Mathew 6:2-3 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Mathew 6:2-3 BNET (beibl.net 2015, 2024)
“Felly, pan fyddi’n rhoi arian i’r tlodion, paid trefnu ffanffer er mwyn gwneud yn siŵr fod pawb yn gwybod am y peth. Dyna mae’r rhai sy’n gwneud sioe o’u crefydd yn ei wneud yn y synagogau ac ar y strydoedd. Maen nhw eisiau i bobl eraill eu canmol nhw. Credwch chi fi, dyna’r unig wobr gân nhw! Pan fyddi di’n rhoi arian i’r tlodion, paid gadael i neb wybod am y peth.
Mathew 6:2-3 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
“Felly, pan fyddi'n rhoi elusen, paid â chanu utgorn o'th flaen, fel y mae'r rhagrithwyr yn gwneud yn y synagogau ac yn yr heolydd, er mwyn cael eu canmol gan eraill. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae eu gwobr ganddynt eisoes. Ond pan fyddi di'n rhoi elusen, paid â gadael i'th law chwith wybod beth y mae dy law dde yn ei wneud.
Mathew 6:2-3 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny pan wnelych elusen, na utgana o’th flaen, fel y gwna’r rhagrithwyr yn y synagogau, ac ar yr heolydd, fel y molianner hwy gan ddynion. Yn wir meddaf i chwi, Y maent yn derbyn eu gwobr. Eithr pan wnelych di elusen, na wyped dy law aswy pa beth a wna dy law ddeau