1
Effesiaid 6:12
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 gyda chroesgyfeiriadau
BWM1955C
Oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn tywysogaethau, yn erbyn awdurdodau, yn erbyn bydol lywiawdwyr tywyllwch y byd hwn, yn erbyn drygau ysbrydol yn y nefolion leoedd.
Vergleichen
Studiere Effesiaid 6:12
2
Effesiaid 6:18
Gan weddïo bob amser â phob rhyw weddi a deisyfiad yn yr Ysbryd, a bod yn wyliadwrus at hyn yma, trwy bob dyfalbara, a deisyfiad dros yr holl saint
Studiere Effesiaid 6:18
3
Effesiaid 6:11
Gwisgwch holl arfogaeth Duw, fel y galloch sefyll yn erbyn cynllwynion diafol.
Studiere Effesiaid 6:11
4
Effesiaid 6:13
Am hynny cymerwch atoch holl arfogaeth Duw, fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg; ac wedi gorffen pob peth, sefyll.
Studiere Effesiaid 6:13
5
Effesiaid 6:16-17
Uwchlaw pob dim, wedi cymryd tarian y ffydd, â’r hon y gellwch ddiffoddi holl bicellau tanllyd y fall. Cymerwch hefyd helm yr iachawdwriaeth, a chleddyf yr Ysbryd, yr hwn yw gair Duw
Studiere Effesiaid 6:16-17
6
Effesiaid 6:14-15
Sefwch gan hynny, wedi amgylchwregysu eich lwynau â gwirionedd, a gwisgo dwyfronneg cyfiawnder; A gwisgo am eich traed esgidiau paratoad efengyl tangnefedd
Studiere Effesiaid 6:14-15
7
Effesiaid 6:10
Heblaw hyn, fy mrodyr, ymnerthwch yn yr Arglwydd, ac yng nghadernid ei allu ef.
Studiere Effesiaid 6:10
8
Effesiaid 6:2-3
Anrhydedda dy dad a’th fam, (yr hwn yw’r gorchymyn cyntaf mewn addewid;) Fel y byddo yn dda i ti, ac fel y byddech hir‐hoedlog ar y ddaear.
Studiere Effesiaid 6:2-3
9
Effesiaid 6:1
Y plant, ufuddhewch i’ch rhieni yn yr Arglwydd: canys hyn sydd gyfiawn.
Studiere Effesiaid 6:1