Logo der Bibel App
Suchsymbol

Datguddiad 7

7
A.D. 96. —
3 Angel yn selio gwasanaethwyr Duw yn eu talcennau. 4 Nifer y rhai a seliwyd: o lwythau Israel rhifedi hysbysol: 9 o bob cenhedloedd eraill tyrfa aneirif, y rhai sydd yn sefyll gerbron yr orseddfainc, â gynau gwynion amdanynt, ac â phalmwydd yn eu dwylo. 14 Bod eu gynau wedi eu golchi yng ngwaed yr Oen.
1Ac ar ôl y pethau hyn, mi a welais bedwar angel yn sefyll ar bedair congl y ddaear, yn dal pedwar gwynt y ddaear, fel na chwythai’r gwynt ar y ddaear, nac ar y môr, nac ar un pren. 2Ac mi a welais angel arall yn dyfod i fyny oddi wrth godiad haul, a sêl y Duw byw ganddo. Ac efe a lefodd â llef #7:2 fawr.uchel ar y pedwar angel, i’r rhai y rhoddasid gallu i ddrygu’r ddaear a’r môr, 3Gan ddywedyd, #Pen 6:6; 9:4Na ddrygwch y ddaear, na’r môr, na’r prennau, nes darfod i ni #Esec 9:4; Pen 14:1selio gwasanaethwyr ein Duw ni yn eu talcennau. 4Ac mi a glywais nifer y rhai a seliwyd: yr oedd wedi eu selio gant a phedair a deugain o filoedd o holl lwythau meibion Israel. 5O lwyth Jwda yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Reuben yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Gad yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. 6O lwyth Aser yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Neffthali yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Manasses yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. 7O lwyth Simeon yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Lefi yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Issachar yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. 8O lwyth Sabulon yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Joseff yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Benjamin yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. 9Wedi hyn mi a edrychais; ac wele dyrfa fawr, yr hon ni allai neb ei rhifo, o bob cenedl, a llwythau, a phobloedd, #7:9 a thafodau.ac ieithoedd, yn sefyll gerbron yr orseddfainc, a cherbron yr Oen, #Ad. 14wedi eu gwisgo mewn gynau gwynion, a phalmwydd yn eu dwylo; 10Ac yn llefain â llef #7:10 fawr.uchel, gan ddywedyd, #Salm 3:8; Esa 43:11; Jer 3:23; Hos 13:4Iachawdwriaeth i’n Duw ni, yr hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc, ac i’r Oen. 11A’r holl angylion a safasant o amgylch yr orseddfainc, a’r henuriaid, a’r pedwar anifail, ac a syrthiasant gerbron yr orseddfainc ar eu hwynebau, ac a addolasant Dduw, 12Gan ddywedyd, Amen: Y fendith, a’r gogoniant, a’r doethineb, a’r diolch, a’r anrhydedd, a’r gallu, a’r nerth, a fyddo i’n Duw ni yn oes oesoedd. Amen. 13Ac un o’r henuriaid a atebodd, gan ddywedyd wrthyf, Pwy ydyw’r rhai hyn sydd wedi eu gwisgo #Pen 3:5, 18; 6:11; 16:15; 19:8; Ad. 9, 14mewn gynau gwynion? ac o ba le y daethant? 14Ac mi a ddywedais wrtho ef, Arglwydd, ti a wyddost. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Y rhai hyn yw’r rhai a ddaethant allan o’r cystudd mawr, ac #Esa 1:18; Heb 9:14; 1 Ioan 1:7; Pen 1:5; Edrych Sech 3:3, 4, 5a olchasant eu gynau, ac a’u canasant hwy yng ngwaed yr Oen. 15Oherwydd hynny y maent gerbron gorseddfainc Duw, ac yn ei wasanaethu ef ddydd a nos yn ei deml: a’r hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc #Esa 4:5, 6; Pen 21:3a #7:15 esyd ei babell arnynt, neu, trostynt.drig yn eu plith hwynt. 16#Esa 49:10Ni fydd arnynt na newyn mwyach, na syched mwyach; ac #Salm 121:6ni ddisgyn arnynt na’r haul, na dim gwres. 17Oblegid yr Oen, yr hwn sydd yng nghanol yr orseddfainc, #Salm 23:1; Ioan 10:11a’u bugeilia hwynt, ac a’u harwain hwynt at ffynhonnau #7:17 byw.bywiol o ddyfroedd: a #Esa 25:8; Pen 21:4Duw a sych ymaith bob deigr oddi wrth eu llygaid hwynt.

Zur Zeit ausgewählt:

Datguddiad 7: BWM1955C

Markierung

Kopieren

Vergleichen

Teilen

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.