YouVersion Logo
Search Icon

1 Samuel 31

31
Lladd Saul a'i Feibion
1 Cron. 10:1–12
1Ymladdodd y Philistiaid yn erbyn yr Israeliaid, a ffodd yr Israeliaid rhag y Philistiaid, a syrthio'n glwyfedig ar Fynydd Gilboa. 2Daliodd y Philistiaid Saul a'i feibion, a lladd Jonathan, Abinadab a Malcisua, meibion Saul. 3Aeth y frwydr yn galed yn erbyn Saul; daeth y dynion oedd yn saethu â bwâu o hyd iddo, a chlwyfwyd ef yn ddifrifol gan y saethwyr. 4Yna dywedodd Saul wrth ei gludydd arfau, “Tyn dy gleddyf a thrywana fi, rhag i'r rhai dienwaededig hyn ddod a'm trywanu a'm gwaradwyddo.” Nid oedd ei gludydd arfau'n fodlon, oherwydd yr oedd ofn mawr arno; felly cymerodd Saul y cleddyf a syrthio arno. 5Pan welodd y cludydd arfau fod Saul wedi marw, syrthiodd yntau ar ei gleddyf, a marw gydag ef. 6Felly bu farw Saul a'i dri mab a'i gludydd arfau#31:6 Hebraeg yn ychwanegu a'i holl wŷr hefyd. yr un diwrnod â'i gilydd. 7Pan welodd yr Israeliaid oedd yr ochr draw i'r dyffryn a thros yr Iorddonen fod dynion Israel wedi ffoi, a bod Saul a'i feibion wedi marw, gadawsant y trefi a ffoi; yna daeth y Philistiaid a byw ynddynt.
8Trannoeth, pan ddaeth y Philistiaid i ysbeilio'r lladdedigion, cawsant Saul a'i dri mab wedi syrthio ar Fynydd Gilboa. 9Torasant ei ben ef, a chymryd ei arfau oddi arno, ac anfon drwy Philistia i gyhoeddi'r newydd da yn nheml eu delwau ac i'r bobl. 10Rhoesant ei arfau yn nheml Astaroth, a chrogi ei gorff ar fur Beth-sean. 11Pan glywodd trigolion Jabes-gilead beth oedd y Philistiaid wedi ei wneud i Saul, 12aeth pob rhyfelwr ohonynt ar unwaith liw nos a chymryd corff Saul a chyrff ei feibion oddi ar fur Beth-sean, a'u cludo i Jabes a'u llosgi yno. 13Yna cymerasant eu hesgyrn a'u claddu dan y dderwen yn Jabes, ac ymprydio am saith diwrnod.

Currently Selected:

1 Samuel 31: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy