YouVersion Logo
Search Icon

1 Macabeaid 1

1
Alexander Fawr
1Ar ôl i Alexander y Macedoniad, mab Philip, ddod allan o wlad Chittim, a threchu Dareius brenin y Persiaid a'r Mediaid, teyrnasodd yn ei le; yr oedd eisoes yn frenin gwlad Groeg. 2Ymladdodd frwydrau lawer, gan feddiannu ceyrydd a lladd brenhinoedd y ddaear. 3Tramwyodd hyd eithafoedd y ddaear a chymryd ysbail oddi wrth lawer o genhedloedd. Ar ôl i'r byd dawelu dan ei lywodraeth, ymddyrchafodd ac aeth yn drahaus. 4Casglodd fyddin eithriadol gref a llywodraethodd ar diroedd a chenhedloedd a thywysogion, a hwythau'n talu trethi iddo. 5Ar ôl hyn trawyd ef yn glaf, a deallodd ei fod yn marw. 6Felly galwodd ei gadfridogion, y rheini oedd wedi eu magu gydag ef o'i ieuenctid, a rhannodd ei deyrnas rhyngddynt tra oedd eto'n fyw. 7Bu Alexander yn teyrnasu am ddeuddeng mlynedd cyn iddo farw. 8Yna dechreuodd ei gadfridogion lywodraethu, pob un yn ei dalaith ei hun. 9Ar ôl ei farwolaeth ef, mynnodd pob un goron brenin, ac felly hefyd eu meibion ar eu hôl hwy am flynyddoedd lawer, a daethant â mwy a mwy o drallodion i'r byd. 10O'u plith hwy y daeth y gwreiddyn pechadurus Antiochus Epiffanes, mab i'r Brenin Antiochus, a fuasai'n wystl yn Rhufain. Daeth ef i'r orsedd yn y flwyddyn 137#1:10 H.y., 175 C.C. o deyrnasiad y Groegiaid.
Yr Iddewon a Wrthgiliodd
2 Mac. 4:7–17
11Yn y dyddiau hynny cododd yn Israel rai oedd wedi gwrthgilio oddi wrth y gyfraith, a chawsant berswâd ar lawer trwy ddweud, “Gadewch i ni fynd a gwneud cyfamod â'r Cenhedloedd sydd o'n hamgylch, oherwydd o'r amser y bu i ni ymwahanu oddi wrthynt, daeth llawer o drallodion ar ein gwarthaf.” 12Yr oedd y cyngor hwn yn dderbyniol yng ngolwg y bobl, ac aeth rhai ohonynt yn eiddgar at y brenin. 13Rhoddodd ef ganiatâd iddynt i ddilyn arferion y Cenhedloedd, 14ac adeiladasant yn Jerwsalem gampfa chwaraeon yn null y Cenhedloedd. 15Cuddiasant eu cyflwr enwaededig, a gwrthgilio oddi wrth y cyfamod sanctaidd; ymunasant â'r Cenhedloedd, a'u gwerthu eu hunain i wneud drygioni.
Antiochus Epiffanes yn Ymosod ar yr Aifft
16Pan farnodd Antiochus fod ei deyrnas yn ddiogel, penderfynodd ddod yn frenin ar wlad yr Aifft, er mwyn bod yn frenin ar y ddwy deyrnas. 17Ymosododd ar yr Aifft gyda byddin enfawr, yn cynnwys cerbydau rhyfel ac eliffantod a gwŷr meirch a llynges fawr, a dechrau rhyfela yn erbyn Ptolemeus brenin yr Aifft. 18Trodd Ptolemeus yn ôl oddi wrtho a ffoi, a lladdwyd llawer o'i filwyr. 19Cymerwyd meddiant o'r trefi caerog yng ngwlad yr Aifft, ac ysbeiliodd Antiochus y wlad.
Erlid yr Iddewon
20Wedi iddo oresgyn yr Aifft, yn y flwyddyn 143#1:20 H.y., 169 C.C., dychwelodd Antiochus ac aeth i fyny yn erbyn Israel a mynd i Jerwsalem gyda byddin gref. 21Yn ei ryfyg aeth i mewn i'r deml a dwyn ymaith yr allor aur, a'r ganhwyllbren gyda'i holl offer, 22a bwrdd y bara cysegredig a'r cwpanau a'r cawgiau a'r thuserau aur a'r llen a'r coronau. Rhwygodd ymaith yr holl addurn aur oedd ar wyneb y deml. 23Cymerodd hefyd yr arian a'r aur a'r llestri gwerthfawr, a hefyd y trysorau cuddiedig y daeth o hyd iddynt. 24Gan gymryd y cyfan gydag ef, dychwelodd i'w wlad ei hun. Gwnaeth gyflafan fawr a llefarodd yn dra rhyfygus.
25Bu galar mawr yn Israel ym mhobman;
26griddfanodd llywodraethwyr a henuriaid,
llesgaodd genethod a llanciau,
gwywodd tegwch y gwragedd.
27Ymunodd pob priodfab yn y galar,
ac wylai'r briodferch yn yr ystafell briodas.
28Crynodd y tir ei hun dros ei drigolion,
a gwisgwyd holl dŷ Jacob â chywilydd.
29Ar ôl dwy flynedd, anfonodd y brenin brif gasglwr trethi i drefi Jwda, a daeth ef i Jerwsalem gyda byddin gref. 30Llefarodd ef eiriau heddychlon wrthynt yn ddichellgar, a chredodd y bobl ef. Yna yn ddisymwth ymosododd ar y ddinas a'i tharo ag ergyd galed, a lladdodd lawer o bobl Israel. 31Ysbeiliodd y ddinas a'i rhoi ar dân, a thynnu i lawr ei thai a'r muriau o'i hamgylch. 32Cymerasant y gwragedd a'r plant yn gaethion a meddiannu'r gwartheg.
33Yna gwnaethant Ddinas Dafydd yn gaerog, gyda mur uchel a chryf a thyrau cedyrn, a daeth yn amddiffynfa iddynt. 34Gosodasant yno bobl bechadurus, dynion digyfraith, a'i gwneud yn gadarnle. 35Cynullasant stôr o arfau a bwyd, ac wedi casglu ynghyd ysbail Jerwsalem fe'i rhoesant yno, a daethant yn berygl enbyd. 36Yr oedd y lle yn fan cynllwynio yn erbyn y cysegr ac yn fygythiad dieflig i Israel yn barhaus.
37Tywalltasant waed y dieuog o amgylch y cysegr,
a halogi'r cysegr ei hun.
38O'u plegid hwy, ffodd trigolion Jerwsalem,
a daeth y ddinas yn breswylfa i estroniaid;
daeth yn ddieithr i'w hiliogaeth ei hun,
a gadawyd hi gan ei phlant.
39Gwnaethpwyd ei chysegr yn anghyfannedd fel anialwch;
trowyd ei gwyliau yn alar
a'i Sabothau yn waradwydd,
a'i hanrhydedd yn ddirmyg.
40Mawr y gogoniant a fu iddi gynt,
a mawr yr amarch a ddaeth iddi yn awr;
a throwyd ei gwychder yn dristwch.
41Yna rhoddodd y brenin orchymyn i'w holl deyrnas fod pawb ohonynt i ddod yn un bobl, a phob un i ymwrthod â'i arferion crefyddol ei hun. 42Cydymffurfiodd y Cenhedloedd i gyd â gorchymyn y brenin, 43ac yr oedd llawer hyd yn oed yn Israel yn cytuno â'i grefydd ef, gan aberthu i eilunod a halogi'r Saboth. 44Anfonodd y brenin lythyrau trwy ei negeswyr i Jerwsalem a threfi Jwda, yn eu gorchymyn i ddilyn arferion oedd yn ddieithr i'r wlad. 45Yr oeddent i wahardd poethoffrymau ac aberthau a diodoffrwm yn y cysegr, ac i halogi'r Sabothau a'r gwyliau, 46a digysegru'r deml a'r offeiriaid. 47Yr oeddent i adeiladu allorau a chysegrleoedd a themlau i eilunod, ac i aberthu moch ac anifeiliaid halogedig, a gadael eu meibion yn ddienwaededig; 48yr oeddent i'w halogi eu hunain â phob math o aflendid a llygredd, 49ac felly i anghofio'r gyfraith a newid yr holl ddeddfau. 50Cosb anufudd-dod i orchymyn y brenin fyddai marwolaeth.
51Gyda'r gorchmynion hyn i gyd ysgrifennodd y brenin at ei holl deyrnas, a phenododd arolygwyr dros y bobl i gyd, gan orchymyn i drefi Jwda offrymu aberthau fesul un. 52Ymunodd llawer o'r bobl â hwy, sef pawb oedd am ymwrthod â'r gyfraith, a chyflawni drygioni yn y wlad, 53a gyrru Israel i guddio mewn lleoedd dirgel, ym mhob lloches oedd ganddynt.
54Ar y pymthegfed dydd o fis Cislef, yn y flwyddyn 145#1:54 H.y., 167 C.C., bu iddynt adeiladu ffieiddbeth diffeithiol ar yr allor, a chodi allorau i eilunod yn y trefi o amgylch Jwda, 55ac arogldarthu wrth ddrysau'r tai ac yn yr heolydd. 56Torrwyd yn ddarnau lyfrau'r gyfraith a ddarganfuwyd, a'u llosgi â thân. 57A phan gaed llyfr y cyfamod ym meddiant rhywun, neu os byddai rhywun yn cydymffurfio â'r gyfraith, fe'i lleddid yn unol â gorchymyn y brenin. 58Fis ar ôl mis yr oeddent yn defnyddio'u grym yn erbyn yr Israeliaid a gafwyd yn y trefi. 59Ac ar y pumed dydd ar hugain o'r mis, offrymasant aberthau ar yr allor yr oeddent wedi ei chodi ar ben allor yr Arglwydd. 60Yn unol â'r gorchymyn, lladdasant y gwragedd oedd wedi enwaedu ar eu plant, 61gan grogi'r babanod wrth yddfau eu mamau; lladdasant hefyd eu teuluoedd, a'r sawl oedd yn enwaededig. 62Er hynny, safodd llawer yn Israel yn gadarn, yn gwbl benderfynol na fynnent fwyta dim halogedig. 63Yr oedd yn well ganddynt farw yn hytrach na chael eu llygru â bwydydd a halogi'r cyfamod sanctaidd; a marw a wnaethant. 64A bu digofaint mawr iawn ar Israel.

Currently Selected:

1 Macabeaid 1: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy