YouVersion Logo
Search Icon

1 Ioan 2

2
Crist, Ein Heiriolwr
1Fy mhlant, yr wyf yn ysgrifennu'r pethau hyn atoch i'ch cadw rhag pechu. Ond os bydd i rywun bechu, y mae gennym Eiriolwr gyda'r Tad, sef Iesu Grist, y cyfiawn; 2ac ef sy'n aberth cymod dros#2:2 Neu, sy'n foddion ein puredigaeth oddi wrth, neu, sy'n iawn dros. ein pechodau, ac nid dros ein pechodau ni yn unig, ond hefyd bechodau'r holl fyd. 3Dyma sut yr ydym yn gwybod ein bod yn ei adnabod ef, sef ein bod yn cadw ei orchmynion. 4Y sawl sy'n dweud, “Rwyf yn ei adnabod”, a heb gadw ei orchmynion, y mae'n gelwyddog, ac nid yw'r gwirionedd ynddo; 5ond pwy bynnag sy'n cadw ei air ef, yn hwnnw, yn wir, y mae cariad at Dduw wedi ei berffeithio. Dyma sut yr ydym yn gwybod ein bod ynddo ef: 6dylai'r sawl sy'n dweud ei fod yn aros ynddo ef rodio ei hun yn union fel y rhodiodd ef.
Y Gorchymyn Newydd
7Gyfeillion annwyl, nid gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, ond hen orchymyn, un sydd wedi bod gennych o'r dechrau; y gair a glywsoch yw'r hen orchymyn hwn. 8Eto, yr wyf yn ysgrifennu atoch orchymyn newydd, rhywbeth sydd yn wir ynddo ef ac ynoch chwithau; oherwydd y mae'r tywyllwch yn mynd heibio, a'r gwir oleuni eisoes yn tywynnu. 9Y sawl sy'n dweud ei fod yn y goleuni, ac yn casáu ei gydaelod, yn y tywyllwch y mae o hyd. 10Y mae'r sawl sy'n caru ei gydaelod yn aros yn y goleuni, ac nid oes dim ynddo i faglu neb. 11Ond y sawl sy'n casáu ei gydaelod, yn y tywyllwch y mae, ac yn y tywyllwch y mae'n rhodio, ac nid yw'n gwybod lle y mae'n mynd, am fod y tywyllwch wedi dallu ei lygaid.
12Rwyf yn ysgrifennu atoch chwi, blant,
am fod eich pechodau wedi eu maddau drwy ei enw ef.
13Rwyf yn ysgrifennu atoch chwi, dadau,
am eich bod yn adnabod yr hwn sydd wedi bod o'r dechreuad.
Rwyf yn ysgrifennu atoch chwi, wŷr ifainc,
am eich bod wedi gorchfygu'r Un drwg.
Rwyf wedi ysgrifennu atoch chwi, blant,
am eich bod yn adnabod y Tad.
14Rwyf wedi ysgrifennu atoch chwi, dadau,
am eich bod yn adnabod yr hwn sydd wedi bod o'r dechreuad.
Rwyf wedi ysgrifennu atoch chwi, wŷr ifainc,
am eich bod yn gryf,
ac am fod gair Duw yn aros ynoch,
a'ch bod wedi gorchfygu'r Un drwg.
15Peidiwch â charu'r byd na'r pethau sydd yn y byd. Os yw rhywun yn caru'r byd, nid yw cariad y Tad ynddo, 16oherwydd y cwbl sydd yn y byd—trachwant y cnawd, a thrachwant y llygaid, a balchder mewn meddiannau—nid o'r Tad y mae, ond o'r byd. 17Y mae'r byd a'i drachwant yn mynd heibio, ond y mae'r sawl sy'n gwneud ewyllys Duw yn aros am byth.
Yr Anghrist
18Blant, dyma'r awr olaf, ac fel y clywsoch fod yr Anghrist yn dod, yn awr dyma anghristiau lawer wedi dod; wrth hyn yr ydym yn gwybod mai dyma'r awr olaf. 19Aethant allan oddi wrthym ni, ond nid oeddent yn perthyn i ni, oherwydd pe byddent yn perthyn i ni, byddent wedi aros gyda ni; dangoswyd felly nad oedd neb ohonynt yn perthyn i ni. 20Ond amdanoch chwi, y mae gennych eneiniad oddi wrth yr Un Sanctaidd, ac yr ydych bawb yn gwybod.#2:20 Yn ôl darlleniad arall, yr ydych yn gwybod pob peth. 21Nid am nad ydych yn gwybod y gwirionedd yr wyf yn ysgrifennu atoch, ond am eich bod yn ei wybod, ac yn gwybod hefyd am bob celwydd, nad yw o'r gwirionedd. 22Pwy yw'r un celwyddog, ond y sawl sy'n gwadu mai Iesu yw'r Crist? Dyma'r Anghrist, sef yr un sy'n gwadu'r Tad a'r Mab. 23Pob un sy'n gwadu'r Mab, nid yw'r Tad ganddo chwaith; y sawl sy'n cyffesu'r Mab, y mae'r Tad ganddo hefyd. 24Chwithau, bydded i'r hyn a glywsoch o'r dechrau aros ynoch. Os bydd yr hyn a glywsoch o'r dechrau yn aros ynoch, byddwch chwithau hefyd yn aros yn y Mab ac yn y Tad. 25Dyma'r hyn a addawodd ef i ni, sef bywyd tragwyddol.
26Ysgrifennais hyn atoch ynglŷn â'r rhai sydd am eich arwain ar gyfeiliorn. 27A chwithau, y mae'r eneiniad a gawsoch ganddo ef yn aros ynoch, ac nid oes arnoch angen neb i'ch dysgu; ond y mae'r eneiniad a roddodd ef yn eich dysgu am bopeth, a gwir yw, nid celwydd. Fel y dysgodd ef chwi, arhoswch ynddo ef.
Plant Duw
28Ac yn awr, blant, arhoswch ynddo ef, er mwyn inni, pan fydd ef yn ymddangos, gael hyder a bod heb gywilydd arnom ger ei fron ef ar ei ddyfodiad. 29Os gwyddoch ei fod ef yn gyfiawn, yna fe ddylech wybod bod pob un sy'n gwneud cyfiawnder wedi ei eni ohono ef.

Currently Selected:

1 Ioan 2: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy