YouVersion Logo
Search Icon

Ecclesiasticus 51

51
Emyn o Fawl
1Diolchaf i ti, fy Arglwydd a'm Brenin,
a moliannaf di, O Dduw, fy Ngwaredwr;
diolchaf i'th enw di.
2Oherwydd buost yn amddiffynnydd ac yn gynorthwywr imi,
a gwaredaist fy nghorff rhag distryw,
rhag y fagl a osododd tafod enllibus,
a rhag y gwefusau sy'n taenu celwydd;
yng ngŵydd fy ngwrthwynebwyr
buost yn gynorthwywr imi; gwaredaist fi,
3yn unol â mawredd dy drugaredd a'th enw,
rhag ysgyrnygu'r dannedd oedd yn barod i'm bwyta,
ac o law'r rhai oedd yn ceisio fy mywyd.
4Gwaredaist fi o'r blinderau lawer a ddioddefais,
o fwg taglyd y fflamau a'm hamgylchynai,
o ganol y tân nad oeddwn wedi ei gynnau,
5o ddyfnder crombil Trigfan y Meirw,
a rhag tafod aflan a'i eiriau celwyddog—
6y tafod anghyfiawn a'm henllibiodd wrth y brenin.
Deuthum innau'n agos i farwolaeth,
a disgynnais bron hyd at Drigfan y Meirw.
7Yr oeddent yn f'amgylchu ar bob tu, ac nid oedd neb i'm helpu;
yr oeddwn yn chwilio am gymorth gan eraill, ond nid oedd neb ar gael.
8Yna cofiais am dy drugaredd di, Arglwydd,
ac am dy weithredoedd o'r dechrau cyntaf:
dy fod yn gwaredu'r rhai sy'n dal i ddisgwyl wrthyt,
ac yn eu hachub o law eu gelynion.
9Dyrchefais f'erfyniad o'r ddaear,
a gweddïais am gael fy arbed rhag marw.
10Gelwais ar yr Arglwydd, tad fy arglwydd,
i beidio â chefnu arnaf mewn dyddiau o gyfyngder,
a minnau'n ddiymgeledd yn amser traha.
Moliannaf dy enw yn ddi-baid,
a chanaf emynau mewn diolchgarwch.
11Gwrandawyd fy ngweddi,
oherwydd achubaist fi rhag marwolaeth
a'm gwaredu o'r amser drwg.
12Am hynny diolchaf iti a'th foliannu,
a bendithiaf dy enw, O Arglwydd.
Cais am Ddoethineb
13Pan oeddwn eto'n ifanc, cyn cychwyn ar fy nheithiau,
ar goedd yn fy ngweddi gwneuthum gais am ddoethineb.
14Yng nghyntedd y cysegr fe'i hawliais imi,
a daliaf i'w cheisio hyd y diwedd.
15O'i blodau cyntaf hyd y grawnwin aeddfed,
ynddi hi yr ymhyfrydodd fy nghalon.
Cedwais fy nhroed ar lwybr union
wrth imi ei chanlyn o'm hieuenctid.
16Ar y gwrandawiad cyntaf, fe'i cefais,
ac ennill i mi fy hun lawer o addysg;
17cynnydd fu fy rhan trwyddi hi.
I'r hwn a roes imi ddoethineb y rhof ogoniant.
18Oherwydd penderfynais gyflawni ei gofynion,
a bûm yn llawn sêl dros y da; felly ni chywilyddir mohonof.
19Yr wyf fi wedi brwydro amdani hi,
gan fod yn fanwl gywir wrth gadw'r gyfraith.
Estynnais fy nwylo i fyny tua'r nef,
gan alaru oblegid fy anwybodaeth ohoni.
20Cyfeiriais fy mywyd tuag ati,
ac ar gyfrif fy nglanhad, fe'i cefais;
cydiais fy nghalon wrthi hi o'r cychwyn,
ac am hynny ni'm gadewir yn amddifad byth.
21Cynhyrfwyd ynof chwant i'w cheisio,
ac am hynny enillais feddiant ar drysor da.
22Rhoes yr Arglwydd imi dafod yn wobr,
ac â hwnnw fe'i moliannaf ef.
23Nesewch ataf, chwi'r rhai diaddysg,
a cheisiwch le yn fy ysgol i.
24Pam yr addefwch eich bod yn brin o'r pethau hyn,
a chwithau'n sychedu gymaint amdanynt?
25Agorais fy ngenau a llefaru:
“Prynwch i chwi eich hunain heb arian.
26Plygwch eich gwar dan yr iau,
a derbyniwch addysg;
y mae hi wrth law ac yn hawdd ei chael.
27Gwelwch â'ch llygaid gyn lleied y llafuriais
i ennill imi orffwystra mor fawr.
28Gwariwch arian mawr ar gael addysg,
a mawr fydd yr aur a gewch drwyddi.
29Llawenhewch yn nhrugaredd yr Arglwydd,
ac na fydded cywilydd arnoch ei foliannu ef.
30Cyflawnwch eich gwaith mewn pryd,
ac yn ei amser ei hun rhydd Duw ichwi eich gwobr.”

Currently Selected:

Ecclesiasticus 51: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy