YouVersion Logo
Search Icon

Hosea 2

2
Gomer Anffyddlon—Israel Anffyddlon
1 # 2:1 Hebraeg, 2:3. “Dywedwch wrth eich brodyr, ‘Fy-mhobl#2:1 Hebraeg, Ammi.’,
ac wrth eich chwiorydd, ‘Cafodd-drugaredd#2:1 Hebraeg, Ruhama.’.
2Plediwch â'ch mam, plediwch—
onid yw'n wraig i mi,
a minnau'n ŵr iddi hi?—
ar iddi symud ei phuteindra o'i hwyneb,
a'i godineb oddi rhwng ei bronnau.
3Onid e, byddaf yn ei diosg yn noeth a'i gosod fel ar ddydd ei geni,
a'i gwneud fel anialwch a'i gosod fel tir sych,
a'i lladd â syched;
4ni wnaf drugaredd â'i phlant,
am eu bod yn blant puteindra.
5Oherwydd i'w mam buteinio,
ac i'r hon a'u cariodd ymddwyn yn waradwyddus,
a dweud, ‘Af ar ôl fy nghariadon,
sy'n rhoi imi fy mara a'm dŵr, fy ngwlân a'm llin, fy olew a'm diod’—
6am hynny, caeaf ei#2:6 Fely Groeg a syrieg. Hebraeg, dy. ffordd â drain,
a gosodaf rwystr rhag iddi gael ei llwybrau.
7Fe ymlid ei chariadon heb eu dal,
fe'u cais heb eu cael;
yna dywed, ‘Dychwelaf at y gŵr oedd gennyf,
gan ei bod yn well arnaf y pryd hwnnw nag yn awr.’
8Ond ni ŵyr hi mai myfi a roddodd iddi ŷd a gwin ac olew,
ac amlhau iddi arian ac aur, pethau a roesant hwy i Baal.
9Felly, cymeraf yn ôl fy ŷd yn ei bryd a'm gwin yn ei dymor;
dygaf ymaith fy ngwlân a'm llin, a guddiai ei noethni.
10Yn awr, dinoethaf ei gwarth gerbron ei chariadon,
ac ni fyn yr un ohonynt ei chipio o'm llaw.
11Rhof derfyn ar ei holl lawenydd,
ei gwyliau, ei newydd-loerau, ei Sabothau a'i gwyliau sefydlog.
12Difethaf ei gwinwydd a'i ffigyswydd, y dywedodd amdanynt,
‘Dyma fy nhâl, a roes fy nghariadon i mi.’
Gwnaf hwy'n goedwig, a bydd yr anifeiliaid gwylltion yn eu difa.
13Cosbaf hi am ddyddiau gŵyl y Baalim, pan losgodd arogldarth iddynt,
a gwisgo'i modrwy a'i haddurn,
a mynd ar ôl ei chariadon a'm hanghofio i,” medd yr ARGLWYDD.
Yr ARGLWYDD yn Caru ei Bobl
14“Am hynny, wele, fe'i denaf;
af â hi i'r anialwch, a siarad yn dyner wrthi.
15Rhof iddi yno ei gwinllannoedd,
a bydd dyffryn Achor#2:15 H.y., Helynt. yn ddrws gobaith.
Yno fe ymetyb hi fel yn nyddiau ei hieuenctid,
fel yn y dydd y daeth i fyny o wlad yr Aifft.”
16“ ‘Yn y dydd hwnnw,’ medd yr ARGLWYDD, gelwi fi ‘Fy ngŵr’, ac ni'm gelwi mwyach ‘Fy Baal#2:16 H.y., Fy meistr.’; 17symudaf ymaith enwau'r Baalim o'i genau, ac ni chofir hwy mwy wrth eu henwau. 18Yn y dydd hwnnw gwnaf i ti#2:18 Hebraeg, iddynt hwy. gyfamod â'r anifeiliaid gwylltion, ac adar yr awyr ac ymlusgiaid y ddaear; symudaf o'r tir y bwa, y cleddyf, a rhyfel, a gwnaf i ti#2:18 Hebraeg, iddynt hwy. orffwyso mewn diogelwch. 19Fe'th ddyweddïaf â mi fy hun dros byth; fe'th ddyweddïaf â mi mewn cyfiawnder a barn, mewn cariad a thrugaredd. 20Fe'th ddyweddïaf â mi mewn ffyddlondeb, a byddi'n adnabod yr ARGLWYDD.”
21“ ‘Yn y dydd hwnnw,’ medd yr ARGLWYDD,
‘atebaf y nef, ac etyb hithau y ddaear;
22etyb y ddaear yr ŷd, y gwin a'r olew,
ac atebant hwythau Jesreel#2:22 H.y. Heua Duw.;
23ac fe'i heuaf i mi fy hun yn y tir.
Gwnaf drugaredd â Lo-ruhama#2:23 H.y., Heb-drugaredd.;
dywedaf wrth Lo-ammi#2:23 H.y., Nid-fy-mhobl., “Fy-mhobl wyt ti”,
a dywed yntau, “Fy Nuw”.’ ”

Currently Selected:

Hosea 2: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy