YouVersion Logo
Search Icon

1 Esdras 2

2
Cyrus yn Gorchymyn bod yr Iddewon i Ddychwelyd
2 Cron. 36:22–23; Esra 1:1–11
1Ym mlwyddyn gyntaf teyrnasiad Cyrus brenin Persia, er mwyn cyflawni gair yr Arglwydd drwy enau Jeremeia, 2cynhyrfodd yr Arglwydd ysbryd Cyrus brenin Persia i gyhoeddi drwy ei deyrnas i gyd, yn llafar ac yn ysgrifenedig, fel hyn: 3“Dyma a ddywed Cyrus brenin Persia: Arglwydd Israel, yr Arglwydd Goruchaf, a'm gwnaeth yn frenin ar yr holl fyd, 4a rhoddodd gyfarwyddyd i mi i adeiladu iddo dŷ yn Jerwsalem yn Jwda. 5Pwy bynnag ohonoch sy'n perthyn i'w genedl ef, bydded ei Arglwydd gydag ef, ac aed i fyny i Jerwsalem yn Jwda i adeiladu tŷ Arglwydd Israel—ef yw'r Arglwydd sy'n preswylio yn Jerwsalem. 6Y rheini oll sy'n byw mewn gwahanol ardaloedd, bydded i bobl eu hardal hwy eu helpu â rhoddion o aur ac arian, 7â cheffylau a gwartheg, yn ogystal â phethau eraill a gyflwynwyd trwy adduned i deml yr Arglwydd yn Jerwsalem.”
8Yna cododd pennau-teuluoedd llwythau Jwda a Benjamin, a'r offeiriaid a'r Lefiaid, a'r holl rai y cynhyrfodd yr Arglwydd eu hysbryd, i fynd i fyny i adeiladu tŷ i'r Arglwydd yn Jerwsalem, 9a chynorthwyodd eu cymdogion hwy ym mhob peth, ag arian ac aur, ceffylau a gwartheg, a llawer iawn o'r rhoddion a gyflwynwyd trwy adduned gan lawer o bobl a roes eu bryd ar hynny.
10Dug y Brenin Cyrus allan hefyd lestri sanctaidd yr Arglwydd, a gludodd Nebuchadnesar i ffwrdd o Jerwsalem a'u gosod yn nheml ei eilunod. 11Wedi i Cyrus brenin Persia eu dwyn allan, fe'u rhoddodd i Mithridates ei drysorydd, 12a thrwyddo ef fe'u trosglwyddwyd i Sanabassar llywodraethwr Jwdea. 13Dyma gyfrif ohonynt: mil o gwpanau aur, mil o gwpanau arian, dau ddeg a naw o thuserau arian, tri deg o ffiolau aur, dwy fil pedwar cant a deg o rai arian, a mil o lestri eraill. 14Trosglwyddwyd felly yr holl lestri aur ac arian, pum mil pedwar cant chwe deg a naw i gyd, 15ac fe'u cludwyd yn ôl gan Sanabassar gyda'r bobl a ddychwelodd o'r gaethglud ym Mabilon i Jerwsalem.
Gwrthwynebu Ailadeiladu Jerwsalem
Esra 4:7–24
16Ond yn amser Artaxerxes brenin Persia, dyma Beslemus, Mithridates, Tabelius, Rawmus, Beeltemus a Samsaius yr ysgrifennydd, a gweddill eu cyd-swyddogion, a oedd yn byw yn Samaria ac mewn mannau eraill, yn ysgrifennu ato y llythyr canlynol yn erbyn y rhai oedd yn byw yn Jwda a Jerwsalem: “I'r Brenin Artaxerxes, ein harglwydd, 17oddi wrth dy weision, Rawmus y cofnodydd, a Samsaius yr ysgrifennydd, a gweddill y barnwyr o'u cyngor yn Celo-Syria a Phenice. 18Bydded hysbys yn awr i'n harglwydd fod yr Iddewon a ddaeth i fyny oddi wrthych atom ni, ac a aeth i Jerwsalem, yn adeiladu'r ddinas wrthryfelgar a drwg honno, yn atgyweirio ei marchnadoedd a'i muriau, ac yn gosod sylfeini teml. 19Yn awr os adeiledir y ddinas hon a gorffen ei muriau, byddant nid yn unig yn gwrthod talu teyrnged, ond hefyd yn gwrthryfela yn erbyn brenhinoedd. 20Oherwydd bod y gwaith ar y deml yn mynd yn ei flaen, dyma ni'n meddwl y byddai'n well i ni beidio ag anwybyddu'r fath sefyllfa, 21ond ei hysbysu i'n harglwydd y brenin, er mwyn i archwiliad gael ei wneud, os yw'n dda gennyt, yn llyfrau dy hynafiaid. 22Byddi'n darganfod yn y cofnodion yr hyn a ysgrifennwyd amdanynt, a chei wybod i'r ddinas hon fod yn wrthryfelgar a blino brenhinoedd a dinasoedd, 23ac i'r Iddewon hwythau fod yn wrthryfelgar a chodi terfysg ynddi ers amser maith. Yn wir, dyna pam y difrodwyd y ddinas hon. 24Felly yr ydym yn awr yn dy hysbysu, arglwydd frenin, os adeiledir y ddinas hon ac os ailgodir ei muriau, na fydd modd i ti ddychwelyd i Celo-Syria nac i Phenice.”
25Yna ysgrifennodd y brenin mewn ateb i Rawmus y cofnodydd, Beeltemus, Samsaius yr ysgrifennydd, a gweddill eu cyd-swyddogion, a oedd yn byw yn Samaria, Syria a Phenice, fel hyn: 26“Darllenais y llythyr a anfonasoch ataf. Ac o ganlyniad gorchmynnais chwilio, a darganfuwyd bod y ddinas hon ers amser maith wedi bod yn ymladd yn erbyn brenhinoedd, 27a bod ei thrigolion wedi achosi terfysgoedd a rhyfeloedd, a hefyd bod brenhinoedd cryf a chreulon yn Jerwsalem wedi arglwyddiaethu ar Celo-Syria a Phenice a chodi treth arnynt. 28Felly gorchmynnais yn awr rwystro'r bobl hynny rhag adeiladu'r ddinas, a gofalu na wneir dim pellach, 29na gyrru ymlaen â'r fath bethau drwg i flino brenhinoedd.”
30Yna, wedi i lythyr y Brenin Artaxerxes gael ei ddarllen, cychwynnodd Rawmus a Samsaius yr ysgrifennydd a'u cyd-swyddogion ar frys i Jerwsalem gyda gwŷr meirch a mintai yn barod i ryfel, a dechrau rhwystro'r adeiladwyr. Peidiodd y gwaith o adeiladu'r deml yn Jerwsalem hyd yr ail flwyddyn o deyrnasiad Dareius brenin Persia.

Currently Selected:

1 Esdras 2: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy