Skip to content
Logo Ap Beibl

Rhufeiniaid 1:8 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Rhufeiniaid 1:8 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Dw i eisiau i chi wybod yn gyntaf fy mod i’n diolch i Dduw drwy Iesu y Meseia amdanoch chi i gyd, achos mae pobl drwy’r gwledydd i gyd yn sôn am eich ffydd chi.

Rhufeiniaid 1:8 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Yn gyntaf oll, yr wyf yn diolch i'm Duw, trwy Iesu Grist, amdanoch chwi oll, oherwydd y mae'r sôn am eich ffydd yn cerdded trwy'r holl fyd.

Rhufeiniaid 1:8 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Yn gyntaf, yr wyf yn diolch i’m Duw trwy Iesu Grist drosoch chwi oll, oblegid bod eich ffydd chwi yn gyhoeddus yn yr holl fyd.