. 20A Joctan a genhedlodd Almodad, a Seleff, a Hasarmafeth, a Jera, 21Hadoram hefyd, ac Usal, a Dicla, 22Ac Ebal, ac Abimael, a Seba, 23Offir hefyd, a Hafila, a Jobab. Y rhai hyn oll oedd feibion Joctan.
24Sem, Arffacsad, Sela, 25Eber, Peleg, Reu, 26Serug, Nachor, Tera, 27Abram, hwnnw yw Abraham. 28Meibion Abraham; Isaac, ac Ismael.
29Dyma eu cenedlaethau hwynt: cyntaf-anedig Ismael oedd Nebaioth, yna Cedar, ac Adbeel, a Mibsam, 30Misma, a Duma, Massa, Hadad, a Thema, 31Jetur, Naffis, a Chedema. Dyma feibion Ismael.
32A meibion Cetura, gordderchwraig Abraham: hi a ymddûg Simran, a Jocsan, a Medan, a Midian, ac Isbac, a Sua. A meibion Jocsan; Seba, a Dedan. 33A meibion Midian; Effa, ac Effer, a Henoch, ac Abida, ac Eldaa: y rhai hyn oll oedd feibion Cetura. 34Ac Abraham a genhedlodd Isaac. Meibion Isaac; Esau, ac Israel.
35Meibion Esau; Eliffas, Reuel, a Jeus, a Jaalam, a Chora. 36Meibion Eliffas; Teman, ac Omar, Seffi, a Gatam, Cenas, a Thimna, ac Amalec. 37Meibion Reuel; Nahath, Sera, Samma, a Missa. 38A meibion Seir; Lotan, a Sobal, a Sibeon, ac Ana, a Dison, ac Eser, a Disan. 39A meibion Lotan; Hori, a Homam: a chwaer Lotan oedd Timna. 40Meibion Sobal; Alïan, a Manahath, ac Ebal, Seffi, ac Onam. A meibion Sibeon; Aia, ac Ana. 41Meibion Ana; Dison. A meibion Dison; Amram, ac Esban, ac Ithran, a Cheran. 42Meibion Eser; Bilhan, a Safan, a Jacan. Meibion Dison; Us, ac Aran.
43Dyma hefyd y brenhinoedd a deyrnasasant yn nhir Edom, cyn teyrnasu o frenin ar feibion Israel; Bela mab Beor: ac enw ei ddinas ef oedd Dinhaba. 44A phan fu farw Bela, y teyrnasodd yn ei le ef Jobab mab Sera o Bosra. 45A phan fu farw Jobab, Husam o wlad y Temaniaid a deyrnasodd yn ei le ef. 46A phan fu farw Husam, yn ei le ef y teyrnasodd Hadad mab Bedad, yr hwn a drawodd Midian ym maes Moab: ac enw ei ddinas ef ydoedd Afith. 47A phan fu farw Hadad, y teyrnasodd yn ei le ef Samla o Masreca. 48A phan fu farw Samla, Saul o Rehoboth wrth yr afon a deyrnasodd yn ei le ef. 49A phan fu farw Saul, y teyrnasodd yn ei le ef Baalhanan mab Achbor. 50A bu farw Baalhanan, a theyrnasodd yn ei le ef Hadad: ac enw ei ddinas ef oedd Pai; ac enw ei wraig ef Mehetabel, merch Matred, merch Mesahab.
51A bu farw Hadad. A dugiaid Edom oedd; dug Timna, dug Alia, dug Jetheth, 52Dug Aholibama, dug Ela, dug Pinon, 53Dug Cenas, dug Teman, dug Mibsar, 54Dug Magdiel, dug Iram. Dyma ddugiaid Edom.

Currently Selected:

1 Cronicl 1: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy