1 Thesaloniaid 3

3
A.D. 54. —
1 Paul yn tystiolaethu ei fawr gariad tuag at y Thessaloniaid, trwy anfon Timotheus atynt i’w cadarnhau, ac i’w diddanu; trwy lawenychu yn eu gweithredoedd da hwy; 10 a thrwy weddïo drostynt, a dymuno cael dyfod yn ddiogel atynt.
1Am hynny, #Ad. 5gan na allem ymatal yn hwy, ni a welsom yn dda ein gadael ni ein hunain yn Athen; 2Ac a ddanfonasom #Rhuf 16:21Timotheus, ein brawd, a gweinidog Duw, a’n cyd‐weithiwr yn efengyl Crist, i’ch cadarnhau chwi, ac i’ch diddanu ynghylch eich ffydd; 3#Eff 3:13Fel na chynhyrfid neb yn y gorthrymderau hyn: canys chwychwi eich hunain a wyddoch #Act 14:22; 2 Tim 3:12; 1 Pedr 2:21mai i hyn y’n gosodwyd ni. 4Canys yn wir pan oeddem gyda chwi, ni a ragddywedasom i chwi y gorthrymid ni; megis y bu, ac y gwyddoch chwi. 5Oherwydd hyn, #Ad. 1minnau, heb allu ymatal yn hwy, a ddanfonais i gael gwybod eich ffydd chwi; rhag darfod i’r temtiwr eich temtio chwi, a #Gal 2:2; 4:11; Phil 2:16myned ein llafur ni yn ofer. 6Eithr yr awron, wedi dyfod Timotheus atom oddi wrthych, a dywedyd i ni newyddion da am eich ffydd chwi a’ch cariad, a bod gennych goffa da amdanom ni yn wastadol, gan hiraethu am ein gweled ni, megis yr ydym ninnau am eich gweled chwithau; 7Am hynny y cawsom gysur, frodyr, #3:7 ynoch.amdanoch chwi, yn ein holl orthrymder a’n hangenoctid, trwy eich ffydd chwi. 8Oblegid yr awron byw ydym ni, os ydych chwi yn sefyll yn yr Arglwydd. 9Canys pa ddiolch a allwn ni ei ad‐dalu i Dduw #3:9 trosoch chwi.amdanoch chwi, am yr holl lawenydd â’r hwn yr ydym ni yn llawen o’ch achos chwi gerbron ein Duw ni, 10#Rhuf 1:10, 11Gan weddïo mwy na mwy, nos a dydd, ar gael gweled eich wyneb chwi, a chyflawni diffygion eich ffydd chwi? 11A Duw ei hun a’n Tad ni, a’n Harglwydd Iesu Grist, a gyfarwyddo ein ffordd ni atoch chwi. 12A’r Arglwydd a’ch lluosogo, ac a’ch chwanego ym mhob cariad #Pen 5:15; 2 Pedr 1:7i’ch gilydd, ac i bawb, megis ag yr ydym ninnau i chwi: 13I #1 Cor 1:8; Phil 1:10; Pen 5:23; 2 Thess 2:17; 1 Ioan 3:20gadarnhau eich calonnau chwi yn ddiargyhoedd mewn sancteiddrwydd gerbron Duw a’n Tad, yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist gyda’i holl saint.

Zur Zeit ausgewählt:

1 Thesaloniaid 3: BWM1955C

Markierung

Kopieren

Vergleichen

Teilen

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.