Rhufeiniaid 15:27 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Rhufeiniaid 15:27 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Roedden nhw’n falch o gael cyfle i rannu fel hyn, am eu bod yn teimlo fod ganddyn nhw ddyled i’w thalu. Mae pobl y cenhedloedd wedi cael rhannu bendithion ysbrydol yr Iddewon, felly mae’n ddigon teg i’r Iddewon gael help materol.
Rhufeiniaid 15:27 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwelsant yn dda, do, ond yr oeddent hefyd dan ddyled iddynt. Oherwydd os cafodd y Cenhedloedd gyfran o'u trysor ysbrydol hwy, y mae'n ddyled ar y Cenhedloedd weini arnynt mewn pethau tymhorol.
Rhufeiniaid 15:27 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys rhyngodd bodd iddynt; a’u dyledwyr hwy ydynt. Oblegid os cafodd y Cenhedloedd gyfran o’u pethau ysbrydol hwynt, hwythau hefyd a ddylent weini iddynt hwythau mewn pethau cnawdol.