YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 1

1
Achau Iesu Grist
1Dyma dabl achau Iesu Grist, o linach Dafydd ac Abraham: 2Abraham oedd dad i Isaac, Isaac i Jacob, Jacob i Jwda a’i frodyr, 3Jwda i Phares a Sara (Tamar oedd eu mam), Phares i Esrom, Esrom i Aram, 4Aram i Aminadab, Aminadab i Naasson, Naasson i Salmon, 5Salmon i Boas (Rachab oedd ei fam), Boas i Obed (Ruth oedd ei fam), Obed i Jesse, 6Jesse i’r brenin Dafydd, Dafydd oedd dad i Solomon (bu ei fam yn wraig i Ureias), 7Solomon i Rehoboam, Rehoboam i Abeia, Abeia i Asa, 8Asa i Josaffat, Josaffat i Joram, Joram i Usseia, 9Usseia i Joatham, Joatham i Achas, Achas i Eseceias, 10Eseceias i Manasses, Manasses i Amos, ac Amos i Joseias.
11Adeg yr alltudiaeth i Fabilon ganwyd Jechoneias a’i frodyr yn feibion i Joseias. 12Yna wedi’r alltudiaeth i Fabilon ganwyd Salathiel yn fab i Jechoneias, Sorobabel i Salathiel, 13Abiud i Sorobabel, Eliacim i Abiud, Asor i Eliacim, 14Sadoc i Asor, Achim i Sadoc, Eliud i Achim, 15Eleasar i Eliud, Mathan i Eleasar, a Jacob i Mathan. 16Jacob oedd tad Joseff, gŵr Mair, mam Iesu, a elwir ‘Crist’.
17Felly, y mae pedair cenhedlaeth ar ddeg rhwng Abraham a Dafydd, a phedair ar ddeg wedyn rhwng Dafydd a’r alltudiaeth i Fabilon, a phedair ar ddeg drachefn rhwng hynny a Christ.
Ei eni Ef
18Fel hyn y bu genedigaeth Iesu Grist. A Mair ei fam wedi ei dyweddïo i Joseff, cyn eu priodas sylweddolodd ei bod hi’n disgwyl plentyn trwy’r Ysbryd Glân. 19Felly, penderfynodd Joseff, ei darpar-ŵr, dyn cywir, ac eto yn dymuno ei harbed hi rhag gwarth, ei hysgaru yn ddirgel. 20Dyna’i fwriad pan ymddangosodd angel oddi wrth yr Arglwydd iddo mewn breuddwyd. “Joseff, fab Dafydd,” meddai’r angel wrtho, “paid ag ofni cymryd Mair yn wraig i ti. Trwy’r Ysbryd Glân y mae hi’n feichiog. 21Fe esgor hi ar fab, a’r enw a roi di arno fydd ‘Iesu’, oblegid fe wared ei bobl oddi wrth eu pechodau.”
22Digwyddodd y cwbl hyn er mwyn cyflawni’r hyn ddywedodd yr Arglwydd drwy’r proffwyd: 23“Wele, bydd gwyryf yn feichiog, ac a esgor ar fab, a’r enw a roir arno fydd ‘Emanuel’, a’i ystyr yw ‘Y mae Duw gyda ni’.”
24Wedi deffro, gwnaeth Joseff yn ôl cyfarwyddyd angel yr Arglwydd; fe briododd Mair, 25ond fu dim cyfathrach rywiol rhyngddyn nhw cyn iddi esgor ar fab. A rhoddodd arno yr enw ‘Iesu’.

Currently Selected:

Mathew 1: FfN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy