YouVersion Logo
Search Icon

S. Matthew 1

1
1Llyfr genedigaeth Iesu Grist, fab Dafydd, fab Abraham.
2Abraham a genhedlodd Itsaac; ac Itsaac a genhedlodd Iacob; 3ac Iacob a genhedlodd Iwdah a’i frodyr; ac Iwdah a genhedlodd Pharets a Zara o Thamar; a Pharets a genhedlodd Etsrom; ac Etsrom a genhedlodd Ram; 4a Ram a genhedlodd Aminadab; ac Aminadab a genhedlodd Naashon; 5a Naashon a genhedlodd Salmon; a Salmon a genhedlodd Boaz o Rachab; a Boaz a genhedlodd Obed, o Rwth; 6ac Obed a genhedlodd Ieshe; ac Ieshe a genhedlodd Ddafydd frenhin.
A Dafydd frenhin a genhedlodd Shalomon o’r hon a fuasai wraig Wriah; 7a Shalomon a genhedlodd Roboam; a Roboam a genhedlodd Abiah; ac Abiah a genhedlodd Asa; 8ac Asa a genhedlodd Ieoshaphat; ac Ieoshaphat a genhedlodd Ioram; 9ac Ioram a genhedlodd Oziah: ac Oziah a genhedlodd Iotham; 10ac Iotham a genhedlodd Achaz; ac Achaz a genhedlodd Ezeciah; ac Ezeciah a genhedlodd Manashsheh; 11a Manashsheh a genhedlodd Amon; ac Amon a genhedlodd Ioshiah; ac Ioshiah a genhedlodd Ieconiah a’i frodyr, ar amser y traws-symmudiad i Babilon.
12Ac wedi’r traws-symmudiad i Babilon, Ieconiah a genhedlodd Shalathiel; a Shalathiel a genhedlodd Zorobabel; 13a Zorobabel a genhedlodd Abiwd; ac Abiwd a genhedlodd Eliacim; 14ac Eliacim a genhedlodd Azor; ac Azor a genhedlodd Tsadoc; a Tsadoc a genhedlodd Iacin; ac Iacin a genhedlodd Eliwd; 15ac Eliwd a genhedlodd Eleazer; 16ac Eleazer a genhedlodd Mattan; a Mattan a genhedlodd Iacob; ac Iacob a genhedlodd Ioseph, gŵr Mair, o’r hon y ganed Iesu, yr Hwn a elwir Crist.
17Yr holl genhedlaethau, gan hyny, o Abraham hyd Ddafydd, pedair cenhedlaeth ar ddeg ydynt; ac o Ddafydd hyd y traws-symmudiad i Babilon, pedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o’r traws-symmudiad i Babilon hyd Grist, pedair cenhedlaeth ar ddeg.
18A genedigaeth yr Iesu Grist, fel hyn yr oedd; Wedi dyweddïo Ei fam Ef, Mair, âg Ioseph, cyn dyfod o honynt ynghyd, cafwyd hi yn feichiog o’r Yspryd Glan. 19Ac Ioseph, ei gwr hi, gan ei fod yn gyfiawn, ac na fynnai ei gosod hi yn watwor, a ewyllysiodd ei rhoddi hi ymaith yn ddirgel. 20Ac efe yn meddwl y pethau hyn, wele, angel yr Arglwydd, mewn breuddwyd, a ymddangosodd iddo, yn dywedyd, Ioseph, Mab Dafydd, nac ofna gymmeryd Mair dy wraig, canys yr hyn a genhedlwyd ynddi, o’r Yspryd Glan y mae; 21ac esgora hi ar fab, a gelwi Ei enw Ef Iesu, canys Efe a wared Ei bobl oddi wrth eu 22pechodau. A hyn oll a ddigwyddodd fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy’r prophwyd, gan ddywedyd,
23“Wele, y forwyn fydd feichiog, ac a esgor ar fab;
A galwant Ei Enw Ef Immanwel”
yr hyn, o’i gyfieithu, yw, “Gyda ni Duw.” 24Ac Ioseph, wedi cyfodi o’i gwsg, a wnaeth fel y gorchymynodd angel yr Arglwydd iddo, 25ac a gymmerodd ei wraig, ac nid adnabu hi nes esgor o honi ar fab; a galwodd Ei enw Ef Iesu.

Currently Selected:

S. Matthew 1: CTB

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in