YouVersion Logo
Search Icon

2 Pedr 2

2
Proffwydi Gau ac Athrawon Gau
Jwd. 4–13
1Ymddangosodd hefyd broffwydi gau ymhlith pobl Israel, ac yn yr un modd bydd athrawon gau yn eich plith chwithau, rhai a fydd yn dwyn i mewn yn llechwraidd heresïau dinistriol, yn gwadu'r Meistr a'u prynodd, ac yn dwyn arnynt eu hunain ddistryw buan. 2A bydd llawer yn dilyn eu harferion anllad, a thrwyddynt hwy caiff ffordd y gwirionedd enw drwg. 3Yn eu trachwant gwnânt elw ohonoch â'u storïau ffug; y mae eu barnedigaeth ar gerdded erstalwm, a'u dinistr yn rhythu arnynt.
4Oherwydd nid arbedodd Duw yr angylion a bechodd; traddododd hwy i garchar#2:4 Yn ôl darlleniad arall, i bydewau. tywyll uffern, i'w cadw hyd y Farn. 5Nid arbedodd yr hen fyd chwaith, er iddo ddiogelu Noa, pregethwr cyfiawnder, ynghyd â saith arall, wrth ddwyn y dilyw ar fyd y rhai annuwiol. 6Condemniodd hefyd ddinasoedd Sodom a Gomorra i ddistryw; llosgodd hwy'n lludw, a'u gosod yn esiampl o'r hyn sydd i ddigwydd i'r annuwiol. 7Gwaredodd Lot, gŵr cyfiawn oedd yn cael ei drallodi gan fywyd anllad rhai afreolus; 8oherwydd wrth i'r gŵr cyfiawn hwn fyw yn eu plith, yr oedd gweld a chlywed eu gweithredoedd aflywodraethus yn artaith feunyddiol i'w enaid cyfiawn. 9Y mae'r Arglwydd yn medru gwaredu'r duwiol o'u treialon, a chadw'r anghyfiawn hyd Ddydd y Farn i'w cosbi, 10ac yn arbennig felly y rhai sy'n byw i borthi chwantau aflan y cnawd, ac yn diystyru awdurdod.
Y maent yn rhyfygus a thrahaus, ac yn sarhau'r bodau nefol yn gwbl eofn, 11rhywbeth nad yw'r angylion, er eu rhagoriaeth mewn nerth a gallu, yn ei wneud wrth gyhoeddi barn yn eu herbyn hwy gerbron yr Arglwydd. 12Ond y mae'r bobl hyn yn siarad yn sarhaus am bethau nad ydynt yn eu deall; y maent fel anifeiliaid direswm sydd, yn nhrefn natur, wedi eu geni i'w dal a'u difetha; ac fel y difethir anifeiliaid, fe'u difethir hwythau. 13Fe gânt ddrwg yn dâl am eu drygioni. Eu syniad am bleser yw gloddesta liw dydd. Yn eich cwmni, mae eu chwant a'u gloddesta#2:13 Darlleniad arall yn ychwanegu mewn cariad-wleddoedd. yn warth a gwaradwydd. 14Y mae ganddynt lygaid sy'n llawn godineb, na chânt byth mo'u digon o bechod. Y maent yn denu'r ansicr i'w dinistr. Y mae ganddynt galonnau wedi eu hymarfer i drachwant—rhai dan felltith ydynt. 15Gadawsant y ffordd union a mynd ar gyfeiliorn, gan ddilyn ffordd Balaam fab Bosor, hwnnw a roes ei fryd ar wobr drygioni, 16ond na chafodd ddim ond cerydd am ei drosedd, pan lefarodd asyn mud â llais dynol ac atal gwallgofrwydd y proffwyd.
17Ffynhonnau heb ddŵr ydynt, a niwloedd yn cael eu gyrru gan dymestl; y mae'r tywyllwch dudew ar gadw iddynt. 18Oherwydd y maent yn llefaru geiriau ymffrostgar a gwag, ac yn defnyddio chwantau anllad y cnawd i ddenu i'w dinistr y rhai nad ydynt ond braidd wedi dianc o blith rhai yn byw'n gyfeiliornus. 19Y maent yn addo rhyddid iddynt, a hwythau'n gaeth i lygredigaeth; oherwydd y mae rhywun yn gaeth i beth bynnag sydd wedi ei drechu. 20Oherwydd os yw rhai sydd wedi dianc rhag aflendid y byd trwy ddod i adnabod ein Harglwydd a'n Gwaredwr, Iesu Grist, wedi eu dal a'u trechu eilwaith gan yr aflendid hwnnw, yna y mae eu diwedd yn waeth na'u dechrau. 21Byddai'n well iddynt hwy fod heb ddod i adnabod ffordd cyfiawnder, yn hytrach na'i hadnabod ac yna droi oddi wrth y gorchymyn sanctaidd a draddodwyd iddynt. 22Gwireddwyd, yn eu hachos hwy, y ddihareb:
“Y mae ci yn troi'n ôl at ei gyfog ei hun”,
a hefyd:
“Y mae'r hwch a ymolchodd yn ymdrybaeddu yn y llaid.”

Currently Selected:

2 Pedr 2: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy