YouVersion Logo
Search Icon

Galatiaid 6

6
Cariwch Feichiau eich Gilydd
1Gyfeillion, os caiff rhywun ei ddal mewn rhyw drosedd, eich gwaith chwi, y rhai ysbrydol, yw ei adfer mewn ysbryd addfwyn. Ond edrych atat dy hun, rhag ofn i tithau gael dy demtio. 2Cariwch feichiau eich gilydd, ac felly fe gyflawnwch Gyfraith Crist. 3Oherwydd, os yw rhywun yn tybio ei fod yn rhywbeth, ac yntau yn ddim, ei dwyllo ei hun y mae. 4Y mae pob un i farnu ei waith ei hun, ac yna fe gaiff le i ymffrostio o'i ystyried ei hun yn unig, ac nid neb arall. 5Oherwydd bydd gan bob un ei bwn ei hun i'w gario. 6Y mae'r sawl sy'n cael ei hyfforddi yn y gair i roi cyfran o'i holl feddiannau i'w hyfforddwr. 7Peidiwch â chymryd eich camarwain; ni chaiff Duw mo'i watwar, oherwydd beth bynnag y mae rhywun yn ei hau, hynny hefyd y bydd yn ei fedi. 8Bydd y sawl sy'n hau i'w gnawd ei hun yn medi o'i gnawd lygredigaeth, a'r sawl sy'n hau i'r Ysbryd yn medi o'r Ysbryd fywyd tragwyddol. 9Peidiwn â blino ar wneud daioni, oherwydd cawn fedi'r cynhaeaf yn ei amser, dim ond inni beidio â llaesu dwylo. 10Felly, tra bydd amser gennym, gadewch inni wneud da i bawb, ac yn enwedig i'r rhai sydd o deulu'r ffydd.
Rhybudd Terfynol a'r Fendith
11Gwelwch mor fras yw'r llythrennau hyn yr wyf yn eu hysgrifennu atoch â'm llaw fy hun. 12Rhai â'u bryd ar rodres yn y cnawd yw'r rheini sy'n ceisio eich gorfodi i dderbyn enwaediad, a hynny'n unig er mwyn iddynt hwy arbed cael eu herlid o achos croes Crist. 13Oherwydd nid yw'r rhai a enwaedir eu hunain hyd yn oed yn cadw'r Gyfraith. Y maent am i chwi dderbyn enwaediad er mwyn iddynt hwy gael ymffrostio yn eich cnawd chwi. 14O'm rhan fy hun, cadwer fi rhag ymffrostio mewn dim ond yng nghroes ein Harglwydd Iesu Grist, y groes y mae'r byd drwyddi#6:14 Neu, Iesu Grist, y mae'r byd drwyddo. wedi ei groeshoelio i mi, a minnau i'r byd. 15Nid enwaediad sy'n cyfrif, na dienwaediad, ond creadigaeth newydd. 16A phawb fydd yn rhodio wrth y rheol hon, tangnefedd arnynt, a thrugaredd, ie, ar Israel Duw!#6:16 Neu, a hefyd ar Israel Duw!
17Peidied neb bellach â pheri blinder imi, oherwydd yr wyf yn dwyn nodau Iesu yn fy nghorff.
18Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda'ch ysbryd, gyfeillion! Amen.

Currently Selected:

Galatiaid 6: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy