Neidio i'r cynnwys

Rhufeiniaid 11:11 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Rhufeiniaid 11:11 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Felly ydw i’n dweud fod yr Iddewon wedi baglu a syrthio, a byth yn mynd i godi eto? Wrth gwrs ddim! Mae’r ffaith eu bod nhw wedi llithro yn golygu fod pobl o genhedloedd eraill yn cael eu hachub. Ac mae hynny yn ei dro yn gwneud yr Iddewon yn eiddigeddus.

Rhufeiniaid 11:11 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Yr wyf yn gofyn, felly, a yw eu llithriad yn gwymp terfynol? Nac ydyw, ddim o gwbl! I'r gwrthwyneb, am iddynt hwy droseddu y mae iachawdwriaeth wedi dod i'r Cenhedloedd, i wneud yr Iddewon yn eiddigeddus.

Rhufeiniaid 11:11 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Gan hynny meddaf, A dramgwyddasant hwy fel y cwympent? Na ato Duw: eithr trwy eu cwymp hwy y daeth iachawdwriaeth i’r Cenhedloedd, i yrru eiddigedd arnynt.