YouVersion Logo
Search Icon

2 Samuel 2

2
Gwneud Dafydd yn Frenin Jwda
1Wedi hyn ymofynnodd Dafydd â'r ARGLWYDD a gofyn, “A af i fyny i un o drefi Jwda?” Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Dos.” Gofynnodd Dafydd, “I ba un?” Atebodd yr ARGLWYDD, “I Hebron.” 2Felly fe aeth Dafydd i fyny yno, a'i ddwy wraig, Ahinoam o Jesreel ac Abigail, gwraig Nabal, o Garmel; 3hefyd fe aeth Dafydd â'r gwŷr oedd ganddo, bob un â'i deulu, a thrigo yn nhref#2:3 Tebygol. Hebraeg, yn nhrefi. Hebron. 4Yna daeth gwŷr Jwda, ac eneinio Dafydd yno yn frenin ar dŷ Jwda.
Dywedwyd wrth Ddafydd mai gwŷr Jabes-gilead oedd wedi claddu Saul, 5ac anfonodd Dafydd negeswyr atynt a dweud wrthynt, “Bendith yr ARGLWYDD arnoch am ichwi wneud y gymwynas hon â'ch arglwydd Saul, a'i gladdu. 6Ac yn awr bydded i'r ARGLWYDD ddangos caredigrwydd a ffyddlondeb atoch chwithau; a gwnaf finnau ddaioni i chwi, am ichwi wneud y peth hwn. 7Byddwch gryf a dewr yn awr; y mae eich arglwydd Saul wedi marw, ond y mae tŷ Jwda wedi f'eneinio i yn frenin arnynt.”
Gwneud Isboseth yn Frenin Israel
8Yr oedd Abner fab Ner, cadfridog Saul, wedi cymryd Isboseth fab Saul ac wedi mynd ag ef drosodd i Mahanaim. 9Gwnaeth ef yn frenin dros Gilead, pobl Aser, Jesreel, Effraim a Benjamin, a thros Israel gyfan. 10Deugain oed oedd Isboseth fab Saul pan ddaeth yn frenin ar Israel, a theyrnasodd am ddwy flynedd; ond yr oedd tŷ Jwda yn dilyn Dafydd. 11Saith mlynedd a chwe mis oedd hyd y cyfnod y bu Dafydd yn frenin ar dŷ Jwda yn Hebron.
Rhyfel rhwng Israel a Jwda
12Aeth Abner fab Ner gyda dilynwyr Isboseth allan o Mahanaim tua Gibeon. 13Aeth Joab fab Serfia a dilynwyr Dafydd allan hefyd; a chyfarfu'r ddau wrth bwll Gibeon, gyda'r naill fintai ar un ochr i'r pwll, a'r llall yr ochr arall. 14Ac meddai Abner wrth Joab, “Gad i'r llanciau ddod a chynnal gornest o'n blaenau.” Cytunodd Joab. 15Yna daethant ymlaen, a chyfrifwyd deuddeg o lwyth Benjamin ar ochr Isboseth fab Saul, a deuddeg o blith dilynwyr Dafydd. 16Cydiodd pob un ym mhen ei wrthwynebydd a thrywanu ei gleddyf i'w ystlys, a syrthiodd y cwbl gyda'i gilydd; am hynny galwyd y lle hwnnw sydd yn Gibeon yn Helcath-hasurim#2:16 H.y., Llain y llafnau.. 17Bu brwydr galed iawn y diwrnod hwnnw, a threchwyd Abner fab Ner a'r Israeliaid gan ddilynwyr Dafydd.
18Yr oedd tri mab Serfia yno, Joab, Abisai ac Asahel; ac yr oedd Asahel cyn gyflymed ei draed ag unrhyw ewig ar y ddôl. 19Rhedodd Asahel ar ôl Abner heb wyro i'r dde na'r chwith oddi ar ei ôl. 20Edrychodd Abner o'i ôl a dywedodd, “Ai ti sydd yna, Asahel?” Atebodd yntau, “Ie.” 21Dywedodd Abner wrtho, “Tro draw i'r dde neu i'r chwith, a dal un o'r llanciau, a chymer ei arfau ef.” Ond ni fynnai Asahel droi oddi ar ei ôl. 22Dywedodd Abner eto wrth Asahel, “Tro draw oddi wrthyf; pam y mae'n rhaid imi dy daro i'r llawr? Sut y gallwn wynebu dy frawd Joab?” 23Ond gwrthododd droi draw, a thrawodd Abner ef yn ei fol â bôn ei waywffon, nes iddi ddod allan trwy ei gefn. Syrthiodd i lawr, ac yno y bu farw. Ac wrth ddod heibio'r fan y bu i Asahel syrthio a marw, safai pawb yn ei unfan. 24Ond daliodd Joab ac Abisai i ymlid ar ôl Abner, ac fel yr oedd yr haul yn machlud, daethant at fryn Amma sydd gyferbyn â Gia, i gyfeiriad anialwch Gibeon.
25Ymgasglodd y Benjaminiaid at Abner, ac ymffurfio'n un fintai a sefyll ar gopa bryn Amma#2:25 Tebygol. Hebraeg, un bryn.. 26Yna gwaeddodd Abner ar Joab a dweud, “A yw'r cleddyf i ddifa am byth? Oni wyddost mai chwerw fydd diwedd hyn? Am ba hyd y gwrthodi ddweud wrth y milwyr am beidio ag erlid eu perthnasau?” 27Atebodd Joab, “Cyn wired â bod Duw yn fyw, oni bai dy fod wedi siarad, ni fyddai'r milwyr wedi peidio ag ymlid eu perthnasau tan y bore.” 28Yna seiniodd Joab yr utgorn, a pheidiodd yr holl bobl ag ymlid yr Israeliaid, na brwydro rhagor.
29Aeth Abner a'i ddynion ar draws yr Araba drwy'r nos, a chroesi'r Iorddonen, a dal ymlaen drwy gydol y bore nes dod i Mahanaim. 30A phan ddaeth Joab yn ei ôl o ddilyn Abner, fe gasglodd y bobl ynghyd, ac yr oedd pedwar ar bymtheg o ddilynwyr Dafydd yn eisiau, yn ogystal ag Asahel. 31Yr oedd dilynwyr Dafydd wedi lladd o blith Benjamin dri chant a thrigain o filwyr Abner. Cymerwyd Asahel a'i gladdu ym medd ei dad ym Methlehem. 32Yna cerddodd Joab a'i ddynion drwy'r nos, a chyrraedd Hebron fel yr oedd yn dyddio.

Currently Selected:

2 Samuel 2: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy