YouVersion Logo
Search Icon

Tobit 13

13
Cân Tobit
1Dyma gân Tobit:
“Bendigedig fo'r Duw bytholfyw a'i deyrnas ef!
2Oherwydd ef sy'n cosbi, ac yn trugarhau.
Ef sy'n bwrw pobl i lawr hyd ddyfnder eithaf y bedd,
ac ef hefyd sy'n eu codi i fyny o'r dinistr mawr.
Nid oes dim a all ddianc rhag ei law.
3Clodforwch ef gerbron y Cenhedloedd, blant Israel,
oherwydd ef a'ch gwasgarodd yn eu plith hwy;
4ac yno dangosodd ei fawredd i chwi.
Dyrchafwch ef, felly, gerbron pob un byw,
oherwydd ef yw ein Harglwydd; ef yw ein Duw;
5“Fe'ch cosba chwi am eich anghyfiawnderau,
ac eto fe drugarha wrthych chwi oll,
a'ch cynnull o blith yr holl genhedloedd,
lle bynnag y'ch gwasgarwyd chwi yn eu plith.
6Os dychwelwch ato â'ch holl galon ac â'ch holl enaid,
a gweithredu'n gywir ger ei fron,
yna fe ddychwel atoch chwi,
ac ni chuddia'i wyneb oddi wrthych ddim mwy.
Ystyriwch yn awr y pethau a wnaeth yn eich plith,
a chlodforwch ef ar uchaf eich llais.
Bendithiwch yr Arglwydd cyfiawn a dyrchafwch y Brenin tragwyddol.#13:6 Yn ôl darlleniad arall ychwanegir: “A minnau, fe'i clodforaf ef yng ngwlad fy nghaethiwed, a datganaf ei nerth a'i fawredd i genedl o bechaduriaid. Edifarhewch, bechaduriaid, a gwnewch gyfiawnder yn ei olwg ef. Pwy a ŵyr na fydd yn raslon tuag atoch a thrugarhau wrthych? 7 Dyrchafaf fy Nuw a llawenychaf ym Mrenin y Nef a'i fawredd. 8 Llefared pawb amdano a'i glodfori yn Jerwsalem. 9 O Jerwsalem, y ddinas sanctaidd, fe'th gosba di am weithredoedd dy blant, ond fe drugarha eto wrth blant y cyfiawn. 10 Clodfora'r Arglwydd am ei ddaioni, a bendithia'r Brenin tragwyddol.
10‘Fe ailadeiledir dy babell iti mewn llawenydd
i fod yn achos gorfoledd ynot i'r holl rai a alltudiwyd,
ac yn arwydd o gariad ynot i'r holl drueiniaid ym mhob cenhedlaeth am byth.
11Llewyrcha disgleirdeb dy oleuni i holl derfynau'r ddaear;
daw cenhedloedd lawer atat o bell,
a thrigolion holl eithafoedd y ddaear at dy enw sanctaidd,
a'u rhoddion yn eu dwylo i'w cyflwyno i Frenin y Nef.
Bydd cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth yn gorfoleddu ynot,
ac fe bery enw'r ddinas etholedig am byth.
12Bydd melltith ar bawb a ddywed ddrygair wrthyt,
a melltith ar bawb a gais dy ddifrodi a thynnu dy furiau i lawr,
ar bawb a gais ddymchwel dy dyrau a rhoi dy drigfannau ar dân;
ond bydd bendith am byth ar bawb sy'n dy barchu di.
13Tyrd, felly, ac ymlawenha ym mhlant y cfiawn,
am y byddant oll wedi eu casglu ynghyd
ac yn bendithio'r Arglwydd tragwyddol.
Gwyn eu byd y rhai sy'n dy garu;
gwyn eu byd y rhai sy'n llawenhau yn dy lwyddiant.
14Gwyn eu byd pawb sy'n gofidio amdanat ar gyfrif dy holl gystuddiau,
oherwydd fe gânt lawenhau ynot ac edrych ar dy holl lawenydd am byth.
15Fy enaid, bendithia'r Arglwydd, y Brenin mawr,
16oherwydd fe adeiledir Jerwsalem yn ddinas iddo breswylio ynddi yn oes oesoedd.’
“Gwyn fy myd, pan ddaw gweddill fy hiliogaeth i weld dy ogoniant
ac i glodfori Brenin y Nef.
Fe adeiledir pyrth Jerwsalem â saffir ac emrallt,
a'th holl furiau â meini gwerthfawr;
adeiledir tyrau Jerwsalem ag aur,
a'u hamddiffynfeydd ag aur pur;
17palmentir heolydd Jerwsalem â rhuddemau a gemau Offir.
18Bydd caneuon o orfoledd yn atseinio o byrth Jerwsalem,
ac o'i holl breswylfeydd y llef, ‘Haleliwia! Bendigedig fyddo Duw Israel!’
Dan ei fendith ef, bendithiant hwy ei enw sanctaidd byth bythoedd.”

Currently Selected:

Tobit 13: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy