Neidio i'r cynnwys

Numeri 26:63 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Numeri 26:63 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Felly dyna ffigyrau’r cyfrifiad wnaeth Moses ac Eleasar yr offeiriad pan oedd pobl Israel yn gwersylla ar wastatir Moab, wrth ymyl afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho.

Numeri 26:63 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Dyma'r Israeliaid a restrwyd gan Moses ac Eleasar yr offeiriad yng ngwastadedd Moab, gyferbyn â Jericho ger yr Iorddonen.

Numeri 26:63 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Dyma rifedigion Moses ac Eleasar yr offeiriad, y rhai a rifasant feibion Israel yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho.