Neidio i'r cynnwys

Micha 2:2 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Micha 2:2 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Maen nhw’n cymryd y tir maen nhw’i eisiau, ac yn dwyn eu tai oddi ar bobl. Maen nhw’n cipio cartrefi drwy dwyll a thrais ac yn dwyn etifeddiaeth pobl eraill.

Micha 2:2 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Y maent yn chwenychu meysydd ac yn eu cipio, a thai, ac yn eu meddiannu; y maent yn treisio perchennog a'i dŷ, dyn a'i etifeddiaeth.

Micha 2:2 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Meysydd a chwenychant hefyd, ac a ddygant trwy drais; a theiau, ac a’u dygant: gorthrymant hefyd ŵr a’i dŷ, dyn a’i etifeddiaeth.