YouVersion Logo
Search Icon

Tobit 14

14
Cyngor Olaf Tobit
1Â'r geiriau hyn gorffennodd Tobit ei emyn o fawl. Bu farw mewn tangnefedd, ac yntau'n gant a deuddeng mlwydd oed, a chladdwyd ef yn llawn clod yn Ninefe. 2Yr oedd yn ddwy a thrigain oed pan ddaeth yr anaf ar ei lygaid, ond wedi iddo gael ei olwg yn ôl bu'n byw yn dda ei fyd. Bu'n hael ei gymwynasau, gan fendithio Duw a chlodfori ei fawredd yn gyson.
3Ar ei wely angau galwodd ato ei fab Tobias a rhoi'r gorchymyn hwn iddo: 4“Fy machgen, cymer dy blant a ffo i Media, oherwydd yr wyf fi'n credu gair Duw, y gair a lefarodd Nahum yn erbyn Ninefe. Fe gyflawnir y cyfan. Fe ddigwydd pob peth i Asyria a Ninefe yn union fel y llefarodd cenhadon Duw, proffwydi Israel; ni fydd yr un o'u holl eiriau yn methu. Fe ddigwydd pob peth yn ei amser priodol. Yn Media, felly, y cewch ddiogelwch, nid yn Asyria a Babilon, oherwydd y mae'n gred sicr gennyf y cyflawnir pob gair a lefarodd Duw. Dyma a fydd—ni fydd yr un gair o'r proffwydoliaethau yn methu. Fe wasgerir ein holl berthnasau sy'n preswylio yng ngwlad Israel, a'u dwyn yn gaeth o'u tir da. Bydd y cwbl o dir Israel yn anghyfannedd; a bydd Samaria a Jerwsalem yn anghyfannedd, ac am gyfnod bydd tŷ Dduw mewn galar, wedi ei ddifetha drwy dân.
5“Ond eto fe drugarha Duw wrthynt, ac fe ddaw Duw â hwy yn ôl i dir Israel. Ailgodant ei dŷ, er na fydd yn debyg i'r tŷ cyntaf, nid nes y daw'r cyfnod penodedig o amser i ben. Wedi hynny, daw pob un yn ôl o'u caethglud ac adeiladu Jerwsalem yn ei holl ogoniant. Fe godir tŷ Dduw ynddi, fel y llefarodd proffwydi Israel amdani. 6Bydd pob cenedl ar draws y byd, pob un ohonynt, yn troi'n ôl at Dduw mewn parchedig ofn diffuant; ymwrthodant oll â'u heilunod, a fu'n eu harwain ar gyfeiliorn i ffordd anwiredd, 7a bendithiant y Duw tragwyddol mewn cyfiawnder. Ac fe gesglir ynghyd holl blant Israel a achubir yn y dyddiau hynny ac sy'n wir deyrngar i Dduw. Dychwelant i Jerwsalem a phreswylio yn ddiogel am byth yn nhir Abraham, a roddir iddynt i'w feddiannu. Bydd y rhai sy'n caru Duw mewn gwirionedd yn llawenhau, ond diflannu y bydd y pechaduriaid a'r drwgweithredwyr oddi ar wyneb y ddaear. 8Ac yn awr, fy mhlant, dyma fy ngorchymyn i chwi: gwasanaethwch Dduw mewn gwirionedd, a gwnewch yr hyn sy'n gymeradwy yn ei olwg ef; 9a chyfarwyddwch eich plant i wneud yr hyn sy'n iawn, ac i roi elusen, ac i fod yn deyrngar i Dduw a bendithio'i enw bob amser mewn gwirionedd ac â'u holl nerth.
10“A thithau, fy machgen, dos allan o Ninefe. Paid ag aros yma. Y dydd y byddi'n claddu dy fam wrth fy ochr, ymfuda heb dreulio noson o fewn cyffiniau'r ddinas, oherwydd yr wyf yn gweld bod anghyfiawnder yn rhemp ac anffyddlondeb digywilydd yn uchel ei ben ynddi. Ystyria, fy machgen, yr holl bethau a wnaeth Nadab i Achicar, yr un a'i magodd. Oni orfodwyd ef i ymguddio yn y pridd, ac yntau'n fyw? Ond troes Duw y weithred gywilyddus yn fantais iddo: daeth Achicar allan i olau dydd, tra syrthiodd Nadab i fagl farwol, ac fe'i lladdodd. Am iddo #14:10 Yn ôl darlleniad arall, imi. roi elusen, fe ddihangodd Achicar o'r fagl farwol a osododd Nadab iddo, ond syrthiodd Nadab i'r fagl farwol, ac fe'i lladdodd. 11Ystyriwch, felly, fy mhlant, beth yw ffrwyth elusengarwch, a beth yw ffrwyth anghyfiawnder, oherwydd lladd y mae hwnnw. Ond yn awr y mae fy einioes yn dod i ben.”
Rhoesant ef i orwedd ar ei wely, a bu farw. Claddwyd ef yn llawn clod. 12Wedi marw ei fam, claddodd Tobias hithau wrth ochr ei dad. Yna aeth Tobias a'i wraig i Media, ac ymsefydlu yn Ecbatana yn nhŷ Ragwel ei dad-yng-nghyfraith. 13Gofalodd Tobias amdanynt yn eu henaint â phob parch, a'u claddu yn Ecbatana yn Media. Etifeddodd Tobias holl eiddo Ragwel yn ogystal ag eiddo Tobit ei dad. 14Bu farw'n uchel ei barch, ac yntau'n gant a dwy ar bymtheng mlwydd oed. 15Cyn iddo farw cafodd wybod am ddinistr Ninefe, gan weld ei chaethglud i Media, a gyflawnwyd gan Achiacharus brenin Media. Bendithiodd Dduw am yr holl bethau a wnaeth i bobl Ninefe ac Asyria. Cyn iddo farw, felly, cafodd lawenhau dros Ninefe, a bendithiodd yr Arglwydd Dduw yn oes oesoedd.

Currently Selected:

Tobit 14: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy