YouVersion Logo
Search Icon

Sechareia 14

14
Jerwsalem a'r Cenhedloedd
1Wele, y mae diwrnod i'r ARGLWYDD yn dod, ac fe rennir yn dy ŵydd yr ysbail a gymerwyd oddi arnat. 2Casglaf yr holl genhedloedd i frwydr yn erbyn Jerwsalem; cymerir y ddinas, ysbeilir y tai, a threisir y gwragedd, caethgludir hanner y ddinas, ond ni thorrir ymaith weddill y bobl o'r ddinas. 3Yna â'r ARGLWYDD allan i ymladd yn erbyn y cenhedloedd hynny, fel yr ymladd yn nydd brwydr. 4Yn y dydd hwnnw, gesyd ei draed ar Fynydd yr Olewydd, sydd gyferbyn â Jerwsalem i'r dwyrain; a holltir Mynydd yr Olewydd yn ddau o'r dwyrain i'r gorllewin gan ddyffryn mawr, a symud hanner y mynydd tua'r gogledd a hanner tua'r de. 5Llenwir y dyffryn rhwng y mynyddoedd (oherwydd y mae'r dyffryn rhyngddynt yn cyrraedd hyd Asal), a bydd wedi ei lenwi fel yr oedd ar ôl ei lenwi gan y daeargryn yn amser Usseia brenin Jwda. Yna bydd yr ARGLWYDD fy Nuw yn dod, a'i holl rai sanctaidd gydag ef#14:5 Felly Fersiynau. Hebraeg, gyda thi..
6Ar y dydd hwnnw ni bydd na gwres, nac oerni, na rhew. 7A bydd yn un diwrnod—y mae'n wybyddus i'r ARGLWYDD—heb wahaniaeth rhwng dydd a nos; a bydd goleuni gyda'r hwyr.
8Ar y dydd hwnnw daw dyfroedd bywiol allan o Jerwsalem, eu hanner yn mynd i fôr y dwyrain a'u hanner i fôr y gorllewin, ac fe ddigwydd hyn haf a gaeaf. 9Yna bydd yr ARGLWYDD yn frenin ar yr holl ddaear; a'r dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD yn un, a'i enw'n un. 10Bydd yr holl ddaear yn wastadedd o Geba i Rimmon yn y de, a Jerwsalem yn sefyll yn uchel yn ei lle ac yn boblog o borth Benjamin hyd le'r hen borth, hyd borth y gornel, ac o dŵr Hananel hyd winwryf y brenin. 11Bydd yn boblog, ac ni fydd dan felltith mwyach, ond gellir byw'n ddiogel ynddi.
12Bydd yr ARGLWYDD yn taro'r holl bobloedd a fu'n rhyfela yn erbyn Jerwsalem â'r pla hwn: bydd eu cnawd yn pydru, a hwythau'n dal ar eu traed, eu llygaid yn pydru yn eu tyllau, a'u tafod yn eu safn. 13Ar y dydd hwnnw daw dychryn mawr arnynt oddi wrth yr ARGLWYDD. Bydd y naill yn codi yn erbyn y llall, a byddant yn ymladd yn erbyn ei gilydd; 14a bydd Jwda'n rhyfela yn Jerwsalem. Cesglir cyfoeth yr holl genhedloedd oddi amgylch—aur ac arian a digonedd o ddillad. 15A syrth pla tebyg ar geffyl a mul, ar gamel ac asyn, ac ar bob anifail yn eu gwersylloedd.
16Yna bydd pob un a adawyd o'r holl genhedloedd a ddaeth yn erbyn Jerwsalem yn dod i fyny flwyddyn ar ôl blwyddyn i addoli'r brenin, ARGLWYDD y Lluoedd, ac i gadw gŵyl y Pebyll. 17A ph'un bynnag o deuluoedd y ddaear nad â i fyny i Jerwsalem i addoli'r brenin, ARGLWYDD y Lluoedd, ni ddisgyn glaw arno. 18Ac os bydd teulu'r Aifft heb fynd i fyny ac ymddangos, yna fe ddaw arnynt y pla sydd gan yr ARGLWYDD i daro'r cenhedloedd nad ydynt yn mynd i fyny i gadw gŵyl y Pebyll. 19Dyna fydd cosb yr Aifft, a chosb unrhyw genedl nad yw'n mynd i fyny i gadw gŵyl y Pebyll.
20Ar y dydd hwnnw, bydd “Sanctaidd i'r ARGLWYDD” wedi ei ysgrifennu ar glychau'r meirch, a bydd y cawgiau yn nhŷ'r ARGLWYDD fel y dysglau o flaen yr allor; 21a bydd pob cawg yn Jerwsalem a Jwda yn sanctaidd i ARGLWYDD y Lluoedd, a bydd pob un sy'n dod i aberthu yn cymryd un ohonynt i ferwi cig. Ni fydd marchnatwr yn nhŷ ARGLWYDD y Lluoedd ar y dydd hwnnw.

Currently Selected:

Sechareia 14: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy