S. Matthew 2
2
1A’r Iesu wedi Ei eni yn Bethlehem Iwdea, yn nyddiau Herod frenhin, wele, doethion o’r dwyrain a ddaethant i Ierwshalem, gan ddywedyd, 2Pa le y mae brenhin yr Iuddewon y sydd wedi Ei eni? canys gwelsom Ei seren Ef yn y dwyrain, a daethom i’w addoli Ef. 3Ac wedi clywed hyn, Herod frenhin a gynnyrfwyd, a holl Ierwshalem gydag ef, 4a chwedi dwyn ynghyd yr holl archoffeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl, ymofynodd â hwynt, Pa le y mae Crist i’w eni? 5A hwy a ddywedasant wrtho, Yn Bethlehem Iwdea, canys fel hyn yr ysgrifenwyd trwy’r prophwyd,
6“A thydi, Bethlehem, tir Iwdea,
Nid y lleiaf wyt er dim ym mhlith tywysogion Iwdah,
Canys o honot y daw allan dywysog,
Yr hwn a fugeilia Fy mhobl Israel.”
7Yna Herod, wedi galw’r doethion yn ddirgel, a gafodd wybodaeth fanwl ganddynt am amser ymddangosiad y seren; 8a chan eu danfon i Bethlehem, dywedodd, Ewch a chwiliwch yn fanwl am y plentyn; a phan gaffoch Ef, mynegwch i mi, fel y bo i minnau hefyd ddyfod a’i addoli Ef. 9A hwy, wedi clywed y brenhin, a aethant; ac wele, y seren a welsent yn y dwyrain, a aeth o’u blaen, hyd oni ddaeth a sefyll goruwch y lle yr oedd y plentyn. 10A phan welsant y seren, llawenychasant â llawenydd mawr dros ben. 11Ac wedi dyfod i’r tŷ, gwelsant y plentyn gyda Mair Ei fam; ac wedi syrthio i lawr addolasant Ef; ac wedi agoryd eu trysorau, offrymmasant Iddo anrhegion, aur a thus a myrr. 12Ac wedi eu rhybuddio mewn breuddwyd, gan Dduw, i beidio â dychwelyd at Herod, hyd ffordd arall yr aethant yn eu holau i’w gwlad.
13Ac wedi myned o honynt, wele, angel yr Arglwydd yn ymddangos, mewn breuddwyd, i Ioseph, gan ddywedyd, Cyfod, a chymmer y plentyn a’i fam, a ffo i’r Aipht; a bydd yno hyd oni ddywedwyf wrthyt, canys y mae Herod ar fedr ceisio’r plentyn er mwyn Ei ladd Ef. 14Ac wedi cyfodi o hono, cymmerth efe y plentyn a’i fam o hŷd nos, a chiliodd i’r Aipht; 15a bu yno hyd farwolaeth Herod, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy’r prophwyd, gan ddywedyd, “O’r Aipht y gelwais Fy Mab.” 16Yna Herod, pan weles ei watwar gan y doethion, a ffrommodd yn aruthr, ac a ddanfonodd ac a laddodd yr holl fechgyn oedd yn Bethlehem ac yn ei holl gyffiniau, o ddwy flwydd oed a than hyny, wrth yr amser y cawsai wybodaeth fanwl gan y doethion. 17Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedasid gan Ieremiah y prophwyd, gan ddywedyd,
18“Llef yn Rama a glybuwyd,
Wylofain a galar mawr;
Rachel yn wylo am ei phlant,
Ac ni fynnai ei chysuro, am nad ydynt.”
19Ac wedi marw Herod, wele, angel yr Arglwydd, mewn breuddwyd, 20a ymddangosodd i Ioseph yn yr Aipht, gan ddywedyd, Cyfod a chymmer y plentyn a’i fam, a dos i dir Israel, canys bu farw y rhai oedd yn ceisio einioes y plentyn. 21Ac efe, wedi cyfodi, a gymmerth y plentyn a’i fam, ac a ddaeth i dir Israel; 22ond wedi clywed fod Archelaus yn teyrnasu yn Iwdea yn lle Herod, ei dad, ofnodd fyned yno: ac wedi ei rybuddio mewn breuddwyd, ciliodd i barthau Galilea, 23a daeth a thrigodd mewn dinas a elwid Natsareth, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy’r prophwydi, “Natsaread a elwir Ef.”
Currently Selected:
S. Matthew 2: CTB
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.