1 Thesaloniaid 5
5
A.D. 54. —
1 Y mae efe yn myned rhagddo, ac yn dangos, fel o’r blaen, ddull dyfodiad Crist i’r farn; 12 ac yn rhoddi amryw orchmynion; 23 ac felly yn diweddu ei epistol.
1Eithr am #Mat 24:3, 36; Act 1:7yr amserau a’r prydiau, frodyr, nid rhaid i chwi ysgrifennu ohonof atoch. 2Oblegid chwi a wyddoch eich hunain yn hysbys, mai #Mat 24:43, 44felly y daw dydd yr Arglwydd fel lleidr yn y nos. 3Canys pan ddywedant, Tangnefedd a diogelwch; yna #Luc 17:27, 28; 21:34, 35; 2 Thess 1:9y mae dinistr disymwth yn dyfod ar eu gwarthaf, megis gwewyr esgor ar un a fo beichiog; ac ni ddihangant hwy ddim. 4Ond chwychwi, frodyr, nid ydych mewn tywyllwch, fel y goddiweddo’r dydd hwnnw chwi megis lleidr. 5Chwychwi oll, #Eff 5:8plant y goleuni ydych, a phlant y dydd: nid ydym ni o’r nos, nac o’r tywyllwch. 6Am hynny na chysgwn, fel #5:6 y lleill.rhai eraill; eithr #Mat 24:42; 25:13; Rhuf 13:11, 12; 1 Pedr 5:8gwyliwn, a byddwn sobr. 7Canys #Luc 21:34, 36; Rhuf 13:13; 1 Cor 15:34y rhai a gysgant, y nos y cysgant; a’r rhai a feddwant, y nos y meddwant. 8Eithr nyni, gan ein bod o’r dydd, byddwn sobr, #Esa 59:17; Eff 6:14, 16, 17wedi ymwisgo â dwyfronneg ffydd a chariad, ac â gobaith iachawdwriaeth yn lle helm. 9Canys #Rhuf 9:22; Pen 1:10; 1 Pedr 2:8nid apwyntiodd Duw nyni i ddigofaint, ond i gaffael iachawdwriaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist, 10#Rhuf 14:8, 9Yr hwn a fu farw drosom; fel pa un bynnag a wnelom ai gwylied ai cysgu, y byddom fyw gydag ef. 11Oherwydd paham cynghorwch eich gilydd, ac adeiledwch bob un eich gilydd, megis ag yr ydych yn gwneuthur. 12Ac yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, #1 Cor 16:18; Phil 2:29; Heb 13:7, 17adnabod y rhai sydd yn llafurio yn eich mysg, ac yn eich llywodraethu chwi yn yr Arglwydd, ac yn eich #5:12 cynghori.rhybuddio; 13A gwneuthur cyfrif mawr ohonynt mewn cariad, er mwyn eu gwaith. Byddwch dangnefeddus yn eich plith eich hunain. 14Ond yr ydym yn deisyf arnoch, frodyr, #2 Thess 3:11, 12rhybuddiwch y rhai #5:14 allan o drefn.afreolus, diddenwch y gwan eu meddwl, #Rhuf 15:1; Gal 6:1, 2cynheliwch y gweiniaid, byddwch ymarhous wrth bawb. 15#Diar 20:22; 24:29; Mat 5:39, 44; Rhuf 12:17; 1 Cor 6:7; 1 Pedr 3:9Gwelwch na thalo neb ddrwg dros ddrwg i neb: eithr yn wastadol #Gal 6:10; Pen 3:12dilynwch yr hyn sydd dda, #5:15 ym mhlith eich.tuag at eich gilydd, a thuag at bawb. 16#Phil 4:4Byddwch lawen yn wastadol. 17#Luc 18:1; Eff 6:18; Col 4:2Gweddïwch yn ddi‐baid. 18#Eff 5:20; Col 3:17Ym mhob dim diolchwch: canys hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu #5:18 amdanoch.tuag atoch chwi. 19#Eff 4:30; 2 Tim 1:6; Edrych 1 Cor 14:30Na ddiffoddwch yr Ysbryd. 20Na ddirmygwch broffwydoliaethau. 21#1 Cor 2:11, 15; 1 Ioan 4:1Profwch bob peth: deliwch yr hyn sydd dda. 22#Phil 4:8Ymgedwch rhag pob #5:22 math ar ddrwg.rhith drygioni. 23A #Phil 4:9gwir Dduw’r tangnefedd #Pen 3:13a’ch sancteiddio yn gwbl oll: a chadwer eich ysbryd oll, a’ch enaid, a’ch corff, yn ddiargyhoedd yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist. 24#1 Cor 1:9; 10:13; 2 Thess 3:3Ffyddlon yw’r hwn a’ch galwodd, yr hwn hefyd a’i gwna. 25O frodyr, gweddïwch drosom. 26#Rhuf 16:16Anerchwch yr holl frodyr â chusan sancteiddiol. 27Yr ydwyf yn eich tynghedu yn yr Arglwydd, ar ddarllen #Col 4:16; 2 Thess 3:14y llythyr hwn i’r holl frodyr sanctaidd. 28#Rhuf 16:20Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi. Amen.
Y cyntaf at y Thessaloniaid a ysgrifennwyd o Athen.
Zur Zeit ausgewählt:
1 Thesaloniaid 5: BWM1955C
Markierung
Kopieren
Vergleichen
Teilen
Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society