Mathew 7:3 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Mathew 7:3 BNET (beibl.net 2015, 2024)
“Pam wyt ti’n poeni am y sbecyn o flawd llif sydd yn llygad rhywun arall, pan mae trawst o bren yn sticio allan o dy lygad dy hun!?
Mathew 7:3 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pam yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy gyfaill, a thithau heb sylwi ar y trawst sydd yn dy lygad dy hun?
Mathew 7:3 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phaham yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun?