Neidio i'r cynnwys

Ruth 2:19 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Ruth 2:19 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Gofynnodd Naomi iddi, “Ble fuost ti’n gweithio ac yn casglu grawn heddiw? Bendith Duw ar bwy bynnag gymrodd sylw ohonot ti!” A dyma Ruth yn esbonio lle roedd hi wedi bod. “Boas ydy enw’r dyn lle roeddwn i’n gweithio,” meddai.

Ruth 2:19 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Gofynnodd ei mam-yng-nghyfraith iddi, “Ple buost ti'n lloffa ac yn llafurio heddiw? Bendith ar y sawl a gymerodd sylw ohonot.” Eglurodd hithau i'w mam-yng-nghyfraith gyda phwy y bu'n llafurio, a dweud, “Boas oedd enw'r dyn y bûm yn llafurio gydag ef heddiw.”

Ruth 2:19 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

A dywedodd ei chwegr wrthi hi, Pa le y lloffaist heddiw, a pha le y gweithiaist? bydded yr hwn a’th adnabu yn fendigedig. A hi a fynegodd i’w chwegr pwy y gweithiasai hi gydag ef; ac a ddywedodd, Enw y gŵr y gweithiais gydag ef heddiw, yw Boas.