Neidio i'r cynnwys

Ruth 2:22 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Ruth 2:22 BNET (beibl.net 2015, 2024)

A dyma Naomi yn dweud, “Ie, dyna’r peth gorau i ti ei wneud, fy merch i. Aros gyda’r merched sy’n gweithio iddo fe. Fel yna, fydd neb yn ymosod arnat ti mewn cae arall.”

Ruth 2:22 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Ac meddai Naomi wrth ei merch-yng-nghyfraith Ruth, “Y mae'n well iti, fy merch, fynd allan gyda'i lancesau ef, rhag i rywrai ymosod arnat mewn rhyw faes arall.”

Ruth 2:22 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

A dywedodd Naomi wrth Ruth ei gwaudd, Da yw, fy merch, i ti fyned gyda’i lancesi ef, fel na ruthront i’th erbyn mewn maes arall.