Skip to content
Logo Ap Beibl

Rhufeiniaid 9:22 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Rhufeiniaid 9:22 BNET (beibl.net 2015, 2024)

A’r un fath, mae gan Dduw berffaith hawl i ddangos ei ddigofaint a’i nerth! Mae wedi bod mor amyneddgar gyda’r rhai sy’n haeddu dim byd ond cosb, ac sy’n dda i ddim ond i gael eu dinistrio!

Rhufeiniaid 9:22 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Ond beth os yw Duw, yn ei awydd i ddangos ei ddigofaint ac i amlygu ei nerth, wedi dioddef â hir amynedd y llestri hynny sy'n wrthrychau digofaint ac yn barod i'w dinistrio?

Rhufeiniaid 9:22 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Beth os Duw, yn ewyllysio dangos ei ddigofaint, a pheri adnabod ei allu, a oddefodd trwy hirymaros lestri digofaint, wedi eu cymhwyso i golledigaeth