Neidio i'r cynnwys

Numeri 2:31 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Numeri 2:25-31 BNET (beibl.net 2015, 2024)

I’r gogledd, bydd adrannau’r tri llwyth olaf yn gwersylla dan eu fflag: Y milwyr yma ar ochr Dan i’r gwersyll fydd yn symud allan olaf. Bydd pob llwyth yn mynd dan ei fflag ei hun.

Numeri 2:31 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Cyfanswm gwersyll Dan fydd cant pum deg saith o filoedd a chwe chant. Hwy fydd yr olaf i gychwyn allan, pob un dan ei faner ei hun.”

Numeri 2:31 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Holl rifedigion gwersyll Dan fyddant gan mil ac onid tair mil trigain mil a chwe chant. Yn olaf y cychwynnant â’u llumanau.