Ruth 2:4 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Ruth 2:4 BNET (beibl.net 2015, 2024)
A phwy fyddai’n meddwl! Dyma Boas yn dod o Fethlehem a chyfarch y gweithwyr yn y cynhaeaf. “Duw fyddo gyda chi!” meddai wrthyn nhw. A dyma nhw’n ateb, “Bendith Duw arnat tithau hefyd!”
Rhanna
Ruth 2 BNETRuth 2:4 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dyna Boas ei hun yn cyrraedd o Fethlehem ac yn cyfarch y medelwyr, “Yr ARGLWYDD fyddo gyda chwi,” a hwythau'n ateb, “Bendithied yr ARGLWYDD dithau.”
Rhanna
Ruth 2 BCNDRuth 2:4 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele, Boas a ddaeth o Bethlehem, ac a ddywedodd wrth y medelwyr, Yr ARGLWYDD a fyddo gyda chwi. Hwythau a ddywedasant wrtho ef, Yr ARGLWYDD a’th fendithio.
Rhanna
Ruth 2 BWM