Skip to content
Logo Ap Beibl

Mathew 5:25 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Mathew 5:25 BNET (beibl.net 2015, 2024)

“Os bydd rhywun yn dy gyhuddo o rywbeth ac yn mynd â ti i’r llys, setla’r mater ar unwaith cyn cyrraedd y llys. Ydy’n well gen ti iddo fynd â ti o flaen y barnwr, ac i’r barnwr orchymyn i swyddog dy roi yn y carchar?

Mathew 5:25 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Os bydd rhywun yn dy gymryd i'r llys, bydd barod i ddod i gytundeb buan tra byddwch ar y ffordd yno, rhag i'th wrthwynebydd dy draddodi i'r barnwr, ac i'r barnwr dy roi i'r swyddog, ac i ti gael dy fwrw i garchar.

Mathew 5:25 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Cytuna â’th wrthwynebwr ar frys, tra fyddech ar y ffordd gydag ef; rhag un amser i’th wrthwynebwr dy roddi di yn llaw’r barnwr, ac i’r barnwr dy roddi at y swyddog, a’th daflu yng ngharchar.