YouVersion Logo
Search Icon

Judith 2

2
Rhyfel yn erbyn y Rhanbarth Gorllewinol
1Yn y ddeunawfed flwyddyn, ar yr ail ddydd ar hugain o'r mis cyntaf, yn nhŷ Nebuchadnesar brenin yr Asyriaid, bu sôn am ddial ar yr holl ranbarth, fel yr oedd ef wedi bygwth eisoes. 2Galwodd ynghyd ei holl swyddogion a'i holl bendefigion, a thrafod gyda hwy ei gynllun cudd, a chyhoeddi â'i enau ei hun derfyn ar holl ddrygioni'r rhanbarth. 3Gwnaethant benderfyniad i ddinistrio pawb nad oedd wedi ufuddhau i orchymyn y brenin.
4Yna, wedi iddo orffen egluro'i gynllun, galwodd Nebuchadnesar brenin Asyria ar Holoffernes, prif gadfridog ei fyddin, a'i ddirprwy, a dywedodd wrtho, 5“Dyma orchymyn y brenin mawr, Arglwydd yr holl ddaear: dos allan o'm gŵydd, a chymer gyda thi wŷr eofn a chadarn, chwech ugain mil o wŷr traed a deuddeng mil o wŷr meirch. 6Yr wyt i ryfela yn erbyn yr holl ranbarth gorllewinol, am i'w drigolion anufuddhau i'm gorchymyn i. 7Dywed wrthynt am baratoi offrwm o bridd a dŵr, oherwydd yr wyf yn dod allan yn fy llid yn eu herbyn. Gorchuddiaf holl wyneb eu tir â thraed fy myddin, ac fe'u rhoddaf hwy yn ysbail i'm milwyr. 8Bydd eu clwyfedigion yn llenwi'r ceunentydd, a bydd pob ffos ac afon yn llifo a gorlifo â chyrff; 9a chymeraf hwy yn gaethglud i eithafoedd y ddaear. 10A thithau, brysia i feddiannu i mi eu holl diriogaeth; 11os ildio a wnânt i ti, gwarchod hwy drosof hyd amser eu cosbi. Ond i'r rhai sy'n anufudd paid â dangos trugaredd; traddoda hwy i gael eu lladd a'u hysbeilio trwy'r holl ranbarth a berthyn iti. 12Ar fy mywyd ac ar holl nerth fy mrenhiniaeth y tyngaf: yr hyn a leferais, fe'i cyflawnaf â'm llaw fy hun. 13A thithau, paid ag anufuddhau i unrhyw un o orchmynion dy Arglwydd, ond cwbl gyflawna bopeth yn union fel y gorchmynnais iti. Gweithreda yn ddi-oed.”
Ymgyrch Holoffernes
14Felly, wedi ymadael â llys ei Arglwydd, galwodd Holoffernes holl fawrion, cadfridogion a swyddogion byddin Asyria, 15a chasglu milwyr dethol yn unol â gorchymyn ei Arglwydd, chwech ugain mil o filwyr traed a deuddeng mil o saethwyr ar feirch, 16a threfnodd hwy yn y dull arferol ar gyfer brwydr. 17Cymerodd nifer enfawr o gamelod, asynnod a mulod i gario eu cyfreidiau; defaid, ychen a geifr di-rif i sicrhau darpariaeth 18a dogn ddigonol o fwyd i bob un; ac yn ychwanegol, swm enfawr o aur ac arian o blas y brenin. 19Yna cychwynnodd, ef a'i holl fyddin, i arloesi'r ffordd i Nebuchadnesar a gorchuddio holl wyneb y rhanbarth gorllewinol a'u cerbydau, eu gwŷr meirch a'u gwŷr traed dethol. 20Yr oedd y cwmni cymysgryw a'u dilynodd fel haid o locustiaid neu fel llwch y ddaear, yn llu dirifedi.
21Aethant o Ninefe daith dridiau i ymyl gwastatir Bectileth, a gwersyllu gerllaw Bectileth yn agos i'r mynydd i'r gogledd o Cilicia Uchaf. 22Oddi yno symudodd Holoffernes ymlaen i'r mynydd-dir gyda'i holl fyddin, ei wŷr traed a'i wŷr meirch a'i gerbydau. 23Difrododd Phwd a Lwd, ac anrheithio holl drigolion Rassis a'r Ismaeliaid ar ffin yr anialwch i'r de o wlad y Cheliaid. 24Dilynodd Afon Ewffrates, a thramwyo drwy Mesopotamia gan lwyr ddinistrio'r holl drefi caerog ar lannau Afon Abron hyd at y môr. 25Meddiannodd diriogaeth Cilicia, a lladd pawb a'i gwrthwynebai. Yna aeth i'r de i gyffiniau Jaffeth, a oedd yn ffinio ar Arabia. 26Amgylchynodd yr holl Fidianiaid, a llosgi eu pebyll ac ysbeilio'u corlannau. 27Aeth i lawr i wastatir Damascus ar adeg y cynhaeaf gwenith, a llosgi eu holl gnydau, difrodi eu defaid a'u gwartheg, dinistrio'u trefi, dinoethi eu meysydd, a thrywanu eu holl wŷr ifainc â min y cledd. 28Disgynnodd braw a dychryn rhagddo ar drigolion y glannau yn Sidon a Tyrus, ar drigolion Swr ac Ocina, ac ar holl drigolion Jamnia; yr oedd trigolion Asotus ac Ascalon hefyd yn ei ofni'n ddirfawr.

Currently Selected:

Judith 2: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy