YouVersion Logo
Search Icon

Doethineb Solomon 2

2
Ymresymiad yr Annuwiol
1Dywedasant wrthynt eu hunain, gan resymu ar gam:
“Byr a blinderus yw ein bywyd;
nid oes iachâd pan ddown i ddiwedd ein hoes,
ac ni wyddom am neb a ddaeth yn ôl#2:1 Neu, a all ryddhau. o'r bedd.
2Ar hap y'n ganwyd ni,
ac yn y fan byddwn fel pe baem heb fod;
mwg yw'r anadl yn ein ffroenau,
a gwreichionen yn tasgu o guriad y galon yw ein rheswm.
3Pan ddiffoddir hi, lludw fydd y corff,
a'r ysbryd yn diflannu fel tarth ysgafn.
4Gollyngir ein henw i ebargofiant ymhen amser,
ac angof fydd ein gweithredoedd gan bawb.
Mynd heibio y bydd ein heinioes fel olion cwmwl,
a'i gwasgaru fel niwl
a erlidir gan belydrau'r haul
ac a lethir gan drymder ei wres.
5Oherwydd cysgod yn mynd heibio yw ein hoedl,
ac nid oes dychwelyd oddi wrth ein diwedd;
seliwyd ein tynged, ac ni all neb droi yn ei ôl.#2:5 Neu, neb ei droi yn ôl.
6Dewch, felly, mwynhawn bob difyrrwch sy'n bod;
ymrown ag asbri ieuenctid i bleserau'r greadigaeth.
7Mynnwn ein gwala o win drudfawr ac o beraroglau,
a pheidied hoen y gwanwyn â mynd heibio inni.
8Plethwn am ein pennau dorch o rosod yn eu blagur cyn iddynt wywo.
9Peidied neb ohonom â bod heb ei gyfran o'n gloddesta;
gadawn arwyddion ein rhialtwch ym mhobman,
am mai dyma'n rhan a dyma'n cyfran.
10Gorthrymwn y tlawd cyfiawn;
peidiwn ag arbed y weddw;
gwrthodwn barchu hirhoedledd penwyn yr henwr.
11I ni boed grym yn gyfraith cyfiawnder,
am inni brofi bod gwendid yn gwbl ddi-fudd.
12Gosodwn fagl ar gyfer y cyfiawn, am iddo sefyll ar ein ffordd
a rhwystro ein gweithgareddau;
y mae'n edliw i ni ein troseddau yn erbyn y gyfraith,
ac yn dannod i ni ein troseddau yn erbyn ein magwraeth.
13Y mae'n honni bod ganddo wybodaeth o Dduw,
ac yn ei alw ei hun yn blentyn#2:13 Neu, yn was. yr Arglwydd.
14Fe'i cawsom yn gerydd ar ein cynlluniau,
a gwrthun i ni yw hyd yn oed edrych arno.
15Oherwydd annhebyg yw yn ei fuchedd i bawb arall,
a chwbl ar wahân yw ei lwybrau.
16Cyfrifwyd ni ganddo yn arian gau,
a'n rhodiad yn aflendid i ymochel rhagddo.
Gwynfydedig y geilw ef ddiwedd y rhai cyfiawn,
a'i ymffrost yw fod Duw yn dad iddo.
17Gadewch inni weld ai gwir yw ei eiriau,
a rhown brawf ar yr hyn a ddigwydd ar ei ymadawiad.
18Oherwydd os yw'r cyfiawn yn blentyn i Dduw, caiff gymorth ganddo,
a'i waredu o ddwylo'i elynion.
19Holwn ef ag artaith a dirboen,
inni gael mesur ei diriondeb
a dyfarnu ar ei oddefgarwch.
20Dedfrydwn ef i farwolaeth gywilyddus;
oherwydd daw gwaredigaeth iddo, yn ôl ei eiriau ef.”
Cyfeiliorni'r Annuwiol
21Dyna'u hymresymiad, ond aethant ar gyfeiliorn,
am i'w drygioni eu dallu.
22Nid oedd ganddynt wybodaeth am ddirgelion Duw,
na gobaith am wobr sancteiddrwydd,
nac amcan am fraint eneidiau di-fai;
23oherwydd mewn anllygredigaeth y creodd Duw ddyn
a'i wneud ar ddelw ei dragwyddoldeb#2:23 Yn ôl darlleniad arall, hanfod. ef ei hun.
24Ond trwy genfigen y diafol y daeth angau i'r byd,
ac y mae'r rhai sydd o'i blaid ef yn cael profiad ohono.

Currently Selected:

Doethineb Solomon 2: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy