Lefiticus 26
26
1 Am ddelw‐addoliaeth. 2 Am grefydd. 3 Bendith i’r rhai a gadwant y gorchmynion; 14 a melltith i’r rhai a’u torrant. 40 Duw yn addo cofio y rhai a edifarhânt.
1Na wnewch #Exod 20:4; Deut 5:8; 16:22; 27:15; Salm 97:7eilunod i chwi, ac na chodwch i chwi ddelw gerfiedig, na cholofn, ac na roddwch #26:1 Heb. faen llun.ddelw faen yn eich tir i ymgrymu iddi: canys myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi. 2#Pen 19:30Fy Sabothau i a gedwch, a’m cysegr i a berchwch: myfi ydwyf yr Arglwydd.
3 #
Deut 28:1
Os yn fy neddfau i y rhodiwch, a’m gorchmynion a gedwch, a’u gwneuthur hwynt; 4Yna mi a roddaf eich glaw yn ei amser, a rhydd y ddaear ei chynnyrch, a choed y maes a rydd eu ffrwyth. 5#Amos 9:13A’ch dyrnu a gyrraedd hyd gynhaeaf y grawnwin, a chynhaeaf y grawnwin a gyrraedd hyd amser hau; #Pen 25:19a’ch bara a fwytewch yn ddigonol, #Esa 35:9; Esec 34:25ac yn eich tir y trigwch yn ddiogel. 6Rhoddaf heddwch hefyd yn y tir, a #Job 11:19; Esa 35:9; Esec 34:25gorweddwch hefyd heb ddychrynydd: a gwnaf i’r bwystfil niweidiol #26:6 beidio.ddarfod o’r tir; ac nid â cleddyf trwy eich tir. 7Eich gelynion hefyd a erlidiwch, a syrthiant o’ch blaen ar y cleddyf. 8A #Deut 32:30; Jos 23:10phump ohonoch a erlidia gant, a chant ohonoch a erlidia ddengmil; a’ch gelynion a syrth o’ch blaen ar y cleddyf. 9A mi a edrychaf amdanoch, ac a’ch gwnaf yn ffrwythlon, ac a’ch amlhaf, ac a gadarnhaf fy nghyfamod â chwi. 10A’r hen ystôr a fwytewch, ie, yr hen a fwriwch chwi allan o achos y newydd. 11#Esec 37:26Rhoddaf hefyd fy nhabernacl yn eich mysg; ac ni ffieiddia fy enaid chwi. 12#2 Cor 6:16A mi a rodiaf yn eich plith; a byddaf yn Dduw i chwi, a chwithau a fyddwch yn bobl i mi. 13Myfi yw yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a’ch dygais chwi allan o dir yr Aifft, rhag eich bod yn gaethweision iddynt; a thorrais rwymau eich iau, a gwneuthum i chwi rodio yn sythion.
14 #
Deut 28:15; Galar 2:17; Mal 2:2 Ond os chwi ni wrandewch arnaf, ac ni wnewch yr holl orchmynion hyn; 15Os fy neddfau hefyd a ddirmygwch, ac os eich enaid a ffieiddia fy marnedigaethau, heb wneuthur fy holl orchmynion, ond torri fy nghyfamod; 16Minnau hefyd a wnaf hyn i chwi: gosodaf yn oruchaf arnoch ddychryn, darfodedigaeth, a’r cryd poeth, y rhai a wna i’r llygaid ballu, ac a ofidiant eich eneidiau: a #Job 31:8; Jer 5:17; 12:13heuwch eich had yn ofer; canys eich gelynion a’i bwyty: 17Ac #Pen 17:10a osodaf fy wyneb i’ch erbyn, a chwi a syrthiwch o flaen eich gelynion; a’ch caseion a feistrola arnoch; #Salm 53:5; Diar 28:1ffowch hefyd pan na byddo neb yn eich erlid. 18Ac os er hyn ni wrandewch arnaf, yna y chwanegaf eich cosbi chwi saith mwy am eich pechodau. 19A mi a dorraf falchder eich nerth chwi; a gwnaf eich nefoedd chwi fel haearn, a’ch tir chwi fel pres: 20A’ch cryfder a dreulir yn ofer: canys eich tir ni rydd ei gynnyrch, a choed y tir ni roddant eu ffrwyth.
21Ac os rhodiwch yng ngwrthwyneb i mi, ac ni fynnwch wrando arnaf fi; mi a chwanegaf bla saith mwy arnoch yn ôl eich pechodau. 22#Deut 32:24; Esec 5:17Ac anfonaf fwystfil y maes yn eich erbyn, ac efe a’ch gwna chwi yn ddi‐blant, ac a ddifetha eich anifeiliaid, ac a’ch lleiha chwi; #Barn 5:6; 2 Cron 15:5; Esa 33:8; Galar 1:4a’ch ffyrdd a wneir yn anialwch. 23Ac os wrth hyn ni chymerwch ddysg gennyf, ond rhodio yn y gwrthwyneb i mi; 24#2 Sam 22:27; Salm 18:26Yna y rhodiaf finnau yn y gwrthwyneb i chwithau, a mi a’ch cosbaf chwi hefyd eto yn saith mwy am eich pechodau. 25A dygaf arnoch gleddyf, yr hwn a ddial fy nghyfamod: a phan ymgasgloch i’ch dinasoedd, yna yr anfonaf haint i’ch mysg; a chwi a roddir yn llaw y gelyn. 26#Esa 3:1; Esec 4:16; 5:16; 14:13A phan dorrwyf ffon eich bara, yna deg o wragedd a bobant eich bara mewn un ffwrn, ac a ddygant eich bara adref dan bwys: a #Micha 6:14; Hag 1:6chwi a fwytewch, ac ni’ch digonir chwi. 27Ac os er hyn ni wrandewch arnaf, ond rhodio yng ngwrthwyneb i mi; 28Minnau a rodiaf yng ngwrthwyneb i chwithau mewn llid; a myfi, ie myfi, a’ch cosbaf chwi eto saith mwy am eich pechodau. 29#Deut 28:53; Esec 5:10A chwi a fwytewch gnawd eich meibion, a chnawd eich merched a fwytewch. 30Eich uchelfeydd hefyd a ddinistriaf, ac #2 Cron 34:7; Esec 6:4, 5, 13a dorraf eich delwau, ac a roddaf eich celaneddau chwi ar gelaneddau eich eilunod, a’m henaid a’ch ffieiddia chwi. 31A gwnaf eich dinasoedd yn anghyfannedd, ac #Salm 74:7; Galar 1:10; Esec 9:6; 21:7a ddinistriaf eich cysegroedd, ac ni aroglaf eich aroglau peraidd. 32A mi a ddinistriaf y tir; fel y byddo aruthr gan eich gelynion, y rhai a drigant ynddo, o’i herwydd. 33#Deut 4:27; 28:62, 64Chwithau a wasgaraf ymysg y cenhedloedd, a gwnaf dynnu cleddyf ar eich ôl; a’ch tir fydd ddiffeithwch, a’ch dinasoedd yn anghyfannedd. 34#2 Cron 36:21Yna y mwynha’r tir ei Sabothau yr holl ddyddiau y byddo yn ddiffeithwch, a chwithau a fyddwch yn nhir eich gelynion; yna y gorffwys y tir, ac y mwynha ei Sabothau. 35Yr holl ddyddiau y byddo yn ddiffeithwch y gorffwys; oherwydd na orffwysodd ar eich #Pen 25:2Sabothau chwi, pan oeddech yn trigo ynddo. 36A’r hyn a weddillir ohonoch, dygaf lesgedd ar eu calonnau yn nhir eu gelynion; a #Diar 28:1thrwst deilen yn ysgwyd a’u herlid hwynt; a ffoant fel ffoi rhag cleddyf; a syrthiant hefyd heb neb yn eu herlid. 37A #Esa 10:4syrthiant bawb ar ei gilydd, megis o flaen cleddyf, heb neb yn eu herlid: ac ni ellwch sefyll o flaen eich gelynion. 38Difethir chwi hefyd ymysg y cenhedloedd, a thir eich gelynion a’ch bwyty. 39A’r rhai a weddillir ohonoch, #Deut 4:27; 30:1; Neh 1:9; Jer 3:25; 29:12, 13; Esec 4:17; 6:9; 20:43; 24:23; 33:10; 36:31; Hos 5:15; Sech 10:9a doddant yn eu hanwireddau yn nhir eich gelynion; ac yn anwireddau eu tadau gyda hwynt y toddant. 40Os cyffesant eu hanwiredd, ac anwiredd eu tadau, ynghyd â’u camwedd yr hwn a wnaethant i’m herbyn, a hefyd rhodio ohonynt yn y gwrthwyneb i mi; 41A rhodio ohonof finnau yn eu gwrthwyneb hwythau, a’u dwyn hwynt i dir eu gelynion; os yno yr ymostwng eu calon #Edrych Jer 6:10; 9:25, 26; Rhuf 2:29; Col 2:11ddienwaededig, a’u bod yn fodlon am eu cosbedigaeth: 42Minnau a gofiaf fy nghyfamod â Jacob, a’m cyfamod hefyd ag Isaac, a’m cyfamod hefyd ag Abraham a gofiaf; ac a gofiaf y tir hefyd. 43A’r tir a adewir ganddynt, ac a fwynha ei Sabothau, tra fyddo yn ddiffeithwch hebddynt: a hwythau a fodlonir am eu cosbedigaeth; o achos ac oherwydd dirmygu ohonynt fy marnedigaethau, a ffieiddio o’u henaid fy neddfau. 44Ac er hyn hefyd, pan fyddont yn nhir eu gelynion, #Deut 4:31; Rhuf 11:2nis gwrthodaf ac ni ffieiddiaf hwynt i’w difetha, gan dorri fy nghyfamod â hwynt: oherwydd myfi ydyw yr Arglwydd eu Duw hwynt. 45Ond cofiaf er eu mwyn gyfamod y rhai gynt, y rhai a ddygais allan o dir yr Aifft yng ngolwg y cenhedloedd, i fod iddynt yn Dduw: myfi ydwyf yr Arglwydd. 46Dyma’r deddfau, a’r barnedigaethau, a’r cyfreithiau, y rhai a roddodd yr Arglwydd rhyngddo ei hun a meibion Israel, ym mynydd Sinai, trwy law Moses.
Zur Zeit ausgewählt:
Lefiticus 26: BWM1955C
Markierung
Kopieren
Vergleichen
Teilen
Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society